Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 142 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Gwahoddwyd: Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau Mark Wade - Cyfarwyddwr Lleoedd Geoff Bacon - Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo Rachel Lewis - Rheolwr Prosiect y Gyfarwyddiaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Cyril
Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol yn bresennol ynghyd â
swyddogion perthnasol i ddiweddaru'r Panel ac ateb cwestiynau. Pwyntiau Trafod: · Gofynnodd y Panel beth
yw'r heriau mwyaf i’r Cyngor, o ran Newid yn yr Hinsawdd a Natur, i gyflawni ei
nodau ar wahân i arian, ac a oes unrhyw beth arall y gallai'r Panel ei wneud i
helpu. Fe'u hysbyswyd fod sawl her. Awgrymwyd yn y Gweithgor Tyfu Cymunedol y
diwrnod cynt y gellid annog ysgolion i gael llywodraethwr 'gwyrdd' pwrpasol i
hyrwyddo newid yn yr hinsawdd, effeithlonrwydd ynni a bioamrywiaeth.
Roedd y Panel yn frwd dros y syniad hwn a chytunwyd gwneud yr argymhelliad hwn
i Aelodau'r Cabinet. Cefnogwyd hyn yn llawn gan Aelodau'r Cabinet. · Mae enghreifftiau eraill lle gall y Panel
helpu yn cynnwys: Ø Drwy bartneriaethau, drwy hyrwyddo'r gwaith hwnnw
ac annog partneriaid i gael mwy o fewnbwn. Ø Cyfeirio pobl at y ganolfan effeithlonrwydd ynni
ar y Stryd Fawr Ø Mae pot bach o arian yn y Fframwaith Partneriaid
Amgylcheddol, a dylai cynghorwyr siarad â swyddogion i weld a oes prosiectau
bach yn eu wardiau a allai elwa. Ø Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn y gymuned ar
addasu i'r hinsawdd a'i liniaru, a gwerthfawrogir cyfranogiad cynghorwyr. · Trafododd y Panel
bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus a gofynnwyd a oes deddfwriaeth newydd
wedi'i chyflwyno sy'n datgan y bydd yn rhaid i bob car newydd gael y pwynt
gwefru yn yr un lle, ac os felly, pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar osod
pwyntiau gwefru. Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu ymateb ysgrifenedig
llawn yn dilyn y cyfarfod. · Holodd y Panel ynghylch
ailgylchu batris. Maent yn ymwybodol o gynllun gwych ar gyfer batris
cartref, ond beth sy'n digwydd i fatris cerbydau. Fe'u hysbyswyd gan Aelod
y Cabinet na fu unrhyw drafodaeth yn genedlaethol ynghylch gwaredu batris CT
felly ni allant ddarparu rhagor o wybodaeth am hyn ar hyn o bryd. · Clywodd y panel o ran
natur a bioamrywiaeth yn lleol, nad cyfrifoldeb y Cyngor yn unig ydyw ac mae
angen iddo gyfleu i'r cyhoedd y gall pethau bach wneud gwahaniaeth i wella
bioamrywiaeth a natur. · Roedd y Panel yn hapus
bod y Cyngor wedi ymrwymo i brynu ynni gwyrdd ond mae angen cofio nad yw hyn yn
gwarantu bod yr ynni a ddefnyddir i wefru ein ceir yn dod o ffynonellau ynni
adnewyddadwy. · Dywedodd Aelod o'r Panel
fod y Brifysgol wedi bod yn cynnal Prosiect Effaith Werdd i helpu i leihau'r
defnydd o ynni ac annog newid ymddygiad gweithwyr, a gofynnodd a fyddai'r
Cyngor yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod ganddynt
ddiddordeb yn hyn, ac y byddant yn edrych arno'n fanylach i weld sut y gallai'r
Cyngor, o bosib, ei gyflwyno ei hun. · Mae gan y Panel bryderon
am y cynwysyddion ailgylchu newydd ar gyfer gwydr a chaniau, o ran eu pwysau
pan fyddant yn llawn, oherwydd gallai achosi problemau i bobl ag anabledd neu
sy'n byw mewn fflat. Fe'u hysbyswyd y gall yr adran weithio gyda phreswylwyr
sy'n anabl drwy eu hychwanegu at y rhestr 'Cymorth' sydd eisoes ar waith. Camau Gweithredu: · Caiff gwybodaeth ei
darparu i'r Panel ar ddeddfwriaeth newydd ynghylch lleoliad pwyntiau gwefru ar
geir, ac effeithiau hyn. · Caiff y Strategaeth
Gwastraff ac Ailgylchu ei hychwanegu at y cynllun gwaith ar gyfer blwyddyn
newydd y Cyngor. |
|
Gwahoddwyd: David Hopkins, Aelod y Cabinet Dros Wasanaethau a Pherfformiad
Corfforaethol Paul Meller – Rheolwr Adran yr Amgylchedd Naturiol Deborah Hill – Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur Cofnodion: Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad
Corfforaethol a Paul Meller, Rheolwr Is-adran yr Amgylchedd Naturiol yn
bresennol i ddiweddaru'r Panel ac ateb cwestiynau. Pwyntiau Trafod: · Clywodd y Panel fod yr
ymchwiliad craffu ar Adfer Natur yn 2018 wedi gwneud nifer o argymhellion sydd
wedi'u rhoi ar waith. Dywedodd swyddogion fod y gwaith hwn wedi dod yn fusnes
fel arfer i'r Tîm Cadwraeth Natur ac awgrymasant y gallai'r Panel edrych ar y
darlun ar draws y Cyngor. Nododd y Panel mai'r ffordd orau o wneud hyn yn
ôl pob tebyg, o ystyried bod Adran 6 y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol
bellach ar waith, yw cyflwyno'r adroddiadau hyn i'r Panel yn flynyddol. · Hoffai'r panel weld 'Mai
Di Dor' yn cael ei gyflwyno ar draws y Sir. Bydd Aelod y Cabinet priodol yn
darparu ymateb llawn yn dilyn y cyfarfod. · Gofynnodd y panel pam na
all y Cyngor roi'r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr, gan ddweud bod rhai
cynghorwyr wedi gofyn iddo beidio â chael ei ddefnyddio yn eu wardiau eleni.
Dywedodd Aelod y Cabinet fod hyn wedi cael ei drafod yn y Panel sawl gwaith ac
mae aelodau'r ward bellach yn cael cyfle i ddewis peidio â chael hyn lle bynnag
y bo modd. Bydd Aelod y Cabinet priodol yn darparu ymateb llawn yn dilyn y
cyfarfod. · Gofynnodd y Panel pam na
all y Cyngor blannu mwy o erddi glaw. Bydd Aelod y Cabinet priodol yn
darparu ymateb llawn yn dilyn y cyfarfod. · Gofynnodd y Panel sut
rydym yn gwybod a yw adfer natur yn gweithio a bod cynnydd mewn bioamrywiaeth.
Fe'u hysbyswyd fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd; mae angen monitro
cynnydd net mewn bioamrywiaeth boed hynny drwy geisiadau cynllunio neu fel rhan
o waith y Cyngor yn gyffredinol. · Nododd y Panel fod
ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi cychwyn a holwyd a fydd
mesurau diogelu bioamrywiaeth yn cael eu gwella fel rhan o'r CDLl. Mae gorfodi
gwybodus bob amser yn broblem ac mae'r Adran yn edrych i weld beth y gellir ei wneud.
· Dywedodd y Panel ei fod
wedi bod yn siarad ers nifer o flynyddoedd am fioamrywiaeth o ran ceisiadau
cynllunio, a gofynnwyd a fu unrhyw gynnydd. Mae'r Panel yn teimlo pe bai
pob cais cynllunio yn cynnwys cwestiwn syml am wella bioamrywiaeth, byddai'n
gwneud i bobl feddwl mwy am yr hyn y gallant ei wneud. Dywedodd Aelod y
Cabinet eu bod yn gweithio tuag at werth ychwanegol at fioamrywiaeth ym mhob
cais cynllunio ar hyn o bryd. · O ran y CDLl, awgrymodd
y Panel, pe bai safle maes glas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai, y byddai'n
cael effaith sylweddol ar fioamrywiaeth na ellir byth wneud iawn amdano. Clywyd
bod gwahanol fathau o safleoedd maes glas; nid yw pob un yn gyfoethog mewn
bioamrywiaeth a gellir cyfoethogi safle, er enghraifft gyda gerddi glaw a
choed. Camau Gweithredu: · Eitem ar 'Adran 6 y
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol' i'w hychwanegu at y cynllun gwaith ar
gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf. |
|
Adolygiad y Panel o'r flwyddyn 2023-24 PDF 149 KB Cofnodion: Adolygodd Aelodau'r Panel eu blwyddyn ar y Panel Craffu Newid yn yr
Hinsawdd a Natur a gwnaethant y sylwadau canlynol: Beth aeth yn dda? · Maent yn meddwl yr aeth
popeth dda. Edrychwyd yn fanwl ar lawer o bynciau a gwnaed argymhellion
da iawn. · Un o'r darnau gorau o
graffu oedd Rheoli Perygl Llifogydd Lleol - tynnodd hyn sylw at nifer o
faterion a gobeithio y gwnaeth yr Adran ystyried yr hyn a ddywedwyd. · Mae'n dda cael Cyfoeth
Naturiol Cymru yng nghyfarfodydd y Panel o bryd i'w gilydd fel y gellir gofyn
cwestiynau iddynt yn uniongyrchol. Dylai'r Panel barhau â hyn. Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well? · Gallai'r panel efallai
dynnu sylw at faterion SUDS yn fwy. Mae angen gwneud mwy am hyn. · Maent wedi bod yn gofyn
am nifer o flynyddoedd i gwestiynau am fioamrywiaeth gael eu hychwanegu at
geisiadau cynllunio. Nid ydynt yn meddwl bod y Panel wedi gwneud unrhyw
gynnydd go iawn, ac mae'n debyg mai dyma lle gallai'r Cyngor wneud y newid mwyaf
yn y maes hwn. Fel Panel, mae angen treulio ychydig mwy o amser yn edrych
ar hyn yn y dyfodol. Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu i wella a datblygu gwaith
craffu yn y dyfodol? · Mae angen
ailedrych ar faterion sy'n peri pryder yn gyson a gofyn am gynnydd. Bydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2024-25 yn cael ei ddrafftio a'i gylchredeg
i'r Aelodau. Cytunir ar y fersiwn derfynol yn y cyfarfod nesaf ar 16
Gorffennaf 2024. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Mai 2024) PDF 136 KB |
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Mai 2024) PDF 232 KB |