Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 239 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Rheoli Perygl Llifogydd Lleol - Diweddariad Blynyddol PDF 465 KB Gwahoddwyd: Y Cyng. Andrew Stevens – Aelod y Cabinet dros yr
Amgylchedd ac Isadeiledd Stuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Chludiant Mike Sweeney – Arweinydd Tîm, Priffyrdd a
Chludiant Jonathan Willicombe – Rheolwr Ardal Cynnal a Chadw Priffyrdd Cofnodion: Roedd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiladd a swyddogion perthnasol yn bresennol er mwyn
rhoi'r diweddaraf i'r Panel ac i ateb cwestiynau. Roedd David Hopkins, Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad hefyd yn bresennol. Pwyntiau Trafod: · Mae Strategaeth
Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cael ei llunio ar hyn o bryd a fydd yn
ymgorffori'r Cynllun Gweithredu Perygl Llifogydd. Bydd hyn yn rhoi baich ariannol
ychwanegol ar yr Awdurdod ac yn cynyddu llwyth gwaith. · Mae'r gwaith i
adeiladu waliau amddiffyn rhag llifogydd yn y Mwmbwls wedi hen ddechrau a
disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau 2025. Mae'r Panel yn falch o
glywed hyn a chanmolwyd pawb a gymerodd ran am eu gwaith da iawn. · Holodd y Panel a
yw'r Awdurdod yn bwriadu cael pethau fel tanciau crynhoi dŵr yng Nghwm
Tawe i atal llifogydd. Cadarnhawyd bod nodweddion gwanhau a chynlluniau
storio yn cael eu defnyddio mewn llawer o gynlluniau i liniaru llifogydd a bydd
yr holl ddatblygiadau newydd yn cynnwys nodweddion gwanhau. · Mae'r Panel yn
teimlo y gallai'r ffordd y mae pyllau gwanhau yn cael eu hadeiladu ar safleoedd
datblygu mawr fod yn beryglus i blant, ac mae angen rhyw fath o ganllawiau
cynllunio atodol. Rhoddwyd gwybod bod deddfwriaeth a safonau y mae'r Awdurdod
yn eu defnyddio i gymeradwyo cynlluniau o'r fath o ran adeiladu. · Holodd y panel
Pryd fyddai'r TAN 15 newydd yn cael ei gymeradwyo ac esboniwyd bod Llywodraeth
Cymru wrthi'n casglu rhagor o dystiolaeth ac yn gweithio ar y manylion, ond mae
disgwyl iddo gael ei gymeradwyo'n fuan. · Mae'r Panel yn
credu y dylid annog pobl i ddefnyddio casgenni dŵr y tu allan i'w cartrefi
i ddal dŵr glaw ac ychwanegu tanciau dŵr at dai fel y gellir eu
defnyddio i fflysio toiledau. Rhoddwyd gwybod bod proses eisoes ar waith
drwy gynllunio a'r Cynllun Datblygu Lleol i annog y defnydd o gasgenni dŵr
etc. · Holodd y Panel a
oes rhestr flaenoriaeth ar gyfer cyllideb draenio cynnal a chadw cyfalaf ac a
roddir ystyriaeth i lwybrau sy'n gorlifo yn ogystal ag isadeiledd a ffyrdd.
Esboniwyd bod llawer o'r gwaith yn adweithiol ac mae blaenoriaeth yn cael ei
rhoi i'r ardaloedd lle mae llifogydd ar y ffyrdd yn bryder difrifol ac yn risg
difrifol i ddefnyddwyr y priffyrdd neu i eiddo. · Nododd y Panel
fod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer Blackpill
ond mynegodd bryder am broblemau ar waelod Mill Lane
lle mae rhywbeth yn digwydd o dan y ffordd, pibell wedi byrstio neu lyncdwll o
bosib. Gofynnodd swyddogion i gwrdd ag Aelod perthnasol y Panel ar y safle i
drafod. · Gofynnodd y
Panel beth sy'n cael ei wneud ynghylch llygredd sy'n mynd yn uniongyrchol i
mewn i'r afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgysylltu'n gyson â Dŵr
Cymru gyda'r nod o leihau rhai o'r mewnbynnau a'r gorlifiadau i'r afon
Tawe. Ym Mae Abertawe, mae ansawdd y dŵr wedi gwella ac mae'n dda ar
hyn o bryd. · Holodd y Panel a
oes ffordd o gael gwybod gan y Swyddfa Dywydd os yw cyfanswm y glaw yn codi ac
esboniwyd bod data da ar wefan y Swyddfa Dywydd. Bydd y ddolen yn cael ei
rhannu gyda'r Panel. · Trafododd y
Panel lifogydd ar Mumbles Road pryd bynnag y ceir
glaw trwm, a gofynnodd a oes unrhyw beth yn cael ei wneud. Esboniwyd bod
llawer o lifogydd y tu allan i fynedfa'r brifysgol oherwydd rhwystr yn yr
all-lif, sydd wedi'i gywiro. Ar hyn o bryd mae tîm cynnal a chadw ar y
safle yn glanhau gylïau o Brynmill Lane i Lido Blackpill a bydd yr Adran yn
edrych ar yr all-lif ger Ashley Road i sicrhau nad ydynt wedi'u rhwystro
eto. · Mae'r Panel yn
teimlo'n gryf bod angen i staff a chynghorwyr perthnasol wneud hyfforddiant
System Ddraenio Gynaliadwy. Mae swyddogion yn hapus i drefnu cwrs hyfforddi
arall i'r Aelodau os oes ganddynt ddiddordeb. Dywedodd Aelod y Cabinet
fod pob swyddog cynllunio wedi derbyn hyfforddiant System Ddraenio Gynaliadwy
ac wedi cytuno ar yr angen am ragor o hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer y
Pwyllgor Cynllunio o ran defnyddio System Ddraenio Gynaliadwy a'i fod yn fwy na
pharod i hwyluso hyn. · Gofynnodd
y Panel i weld y rhestr goch ar gynnal gridiau, cyrsiau dŵr, mannau
problemus o ran gylïau etc ac esboniwyd nad oes gan
yr Adran unrhyw broblemau gyda'i rhannu. · Holodd
y Panel a oes mwy o waith glanhau yn cael ei wneud yn yr hydref oherwydd dail
yn cwympo neu a oes llawer o waith drwy gydol y flwyddyn. Esboniwyd ei
fod yn barhaus ond mae'n cynyddu yn ystod misoedd yr hydref oherwydd mae angen
clirio dail sydd wedi cwympo. · Trafododd
y Panel lifogydd arfordirol, yn enwedig y rhodfa ar Bont Trafalgar
a gafodd ei chau oherwydd llifogydd y gaeaf diwethaf. Gofynnodd y Panel a
oes modd gwneud unrhyw beth i liniaru hyn. Esboniwyd bod gwaith astudio
ac ymchwilio'n cael ei wneud i nodi'r hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno, ac
efallai bydd datrysiad lleol a fydd yn cael ei roi ar waith. Hefyd, mae asesiad
canlyniadau llifogydd strategol ar gyfer yr ardal honno yn Abertawe newydd gael
ei gomisiynu. · Gofynnodd y
Panel am eglurhad ynghylch beth yw'r cynnig o dan y Diweddaraf am Weithrediad
(paragraff 4) ac esboniwyd ei fod yn gynllun lle mae aelodau'r ward yn talu i
dîm gylïau fod ar y safle ar benwythnosau lle mae angen sylw ar y gylïau. · Gofynnodd y
Panel a oes deddfwriaeth ar waith sy'n esbonio wrth bobl sy'n cloddio dreifiau
ac yn gosod arwynebau caled artiffisial bod angen i'r rhain fod yn athraidd.
Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu ymateb ysgrifenedig llawn. Camau Gweithredu: · Rhannu dolen i
wefan y Swyddfa Dywydd gyda'r Panel · Trefnu
hyfforddiant ar System Ddraenio Gynaliadwy ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio · Rhannu rhestr
goch ar y rhaglen cynnal a chadw gyda'r Panel · Darparu
gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag arwynebau athraidd. |
|
Gwahoddwyd: Y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Carol Morgan, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd Cofnodion: Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaeth Corfforaethol a
Pherfformiad a Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd, yn bresennol i roi
gwybodaeth i'r Panel ynghylch y mater hwn. Pwyntiau Trafod: · Holodd y panel a
yw'r duedd ar gyfer llygredd o gerbydau modur yn lleihau ac esboniwyd bod dau
brif lygrydd wedi'u cysylltu â cherbydau modur. Bu tuedd ar i lawr yn y
tymor hir o ran Nitrogen Deuocsid (NO2) mewn crynodiad. Ar gyfer defnydd
gronynnol, er ei fod yn gweld ychydig o duedd ar i lawr, mae'n rhy gynnar i
ddatgan beth sy'n ysgogi hyn. · Dywedodd y Panel
fod bysus yn gadael eu peiriannau yn rhedeg y tu allan i Ysgol yr Esgob Gore, a
gofynnodd beth ellir ei wneud am hyn. Cynigiodd Aelod y Cabinet i fynd â hyn yn
ôl drwy'r gadwyn gaffael i sicrhau nad yw hyn yn digwydd mwyach. · Gofynnodd y
Panel a ddylid ystyried agosrwydd eiddo preswyl at ffyrdd prysur cyn rhoi
caniatâd cynllunio. Esboniwyd ei fod yn cael ei ystyried fesul achos ac
mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno asesiad ansawdd aer ar gyfer yr amgylchedd
penodol. · Holodd y Panel a
yw ymchwil yn dangos a yw strydoedd sydd â choed ar ei hyd yn gwneud
gwahaniaeth ystyrlon i ansawdd aer ac a oes gwahaniaeth sylweddol yn ansawdd
aer rhwng cylchfannau a goleuadau traffig. Esboniwyd yn Abertawe, bydd yn
cymryd amser i fonitro a dadansoddi data i weld a yw'r isadeiledd gwyrdd yn
cael unrhyw effaith. Bydd ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu ynghylch a yw
cylchfannau neu oleuadau traffig orau o ran ansawdd aer. Camau Gweithredu: · Ailgyflwyno
sylwadau ar beiriannau segur y tu allan i ysgolion drwy'r gadwyn gaffael. · Darparu
gwybodaeth ynghylch a yw cylchfannau neu oleuadau traffig orau o ran ansawdd
aer i'r Panel.
|
|
Cynllun Waith 2023-24 PDF 92 KB Cofnodion: Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Mawrth 2024) PDF 130 KB |
|
Ymateb gan Aelodau'r Cabinet (cyfarfod 19 Mawrth 2024) PDF 205 KB Dogfennau ychwanegol: |