Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd)
blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019 a 22 Hydref 2019, yn gofnodion cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored
agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
a) Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. b) Cyflwyniad Allanol gan Dr Rosemary Mason ar y defnydd o glyffosad i reoli chwyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y panel drafodaeth ynghylch rheoli chwyn, yn enwedig am ddefnydd y cyngor o glyffosad, sydd wedi bod yn destun trafodaethau cyhoeddus mewn perthynas ag iechyd a diogelwch. Adroddodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, ynghyd â'r swyddogion perthnasol, i'r panel am ymagwedd y cyngor a'i weithgareddau mewn perthynas â rheoli chwyn, defnyddio glyffosad a'r heriau o ran dod o hyd i ffyrdd amgen o gyflawni hyn. Clywodd y panel gan gyfranogwr allanol, Dr. Rosemary Mason, sydd wedi ymgyrchu'n erbyn defnyddio glyffosad. Rhannodd ei phryderon â'r panel o ran defnyddio glyffosad a'i effeithiau peryglus ar iechyd pobl a bioamrywiaeth. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: · Chwistrellu chwyn ger priffyrdd, adnoddau a chostau · Y Gwasanaeth Parciau (gan gynnwys trin canclwm) · Trwyddedu glyffosad · Pryderon iechyd · Canllaw Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) · Barn y cyhoedd am reoli chwyn · Opsiynau eraill yn lle glyffosad Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn PENDERFYNWYD y byddai'r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i nodi ei gasgliadau a'i argymhellion ar y mater o reoli chwyn. |
|
a) Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. b) Rheoli Ansawdd Aer Lleol yng Nghymru - Arweiniad y Polisi (Llywodraeth Cymru - Mehefin 2017) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y panel drafodaeth ynghylch rheoli llygredd aer fel mater iechyd cyhoeddus difrifol, sydd wedi bod yn bwnc trafod i'r Gweithgor Craffu, a bydd yn fater monitro perfformiad cyson trwy'r panel craffu hwn. Adroddodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, ynghyd â'r swyddogion perthnasol, i'r panel am weithgareddau monitro llygredd aer yn Abertawe, a'r camau gweithredu i wella ansawdd aer. Ystyriodd y panel ganllawiau polisi Llywodraeth Cymru 'Rheoli Ansawdd Aer Lleol yng Nghymru' (cyhoeddwyd Mehefin 2017), a oedd yn darparu pwynt cyfeirio ar gyfer trafod sut mae'r cyngor yn gweithio i wella ansawdd aer, iechyd pobl ac ansawdd bywyd yn Abertawe. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: · Monitro ansawdd aer a chydymffurfio â Safonau Ansawdd Aer Cenedlaethol · Lefelau mesuredig o Nitrogen Deuocsid (NO2), gan gynnwys monitro o gwmpas ysgolion · Cyfraniad tagfeydd traffig i lefelau llygredd aer a sŵn · Problem cerbydau dan gontract (coetsys/tacsis, etc.) Rhieni sy'n parcio y tu allan i ysgolion gyda'r motor ymlaen a'r effaith ar iechyd plant · Diwylliant ceir, safon cludiant cyhoeddus a chynnydd mewn gwaith adeiladu tai · Defnyddio cerbydau electrig · Sut mae diwydiant yn Abertawe a'r ardal yn cyfrannu at lygredd aer, a'r drefn arolygu a monitro sydd ar waith · Cysylltiad rhwng llygredd aer ac amddifadedd/anghydraddoldebau iechyd · Pwysigrwydd isadeiledd gwyrdd wrth helpu i leihau effeithiau niweidiol llygredd aer a sŵn · Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer y cyngor · Y camau gweithredu a gymerwyd i wella ansawdd aer a lleihau cysylltiad â llygredd aer · Ymgysylltu â'r cyhoedd a negeseuon ynghylch ansawdd aer · Cyfleoedd sy'n codi o Ddiwrnod Aer Glân y DU ar 18 Mehefin 2020, ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU · Cronfa Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru · Safbwynt y cyngor mewn perthynas â chanllawiau polisi Llywodraeth Cymru · Cynllun Aer Glân i Gymru Llywodraeth Cymru, a'r ymagwedd at leihau llygredd aer yng Nghymru, yr ymgynghorir arno tan 10 Mawrth 2020 Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn PENDERFYNWYD y byddai'r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i nodi ei gasgliadau a'i argymhellion ar y mater o reoli llygredd aer. |
|
Cyfarfod y Panel 25 Medi 2019: a) Llythyr
at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad b) Llythyr at/oddi wrth Weinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Llywodraeth Cymru c) Gohebiaeth
ag Aelod y Cabinet dros
Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y panel yr ohebiaeth a anfonwyd gan y panel a'r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn cyfarfod y panel ar 25 Medi 2019: · Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad. · Llythyr at/oddi wrth Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig · Gohebiaeth ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau |
|
Cynllun Gwaith 2019/20. PDF 206 KB Cofnodion: Nodwyd cynllun gwaith y panel ar gyfer y flwyddyn ddinesig hon. Nodwyd y canlynol fel eitemau i'w monitro ar gyfer cyfarfod nesaf y panel, a drefnir ar gyfer mis Mawrth 2020: · Gwaith dilynol - Ymholiad Craffu ar yr Amgylchedd Naturiol · Rheoli Perygl Llifogydd Lleol |
|
Dyddiad ac Amser y Cyfarfod Nesaf. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|