Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Remotely via MS Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 636292
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 224 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021, yn gofnodion cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i
gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau
o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Roedd dau
gwestiwn cyhoeddus, yn canolbwyntio ar (a) llosgi coed domestig
a (b) defnyddio data ansawdd
aer cenedlaethol i lywio strategaeth y cyngor. Trafododd y Panel gwestiwn (a) yng nghyd-destun Llygredd Aer a monitro'r un
peth. Amlinellodd y Cynghorydd Mark Thomas ddull gweithredu'r cyngor a thynnodd sylw at y ffaith na ellir
cyflawni dull o fonitro/orfodi
ar draws y ddinas ar hyn o bryd,
fodd bynnag, mae'r cyngor yn gwneud gwelliannau parhaus i safonau a pholisïau Ansawdd Aer, yn unol â chanllawiau'r
Llywodraeth. Cadarnhaodd swyddogion fod gan y cyngor, dan
ddarpariaethau niwsans statudol, bwerau i ymateb i gwynion ynghylch rheoli mwg, a bydd
yn gwneud hynny os daw cwyn i law. Cydnabu'r Cynghorydd Mark Thomas gwestiwn (b) fel mater polisi ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol, ac ymrwymodd i ddarparu ateb ysgrifenedig llawn maes o law. |
|
i)
Cyngor
Abertawe Mark Thomas – Aelod y Cabinet - Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Tom Price – Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat ii)
Prifysgol
Abertawe Victoria Seller – Swyddog Ymchwil Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Panel
drafodaeth am strategaethau Rheoli Ansawdd Aer cyfredol y cyngor. Clywodd y Panel am y polisïau a'r cynlluniau
sydd ar waith ar hyn o bryd gan Aelodau Cabinet arweiniol a swyddogion
perthnasol. Cododd Aelodau'r Panel gwestiynau ynglŷn â'r adroddiad a gyflwynwyd,
gyda diddordeb mewn gwybod rhagor am y dechnoleg a'r adnoddau sydd ar gael i
gefnogi gwaith Tîm Rheoli Llygredd y cyngor, megis y dadansoddwr PM2.5 ar Fabian
Way. Clywodd y Panel hefyd am y Sgrîn Werdd sydd
wedi'i gosod ar Fabian Way,
a gwaith y cyngor i edrych ar ganlyniadau, yn ystod ac ar ôl y cyfyngiadau
symud, gan helpu i nodi a mesur manteision i liniaru rhywfaint o amlygiad i
lygredd peiriannau. Canolbwyntiwyd
ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Sefydlwyd Panel Cynghori ar Aer Glân gyda Llywodraeth
Cymru, i roi cyngor ar faterion sy'n codi o ansawdd aer. ·
Cyfle i gynnwys ysgolion / disgyblion mewn prosiectau
isadeiledd gwyrdd - yr angen i ymgysylltu â phlant o oedran ifanc, gan newid
ymddygiadau traddodiadol. ·
Effeithiau trawsffiniol – rhai llygryddion cynyddol yn
ystod y cyfyngiadau symud yn y cyd-destun ehangach. ·
Data cyfrif traffig / llif traffig: Mae gallu ar gael i
ymchwilio i ddyddiau/ddigwyddiadau penodol ac effaith traffig dwysedd uwch ar y
data. Mae Prifysgol Abertawe'n bwriadu ymchwilio i
ddigwyddiadau mawr yn Abertawe, ac unrhyw effaith ddilynol ar ansawdd aer. ·
Peiriannau segur – er enghraifft, casgliadau ysgol. Mater o bryder bod plant yn agored i
gysylltiad crynodedig yn ystod yr amserau hyn.
Ni ddylai bysus fod yn rhedeg yn rhy hir gyda pheiriannau segur. Clywodd
y Panel fod gan fysus dan gontract gyda'r cyngor gyfnod segur cyfyngedig, a
dylid rhoi gwybod am unrhyw beth y tu hwnt i hynny. Cydnabu cynghorwyr ei bod
yn anodd monitro/gorfodi ceir ar adegau codi y tu allan i ysgolion. Awgrymodd
Aelodau'r Panel y dylid annog gweithredwyr bysus i osod technoleg fonitro i
fesur amseroedd peiriannau segur. ·
Addysg – mae angen rhoi gwybodaeth well i'r cyhoedd am
ganlyniadau ymddygiadau penodol. ·
Cydnabu'r cynghorwyr y llwyth gwaith a'r straen cynyddol
a roddwyd ar y tîm yn ystod cyfnod ymateb y pandemig.
Cafodd y Panel gyflwyniad hefyd gan Victoria
Seller o Brifysgol Abertawe, yn ymdrin â throsolwg o strategaethau Ansawdd Aer
yng Nghymru. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol: ·
Roedd Adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd
Plant (RCPCH) (2016) yn amcangyfrif bod 40,000 o farwolaethau cynnar bob
blwyddyn yn gysylltiedig ag ansawdd aer yn y DU. ·
Mae ansawdd aer yn gysylltiedig ag ystod enfawr o
faterion iechyd, gan gynnwys nanoronynnau sy'n
croesi'r rhwystr gwaed/ymennydd. ·
Efallai nad yw canllawiau a safonau'n diogelu iechyd pawb
mewn cymdeithas. ·
Mae nwy nitrogen deuocsid yn gysylltiedig â thraffig ac
yn digwydd yn lleol mewn pocedi penodol. ·
Mae llygredd aer yn gysylltiedig ag iechyd ac
amddifadedd, sy'n effeithio'n anghymesur ar rai cymunedau. ·
Disgwylir i Ganllawiau Nodweddion Aer (Sefydliad Iechyd y
Byd) gael eu diweddaru'n fuan. ·
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn
rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i weithio mewn ffordd gydlynol i reoli
Llygredd Aer. ·
Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (RhTGA) – 11 safle ledled Cymru, 2 mewn ardaloedd gwledig,
diffyg lledaeniad da o ddwysedd monitro oherwydd cost dangoswyr a gweithrediad
dwys o ran amser. Mae'r dangoswyr hyn, ynghyd â rhagfynegiadau data, yn dangos
problemau gyda Nitrogen Deuocsid. ·
40 o ddangoswyr awtomataidd ledled Cymru, yn ogystal ag
11 RhTGA. ·
Mae gan 12 awdurdod diwbiau gwasgariad, technoleg syml
fach, sy'n mesur crynodiad hirdymor o Nitrogen Deuocsid. ·
Bydd y Brifysgol yn ymgymryd â darn newydd o waith /
ymchwil sy'n ymwneud ag effaith llai o draffig yn ystod y cyfyngiadau symud, ar
ansawdd aer. Yr Hypothesis yw y bydd y gostyngiad mewn traffig yn cyfateb i
ostyngiad yn NA2 a PM2.5. Manteisiodd y Panel hefyd ar y cyfle i holi am y
polisïau sy'n ymwneud â'r Cynllun Datblygu Lleol / mwy o adeiladu tai, a'r
cynnydd dilynol ar lygredd traffig/aer. Tynnodd y Cynghorydd Thomas sylw at
angen clir wedi'i ddiffinio am ragor o dai yn genedlaethol, gan gydnabod y
cydbwysedd sydd ei angen rhwng gofynion tai ac effeithiau ar wasanaethau
cyfagos. Ystyriodd aelodau'r
Panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y
ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn CYTUNWYD y byddai'r
Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel yr
ohebiaeth a anfonwyd yn dilyn cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021. |
|