Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedigcyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellafRhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

4.

Cynigion Drafft Cyllideb

Gwahoddir y Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal i Oedolionac Iechyd Cymunedol, Cyng Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Plant a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 17 Chwefror 2022, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 10 Chwefror 2022).

 

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 15 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 17 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Mark Child, Elliott King ac Alison Pugh ynghyd â swyddogion perthnasol yn bresennol ac aethpwyd drwy'r cynigion cyllideb arfaethedig mewn perthynas â’r Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Thlodi a’i Atal, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

  • Roedd y panel yn falch iawn o weld sefyllfa'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol eleni, oherwydd y cynnydd ac oherwydd yr arbedion, sy'n edrych fel pe baent i gyd yn mynd i fod yn gytundebol.  Yr unig bryder bach i'r panel yw pa mor bell y bydd yr arbedion cytundebol hyn yn mynd.  
  • Mae'r panel yn deall bod Papurau'r Cabinet yn dangos cynnydd o £8.5m yng Nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 ond y gyllideb arfaethedig wirioneddol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23, yn nhaflen grynodeb y Gyllideb Refeniw, yw £16m.  Mae'r panel yn deall bod yr £8.5m ar gyfer pwysau ychwanegol a bod y gwahaniaeth rhwng hyn a'r £16m ar gyfer twf parhaus o fewn y gwasanaeth.  Mae'r panel yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i fuddsoddi i wella gwasanaethau.  
  • Mae'r panel yn bwriadu edrych yn fanylach ar drawsnewid gwasanaethau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Mae angen am wasanaethau sy'n cael eu rhedeg yn economaidd ac yn effeithlon, ac mae angen i'r panel sicrhau nad ydym yn colli golwg ar hyn.
  • Mae'r panel yn croesawu'r cyfathrebu gwell rhwng Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gobeithio y bydd y berthynas hon yn parhau i dyfu.

 

Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn bresennol yn y Cabinet ar 17 Chwefror i roi barn gyfunol y paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at yr aelod Cabinet.

 

5.

Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19 and a'r Cynllun Staffio Brys

Mark Child, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac Iechyd Cymunedol

Elliott King, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Daeth Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran pandemig COVID-19 a materion staffio.

 

Pwyntiau Trafod:

 

  • Hysbyswyd y panel fod y cynllun wrth gefn a roddwyd ar waith yn ystod ton omicron o'r radd flaenaf.  Mae heintiau wedi sefydlogi ar lefelau uchel o drosglwyddo cymunedol a disgwylir i hyn bara tan y Pasg.  Bydd pwysau mawr yn parhau i fod tan hynny ond mae cynlluniau wrth gefn sydd ar waith yn golygu bod rhywfaint o gyfle i ailganolbwyntio ar ôl-groniad. Rydym yn gobeithio ehangu gwasanaethau dydd a chynigion seibiant yn ystod y misoedd nesaf ac yna o'r Pasg byddwn yn canolbwyntio ar yr agenda trawsnewid.
  • Pwysau gwirioneddol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.  Mae goblygiadau cael nifer o weithwyr cymdeithasol nad ydynt ar y lefelau angenrheidiol yn golygu bod angen recriwtio staff â chymwysterau gwahanol, y byddant yn gallu canolbwyntio ar feysydd sy'n caniatáu i weithwyr cymdeithasol cymwysedig ganolbwyntio ar y meysydd risg uchaf a’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed.
  • Holodd y panel am effaith COVID-19 hir ar gynlluniau'r Adran.  Dywedwyd y bydd angen ailfodelu elfennau o'r cynnig Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi sefydlu gwasanaeth COVID-19 hir arbenigol yn y rhanbarth, ond dim ond tan ddiwedd y flwyddyn ariannol y caiff cyllid ei sicrhau ar hyn o bryd. O ran y gweithlu, nid yw'n sylweddol iawn o ran niferoedd, ond ffactor arwyddocaol yw’r absenoldebau tymor hir gan fod nifer ohonynt yn  gysylltiedig â COVID-19 hir.
  • Gofynnodd y panel i Aelodau'r Cabinet a swyddogion fynegi faint y mae'n gwerthfawrogi gwaith ac ymdrech y rheolwyr a'r staff o fewn yr Adran.