5. |
Sesiwn friffio Twristiaeth Amgylcheddol PDF 789 KB
Y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth
Steve Hopkins, Rheolwr Twristiaeth a
Marchnata
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a Steve Hopkins, Rheolwr
Twristiaeth a Marchnata yn bresennol i friffio'r panel ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w trafod:
- Mae'r Panel yn
teimlo nad oes digon o gyfleusterau cyhoeddus ar gael, er enghraifft,
toiledau, tapiau dŵr yfed, rheseli beiciau etc. ar hyd ardaloedd mwy
twristaidd Abertawe a Gŵyr, gan gynnwys glan y môr, a holwyd a oedd
cynlluniau i gynyddu'r mathau hyn o gyfleusterau. Hysbyswyd y
Panel fod toiledau cyhoeddus yn agos at yr holl draethau mawr rhwng y
Mwmbwls a Rhosili. Clywodd y Panel fod y cyngor ar hyn o bryd yn ymchwilio
i opsiynau ar gyfer cynyddu cyfleusterau parcio beiciau mewn lleoliadau
strategol ar draws y rhwydwaith teithio llesol a all annog ymwelwyr sy’n
mwynhau beicio hamdden.
- Mae'r Panel yn
teimlo bod cynlluniau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru wedi'u seilio'n fwy
ar gymudwyr yn hytrach nag annod pobl i fynd i fannau hamdden. Holodd yr
Aelodau a oes unrhyw botensial ar gyfer ychwanegu cysylltiadau byr o'r
llwybrau teithio llesol at y cyrchfan i dwristiaid, gan eu bod yn credu y
byddai llawer o bobl yn defnyddio'r llwybrau hyn o ganlyniad. Bydd Aelod y
Cabinet priodol yn darparu ymateb llawn yn dilyn y cyfarfod.
- Gofynnodd y Panel
am Lwybr Arfordir Cymru a holodd a oedd unrhyw adborth y mae'r cyngor yn
ei gael ar unrhyw rannau o'r llwybr yn cael ei gyfleu i sefydliad Mynediad
i Gefn Gwlad Cymru. Bydd Aelod y Cabinet priodol yn darparu ymateb llawn
yn dilyn y cyfarfod.
- Trafododd y Panel
fap beicio'r ardal, a sut yn flaenorol yn y Pwyllgor Craffu, siaradodd yr
aelodau am fap arddull sgïo gyda llinellau coch, glas, du a gwyrdd a oedd
yn dangos y lefel anhawster. Holodd
y Panel a oedd hyn wedi'i weithredu yn y map a sut y bydd hyn yn cysylltu
â chefn gwlad Gŵyr. Bydd Aelod y Cabinet priodol yn darparu ymateb
llawn yn dilyn y cyfarfod.
- Dywedodd y Panel
nad yw Abertawe wedi'i chofrestru ar wefan Awyr Dywyll. Clywyd nad oes gan y cyngor statws Awyr
Dywyll eto ond mae'n gweithio tuag ato.
- Trafododd y Panel
sut mae pobl yn dod i draethau yn Abertawe i 'drochi' yn y môr ar bob adeg
o'r flwyddyn ond yn enwedig yn y gaeaf, a gofynnodd a yw hyn yn werth
edrych arno'n agosach fel ymgyrch ar gyfer y gaeaf, gan ei fod yn hynod
boblogaidd. Clywyd bod hyn wedi cael ei drafod gyda'r Grŵp Rheoli
Traethau o safbwynt diogelwch, gan ei fod yn digwydd yn aml ar adegau pan
nad oes gan y cyngor achubwyr bywydau ar y traethau.
- Nododd y Panel fod
ardaloedd na all llwybr beicio fynd drwyddynt oherwydd materion
cyfreithiol, fel gwrthwynebiad gan rai grwpiau. Holodd y Panel a oes hawliau tramwy yn
mynd drwy’r ardaloedd hyn i bobl gerdded etc., ac os felly, a ellir
hyrwyddo’r hawliau tramwy hyn yn fwy i annog mwy o gerddwyr/feicwyr i’w
defnyddio. Gofynnodd y Panel hefyd
a ellid lleoli rheseli beiciau yn y mannau hyn. Clywodd y Panel fod
hawliau tramwy cyhoeddus wedi’u cofnodi ar draws y sir gyfan sy’n cael eu
hyrwyddo drwy’r wefan: www.croesobaeabertawe – ac mae'r mwyafrif hefyd ar
gael fel PDFs y gellir eu lawrlwytho. Dywedodd y Panel nad oes gan feicwyr
yn gyfreithiol yr hawl i ddefnyddio llwybrau cyhoeddus, ond bod ganddynt
hawl i ddefnyddio llwybrau ceffylau cyhoeddus.
- Gofynnodd y Panel a
oedd y cyngor yn rhagweld y bydd newidiadau diweddar i wasanaethau bysus
yn cael effaith fawr ar dwristiaeth werdd, ac a oes unrhyw gynlluniau i
geisio goresgyn hyn. Clywodd y Panel fod gwasanaethau bysus ar benrhyn
Gŵyr yn cael eu rhedeg gan Adventure Travel (nid First Cymru), felly
nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt.Mae'r rhan fwyaf o lwybrau
twristiaeth yn Abertawe yn dal i weithredu o ddydd Llun i ddydd Sul ond
mae amlder y gwasanaeth wedi lleihau. Un o'r problemau gyda gwasanaethau
bysus yw bod gan Abertawe ddau ddarparwr - Adventure Travel a First Cymru,
ac nid ydynt yn gweithredu system tocyn drwodd. Dangosodd ymchwil yn 2022
fod y rhan fwyaf o bobl yn dal i gyrraedd mewn car ac mae'r anghydfod
rheilffordd parhaus yn annog pobl i ddefnyddio'r opsiwn hwn.
Camau Gweithredu:
· Darparu gwybodaeth am y
posibilrwydd ar gyfer ychwanegu cysylltiadau byr rhwng llwybrau teithio llesol
a chyrchfannau hamdden.
· Darparu gwybodaeth am
gyfathrebu â Mynediad i Gefn Gwlad Cymru ynghylch adborth mewn perthynas â
Llwybr Arfordir Cymru, uwchraddio a chyllid.
· Darparu gwybodaeth am weithredu map beicio
'arddull sgïo'.
|