Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Brij Madahar, Scrutiny Officer - Tel (01792) 637257
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd P K Jones - rhagfarnol -
Cofnod Rhif 5 - Aelod o'r RSPB. Gadawodd y cyfarfod fel aelod o'r panel, ond ar
ôl cael caniatâd y panel, arhosodd yn y cyfarfod i wneud sylwadau i'r panel am
niwsans gwylanod. |
|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: CYTUNWYD y dylid ethol y Cadeirydd M H Jones yn Gadeirydd
Dros Dro Bu'r Cynghorydd M H Jones (Cadeirydd Dros
Dro) yn llywyddu. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd unrhyw
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Trafodaeth am Bryderon Cyhoeddus - Niwsans Gwylanod PDF 238 KB a) Pryderon Cyhoeddus. b) Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. c) Gwybodaeth gan y Gymdeithas Frenhinol
Gwarchod Adar. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn cyfeiriad gan Bwyllgor y Rhaglen
Graffu, trafododd y panel gais cyhoeddus i graffu ar bryderon ynghylch niwsans
gwylanod yn Abertawe. Roedd y pryderon a ddygwyd i sylw'r
pwyllgor craffu yn canolbwyntio ar y niwsans gwylanod a oedd yn effeithio ar
breswylwyr Mayals ac ymddygiad pobl a oedd yn eu bwydo. Soniwyd hefyd am yr
effaith andwyol ar les, iechyd a diogelwch preswylwyr yn eu cymunedau. Ystyriodd y panel y safbwyntiau canlynol
ar y mater a drafodwyd: ·
Pryderon
cyhoeddus a amlinellwyd gan Mr a Mrs Slater (Grŵp Ffrindiau a Phreswylwyr
Mayals). ·
Adroddiad
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Cynghorydd Mark
Thomas, a oedd yn gyfrifol am safbwynt y cyngor ar y mater hwn, a chyfraniadau Mark
Thomas, Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, a Tom Price, Arweinydd Tîm -
Rheoli Llygredd a Thai'r Sector Preifat. ·
Gwybodaeth
gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a sylwadau ategol gan Mr John
Roach a'r Cynghorydd Peter Jones Trafododd y panel y materion a godwyd a'r
atebion posib, ac ystyriodd y cam(au) gweithredu a allai fod yn angenrheidiol
er mwyn mynd i'r afael â'r broblem yn Abertawe. Roedd hyn yn cynnwys camau
gweithredu i atal pobl rhag eu bwydo'n gyhoeddus a gwella'r ffordd rydym yn
storio ac yn gwaredu gwastraff bwyd. PENDERFYNWYD y byddai'r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i nodi ei gasgliadau a'i argymhellion ar
y mater o niwsans gwylanod. |
|