5. |
Darpariaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cyhoeddus PDF 2 MB
Gwahoddwyd:
Y Cyng. Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau
Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant
Matthew Bowyer, Arweinydd Grŵp Priffyrdd a Chludiant
Ioan Brannigan, Swyddog
Strategaeth Trafnidiaeth Priffyrdd a Chludiant
Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a swyddogion perthnasol yn bresennol i friffio'r Panel, ac atebwyd
cwestiynau ganddynt.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y panel a yw'r Cyngor wedi
ymchwilio i osod mannau gwefru araf ar gyfer cerbydau trydan (CT) ar
bolion lampau ac a oes unrhyw gynlluniau i dreialu hyn yn unrhyw le. Clywyd nad yw'r Cyngor yn gallu gwneud hyn
ar hyn o bryd am nifer o resymau.
- Gofynnodd y panel beth sy'n cael ei wneud o
ran ymgysylltu â'r sector preifat i'w helpu fel y gall osod ei isadeiledd
ei hun, er enghraifft gorsafoedd petrol ac archfarchnadoedd lleol gyda
meysydd parcio. Dywedodd Aelod y
Cabinet ei bod yn hapus i ymrwymo i ysgrifennu at archfarchnadoedd lleol
ond nid oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros yr hyn y maen nhw'n ei
wneud, ac mae gorsafoedd petrol hefyd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
- Holodd y panel a yw'r Cyngor wedi ymchwilio i
ddefnyddio adeiladau cymunedol ar gyfer gosod mannau gwefru CT, er
enghraifft eglwysi a chanolfannau cymunedol. Clywyd yr ymchwiliwyd i hyn ond nid
ydynt yn gweld clystyrau o alw a fyddai'n cyfiawnhau gosod y rhain, pan
gaiff ardaloedd eu nodi lle mae galw am isadeiledd, byddant yn ceisio'i
roi yn ei le.
- Gofynnodd y panel a fyddai'n werth rhoi
gwybod i sefydliadau cymunedol y gallent gael grant i osod mannau gwefru
CT, ac yn y tymor hir gallent ennill incwm ohonynt. Clywyd bod angen elfen sylweddol o
gyllid grant ar gyfer y grantiau sydd ar gael, hyd at 50%, y byddai'n
rhaid i'r sefydliad cymunedol ddod o hyd iddo.
- Gofynnodd y panel pam na ellir rhoi
gosodiadau gwefru CT ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog. Fe'u hysbyswyd
ei bod yn llawer haws o ran cynllunio, atebolrwydd a thrwyddedu os
defnyddir tir y Cyngor y mae ganddo reolaeth lawn drosto. Clywodd y panel hefyd mai ychydig iawn o
lwyddiant y mae'r Cyngor wedi'i gael gyda chyllid grant felly mae wedi
gorfod canolbwyntio ar ardaloedd sy'n eiddo i'r Cyngor gan y bydd
anawsterau os dechreuir 'prydlesu lleoedd' mewn maes parcio preifat.
- Dywedodd y panel, o ran meysydd parcio
cyrchfannau ar hyd coridor Gower Road sy'n mynd
tua'r gorllewin, mai'r maes parcio agosaf yw Porth Einon, felly mae bwlch
enfawr yn y ddarpariaeth, oni bai fod pobl yn stopio yng nghanol y
ddinas. Pe bai mannau gwefru CT ar
ochr arall y ffordd i ganolfan siopa The Precinct
ni fyddai'r bwlch hwnnw i bobl sy'n mynd i'r gorllewin tuag at Fro
Gŵyr. Fe'u hysbyswyd hefyd fod y sector
preifat yn gosod mannau gwefru yn y maes parcio yn Kittle
yn ogystal â Phorth Einon.
- Gofynnodd y panel a yw'n werth i'r Cyngor
gysylltu â sefydliadau cymunedol, eglwysi etc. sy'n addas ar gyfer
gosodiadau CT i weld a oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gosod y rhain,
gan y gall fod rhai sefydliadau a fydd yn cael yr arian cyfatebol ar gyfer
grantiau. Cytunodd Aelod y Cabinet i ystyried hyn.
- Mae'r panel yn teimlo bod angen cymysgedd o
osodiadau gwefru araf a chyflym.
Cytunodd Aelod y Cabinet, os oes meysydd parcio lle gall pobl wefru
eu ceir dros nos, y gallai gwefru araf fod yn opsiwn a a
chytunodd i edrych yn fanwl ar hyn i nodi'r angen am y math hwn o barcio
dros nos.
- Holodd y panel a oes gwybodaeth ar gael ar y
defnydd o bob un o'r gosodiadau gwefru CT ar gyfer yr holl feysydd parcio
yn yr ardal. Dywedwyd wrthynt fod y defnydd ohonynt, cyfanswm y traul etc.
yn cael ei fonitro ar gyfer yr holl fannau gwefru ym meysydd parcio'r
Cyngor.
- Mae gan y Panel ddiddordeb mewn clywed a oes
gan y Cyngor gynllun ar gyfer cynhyrchu a storio trydan ar safleoedd
presennol neu yn y dyfodol i leihau carbon, er enghraifft ei gymryd o'r
grid a storio yn ystod oriau tawel neu gynhyrchu pŵer drwy baneli
solar neu wynt ar safle a'i storio yno. O ran cynhyrchu ar y safle, clywyd
bod y Cyngor wrthi'n gosod ei ganolfan gwefru cyflym gyntaf ym maes parcio
Stryd Rhydychen. Bydd hyn yn
cynnwys canopi solar a storfa fatris.
Mae paneli solar yn darparu swyddogaeth ddefnyddiol wrth gydbwyso'r
llwyth ar y grid.
- Trafododd y panel y ffaith bod mannau gwefru
CT yn y maes parcio tanddaearol yn Neuadd y Ddinas ond mae angen edrych ar
osod mannau ym maes parcio'r Rotwnda i'w wneud yn fwy hygyrch ac i
ystyried y byddai aelodau o'r cyhoedd, nid dim ond staff y Cyngor, yn ei
ddefnyddio gyda'r nos. Dywedodd Aelod y Cabinet fod y Strategaeth
Trafnidiaeth Gynaliadwy yn edrych ar hyn o ran isadeiledd gwefru CT
hygyrch i gwsmeriaid a staff ar safleoedd y Cyngor ond nad ydynt yn
siŵr o'r amserlen.
- Mae'r Panel yn hoffi'r syniad y gall pobl
sy'n mynd i mewn i'r gwaith wefru eu ceir tra byddant yn y gwaith a holwyd
a yw'r syniad hwn yn cael ei ddatblygu. Fe’u
hysbyswyd fod yr isadeiledd gwefru presennol yn benodol ar gyfer cerbydlu'r Cyngor.
Fodd bynnag, mae'r tîm yn edrych ar becyn meddalwedd a fydd yn
caniatáu i aelod o staff â cherdyn ddefnyddio'r isadeiledd gwefru CT pan
fydd ar gael a thalu am y trydan y mae'n ei ddefnyddio drwy'r cerdyn. Byddai hyn ar safleoedd lle mae gan y
Cyngor isadeiledd gwefru.
- Mynegodd y Panel bryder am bobl sy'n byw mewn
ardaloedd lle na allant wefru y tu allan i'w heiddo. Clywyd mai dyma pam y
mae'r Cyngor wedi penderfynu canolbwyntio ar fwy o ganolfannau ac
ardaloedd siopa trefol yn ogystal â helpu i bontio'r bwlch i'r bobl hyn. Fe'u hysbyswyd ran stadau'r Cyngor lle gallai fod
blociau tŵr neu fannau cymunedol ar gyfer parcio, fod hyn yn rhan o
Strategaeth y Cyfrif Refeniw Tai, a lle bo hynny'n bosib, gallai'r Cyngor
geisio gosod isadeiledd gwefru CT yn yr ardaloedd cymunedol hynny.
- Holodd y panel a yw ffynonellau ynni eraill
yn cael eu hystyried i redeg cerbydau yn y dyfodol. Clywyd y bydd yr Awdurdod yn edrych yn
fanwl i weld pa dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac addasu'n unol â hynny.
- Holodd y panel a allai fod cyfle yn y dyfodol
i ailgylchu batris ceir yn ardal Abertawe. Clywyd y bydd y tîm yn gwylio'n
ofalus yr hyn y mae eraill yn ei wneud, a bydd yn edrych ar arfer da. Mae Aelod y Cabinet yn ymwybodol bod
batris ceir yn cael eu hailddefnyddio, er enghraifft fel batri cartref ac
mae'n rhywbeth y gallai'r Cyngor weithio arno gyda phrifysgolion.
Camau Gweithredu:
- Aelod y Cabinet i ysgrifennu at
archfarchnadoedd lleol i'w hannog i osod mannau gwefru cerbydau trydan.
- Aelod y Cabinet i ystyried cysylltu â
sefydliadau cymunedol addas ynglŷn â gosod mannau gwefru cerbydau
trydan.
- Yr adran i ymchwilio i'r angen am
ddarpariaeth parcio dros nos ar gyfer gwefru araf
|