Agenda a Chofnodion
Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau.
|
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 373 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021, yn gofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cllr Mark Thomas - Aelod Y Cabinet Dros Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Jeremy Davies - Arweinydd Grŵp Parciau a Glanhau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf gan y
Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd a Jeremy Davies, Arweinydd Grŵp - Parciau a Glanhau. Canolbwyntiwyd
ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Cyd-destun ac amlinelliad o Glefyd Coed Ynn. Mae'r clefyd
yn effeithio ar goed ynn drwy rwystro'r systemau cludo dŵr. Os nad
ymdrinnir â'r rhain, bydd y coed mewn perygl o gwympo ac yn cyflwyno perygl
dybryd i'r ardal gyfagos. ·
Materion rhanbarthol a'r DU ehangach. Mae hon yn broblem
sylweddol, gymhleth a drud. Mae hon yn broblem ledled Ewrop a disgwylir iddi
effeithio ar 90% o goed ynn. ·
Derbyniodd y Cabinet a'r Cynghorwyr sesiynau briffio ym
mis Mai 2019, ac erbyn hyn mae gan wefan y cyngor adran Cwestiynau Cyffredin. ·
Ystyrir hyn fel risg gorfforaethol, ac fe'i nodwyd felly
- mae hyn yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, ond mae hefyd effeithiau
ariannol sylweddol i'w hysgwyddo o ganlyniad i arolygu pob coeden ar holl dir y
cyngor. ·
Mae Uned Gwasanaethau Coed yr Adran Parciau wedi
blaenoriaethu coed categori 3 a 4 yn ei lefel uchaf o ran ymateb. Mae hyn yn
effeithio ar y gallu i wneud llai o waith brys a gwaith coedyddiaeth sy'n
gysylltiedig ag incwm. ·
Mae'n anodd mynd i'r afael â choed categori 3 a 4 am eu
bod yn heriol ac yn cymryd cryn amser. ·
Mae priffyrdd cyhoeddus, parciau a mynwentydd wedi'u
blaenoriaethu o ran cael gwared ar goed peryglus. ·
Mae pren oddi ar goed sydd wedi'u torri sydd mewn cyflwr
y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei adennill ar gyfer y Prosiect Ailddefnyddio
Coed Gwastraff, a'i ddefnyddio i gynhyrchu meinciau, sydd wedyn yn cael eu
gosod ym mharciau Abertawe. ·
Mae gosod coed newydd yn lle coed sydd wedi'u torri yn
parhau i fod yn her. Mewn rhai achosion, efallai na fydd angen ailblannu coed,
gan ganiatáu i natur gymryd drosodd yn naturiol. ·
Mae costau ariannol uniongyrchol o oddeutu £150,000 y
flwyddyn. Mae costau anuniongyrchol ar gyfer gwaith arall yn cael eu hosgoi. ·
Defnyddir contractwyr i dorri coed pan fydd nifer mawr o
goed yn meddiannu un lleoliad ac yn gyffredinol gyfagos i'r briffordd. ·
Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu peiriannau
ac offer. ·
Holodd yr Aelodau am y strategaethau ailblannu sy'n cael
eu defnyddio a pha goed sy'n cymryd lle'r coed ynn a dorrwyd. Esboniodd
swyddogion fod y clefyd yn debygol o effeithio ar unrhyw goed ynn newydd, beth
bynnag fo'u hoedran. ·
Mae dangosyddion cynnar yn dangos y gall fod gan 5-10% o
goed ymwrthedd genetig. Cwblhawyd arolygon blynyddol er mwyn cadarnhau cyflwr
coed. ·
Nid yw coed ynn unigol a dorrwyd o reidrwydd yn cael eu
hailblannu yn y lleoliad lle cawsant eu torri, ond caniateir i natur
weithredu'n naturiol yn yr ardaloedd drwy dyfu fflora
a ffawna. ·
Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Ehangach – mae'r coed a
blannwyd o rywogaethau brodorol a chymysg, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw
glefydau newydd yn effeithio arnynt i gyd. ·
Bioamrywiaeth – mae nifer o rywogaethau yn gwbl ddibynnol
ar goed ynn. Mae canllawiau lleol ar gael i ddelio â hyn. Tua 50 rhywogaeth o
goed i fod yn gynhalwyr ar gyfer cen sy'n dibynnu ar goed ynn. ·
O ran adfywio coed ifanc, byddant o'r un stoc genetig, er
y byddant yn darparu cynefin uniongyrchol i rai rhywogaethau. Gall gadael
bonion hefyd ddarparu cynefin ar gyfer cen. ·
Gall rhywogaethau goresgynnol o fasarnen gymryd drosodd
os na chânt eu rheoli. ·
Holodd yr Aelodau beth y mae'r cyngor wedi'i wneud i
sicrhau ymwybyddiaeth o'r pwnc hwn ymhlith tirfeddianwyr preifat. Esboniodd
swyddogion fod cyfathrebu a chyhoeddiadau helaeth wedi'u cynnal. ·
Holodd yr Aelodau faint o ymchwil sy'n cael ei gwneud
ynghylch ymwrthedd genetig. Mae swyddogion yn cymryd rhan mewn prosiectau
ehangach i ddarparu samplau ar gyfer ymchwil ehangach ledled y DU. Mae
prosiectau ymchwil cenedlaethol yn parhau. ·
Cododd yr Aelodau ymholiadau am arwyddion a byrddau
gwybodaeth parhaol mewn ardaloedd lle effeithir ar ganran fwy o goetir.
Esboniodd swyddogion fod arwyddion yn cael eu darparu cyn ac yn ystod y gwaith
torri, gan adael arwyddion bioddiraddadwy hefyd ar ôl cwblhau gwaith ar raddfa fwy.
Awgrymwyd arwyddion parhaol. ·
Ymrwymodd swyddogion i hysbysebu aelodau'n well am dorri
arfaethedig mewn wardiau. ·
Awgrymodd yr Aelodau raglen noddi coed, a fyddai'n
caniatáu i aelodau o'r cyhoedd ymgysylltu ag ailblannu. Ystyriodd
aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn
am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn CYTUNWYD y byddai'r
Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel yr ohebiaeth a anfonwyd yn dilyn cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021. |
|