6. |
Yr Amgylchedd Naturiol - Trosolwg PDF 630 KB
•
Deb Hill – Yr Amgylchedd Naturiol – Trosolwg
•
Paul Meller – Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol
Cofnodion:
- Rhoddodd Deb Hill
gyflwyniad i'r panel.
- Roedd y prif ffocws ar yr hyn sydd wedi bod
yn digwydd dros y 3 blynedd diwethaf, ond mae cyngor Abertawe wedi bod yn gwneud
gwaith sy'n ymwneud â'r amgylchedd ar gyfer yr 50 i 60 mlynedd diwethaf.
- Mae 80% o Abertawe yn lle gwyrdd ac mae'n
amrywiol iawn - ceir coetiroedd, gwlyptiroedd,
glaswelltiroedd, rhosydd, dolydd, ardaloedd morol, arfordir, tir amaeth,
parciau trefol, gwarchodfeydd natur a choridorau bywyd gwyllt.
- Mae gwerth ecolegol sylweddol i dros 50% o'r
sir.
- Mae'r amgylchedd yn cael ei warchod drwy
amrywiaeth o ddynodiadau safle.
- Mae manteision bioamrywiaeth ar gyfer lles yn
cael eu cydnabod yn fwy eang.
- Cydnabyddir gwasanaethau ecosystemau a'u rôl
- Mae colli bioamrywiaeth a difodiant
rhywogaethau'n her ac yn risg - mae angen cynyddu ymwybyddiaeth a rheoli
tir yn gynaliadwy
- Mae'r risgiau'n lleol ac yn genedlaethol
- Ceir fframweithiau deddfwriaeth amrywiol ar
gyfer gwarchod bioamrywiaeth
- Deddfwriaeth gyfredol - mae nod Cymru
gydnerth yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â
chadernid ecolegol. Hefyd Ddeddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Mae cysylltedd rhwng safleoedd yn hanfodol
fel y gall bioamrywiaeth symud lle bynnag y bo modd
- Dylai ystyriaeth am fioamrywiaeth gael ei
gwreiddio ar gam cynnar ac mae pawb yn gyfrifol amdani
- Fel cyngor, mae
angen i ni gyflwyno cynllun Adran 6 a chyflwyno cynllun ar gynnydd bob 3
blynedd yn unol â gofynion deddfwriaethol
- Mae Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn cynnwys amcan Gweithio gyda Natur ac mae gennym hefyd y
Flaenoriaeth Gorfforaethol bioamrywiaeth newydd yn y Cynllun Corfforaethol
- Mae'r tîm wedi bod yn mapio defnydd tir -
cysylltiadau â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru
(SEWBREC) sy'n coladu ac yn
rhaeadru gwybodaeth am fioamrywiaeth.
- Mae'r tîm hefyd wedi bod yn mapio wardiau i
nodi ardaloedd o arwyddocâd ecolegol etc. ym mhob ward a bydd yn cynyddu
hyn fel y bydd adnoddau'n caniatáu
- Mae'r cyngor yn berchen ar lawer o dir yn
Abertawe (e.e. parciau, safleoedd addysg, ystadau, priffyrdd, mynwentydd etc) ac mae ganddo ddyletswydd i'w rheoli'n gynaliadwy
- Mae'r tîm ar hyn o bryd yn llunio strategaeth
isadeiledd gwyrdd sy'n edrych ar ddatrysiadau sy'n seiliedig ar natur
- Mae gan bob tîm - digwyddiadau, caffael,
twristiaeth, adfywio, priffyrdd, tai, addysg, ystadau - rannau pwysig i'w
chwarae mewn perthynas â bioamrywiaeth
- Rhaid iddynt
gefnogi dulliau i gynnwys y gymuned a gwirfoddolwyr e.e. cyfeillion
parciau a gwirfoddolwyr bywyd gwyllt etc
- Rhaid edrych ar y camau nesaf - sicrhau
rhagor o adnoddau, cynyddu ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn allanol a
datblygu cynlluniau ac adroddiadau
- Diolchodd Aelod y Cabinet i Deb a'r tîm am yr holl waith gwych maent wedi'i wneud.
Mae'r tîm yn fach ac mae angen rhagor o gefnogaeth arno. Mae angen
cyfrifoldeb a rennir ar draws y cyngor cyfan ac mae angen rhoi
hyfforddiant ar waith fel bod bioamrywiaeth, fel diogelu, yn fusnes i
bawb.
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned helpu'n fawr
gyda'r materion hyn oherwydd gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr -
mae gan lawer eisoes ymwybyddiaeth wych o fioamrywiaeth ond gallent ehangu
hyfforddiant iddynt a gweithio gyda'i gilydd.
- Trafodwyd materion cynllunio - cadarnhawyd
bod y berthynas â'r Tîm Cadwraeth Natur a'r adran Gynllunio'n rhagorol,
ond weithiau mae materion yn codi y tu allan i'r broses gynllunio cyn neu
ar ôl caniatâd cynllunio e.e. Gorchmynion Cadw Coed yn cael eu hanwybyddu
neu dir yn cael ei glirio cyn cael caniatâd cynllunio a thirfesur
- Diffyg staff nid diffyg ewyllys yw'r broblem
o ran gorfodi cynllunio
- Mae gorfodi'n broblem fawr. Mae angen
cefnogaeth ychwanegol i orfodi hawliau natur gan fod diffyg staff ar hyn o
bryd o ran gorfodi ecoleg cynllunio.
- Mae gwrthdaro mewnol yn parhau - gwerth
ecolegol neu werth ariannol lle gwyrdd a bioamrywiaeth
- Mae angen newid sylfaenol mewn diwylliant
- Trafodwyd mawn a'i rôl wrth amsugno carbon
a'i werth
- Mae campws Townhill
yn enghraifft wych o ddatblygiad gwyrdd
- Lle mae datblygiad yn effeithio ar dir amaeth
etc. dylid ceisio cadw cynifer o nodweddion naturiol â phosib
- Mae tir comin hefyd yn bwysig iawn
- Cafwyd peth trafodaeth ynghylch cytundebau
adran 106 - dylent fod yn gyfarwydd â 'gwella' bioamrywiaeth - bydd y drafodaeth
yn parhau am addasrwydd y symiau y gofynnwyd amdanynt
- Mae angen cydnabod 'gwerth economaidd'
bioamrywiaeth - er enghraifft, gellir prisio coed i atal llifogydd yn
erbyn prosiectau peirianneg caled a gwella bioamrywiaeth a newid yn yr
hinsawdd ar yr un pryd
- Er gwaethaf rhywfaint o gyllid dros dro
rhan-amser ar gyfer ecolegydd cynllunio, nid oes arian gan y cyngor ar
gyfer y rôl hon - mae'n seiliedig ar grantiau
- Datganodd y cyngor argyfwng yn yr hinsawdd,
ond ni ddyrannwyd cyllid i'r 2 swydd sy'n ofynnol - Ecolegwyr Cynllunio a
Swyddog Adran 6 sy'n swyddi hanfodol
- Nid oes gan gynghorau lleol ddigon o staff ac
adnoddau i wneud y gwaith hanfodol hwn. Mae timau am wneud gwaith ar y
materion hyn yn lleol, ond nid oes ganddynt y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth
Ganolog neu Lywodraeth Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth - caiff
llythyr ei ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu difrifoldeb y sefyllfa
- Mae peth gwaith prosiect yn cael ei ariannu
ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys 'Ein Natur, Ein
Dyfodol' a gwirfoddolwyr bywyd gwyllt
- Mae rhai eglwysi wedi ymrwymo i fod yn
'Eco-eglwysi'
- Ceir peth gwrthwynebiad yn fewnol i newid
diwylliant ar y mater hwn - mae angen i'r holl gyfarwyddwyr wreiddio'r
ddyletswydd hon yn eu gwaith
- Mae angen mwy o gosbau ar gyfer cyrff
cyhoeddus pan na chaiff y ddyletswydd hon ei chyflawni, ac mae angen lobïo
am newid ar y mater hwn
- Mae Cyngor Abertawe yn gyngor sy'n ymwneud yn
fawr â bioamrywiaeth ac mae am gael mwy o gyllid i wneud mwy
- Ni ellir rhoi blaenoriaeth mwyach i'r economi
dros ecoleg
- Ceir problemau lleol o ran sbwriel a phobl
ifanc - os nad yw'r amgylchedd lleol yn cael ei barchu, yna ni fydd yr
amgylchedd byd-eang yn cael ei barchu
- Dylai fod gan ysgolion bolisi taflu sbwriel -
mae ysgolion fel arfer yn gwbl ymrwymedig i faterion ecolegol
- Mae angen mwy o finiau ailgylchu yn Abertawe
i helpu gyda'r mater hwn
- Gellid edrych ar wneud mwy o ran gwaith
bioamrywiaeth rhanbarthol, gan gysylltu â phrosiectau gweithio rhanbarthol
- Mae strategaeth isadeiledd gwyrdd wedi'i
datblygu ar gyfer canol y ddinas i ddylanwadu ar newid
- Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
ac ymgynghorydd IG i roi'r polisi ynghyd
- Ymgysylltir â phobl ar y stryd i gael eu barn
- Bydd ymgynghoriad
ar y weledigaeth newydd hon - bydd y panel yn rhan o hyn
- Rydym am i Abertawe fod yn wyrddach a chefnogi bioamrywiaeth drwy:
1.
Arwain
drwy esiampl a llywodraethu
2.
Cefnogi
dysgu i wella sgiliau a gwybodaeth
3.
Archwilio
sut i gynnal gwaith
- Dosbarthu'r ddogfen Isadeiledd Gwyrdd i'r
panel
|