Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Evans gysylltiad personol ag eitem 7.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 234 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023 yn gofnod cywir
o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau.
|
5. |
Cadwraeth Natur - Diweddariadau am y Prosiect PDF 63 KB
Gwahoddwyd:
Y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y
Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad
Paul Meller - Rheolwr
Is-adran yr Amgylchedd Naturiol
Deborah Hill – Arweinydd
y Tîm Cadwraeth Natur
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Paul Meller, Rheolwr Is-adran yr Amgylchedd Naturiol y diweddaraf
i'r panel a chadarnhaodd fod yr holl argymhellion o'r ymchwiliad craffu yn 2019
bellach wedi'u cwblhau neu'n rhan o brosiectau eraill.
Pwyntiau Trafod:
- Holodd y panel a yw tair swydd dros dro a
ariennir drwy grantiau'n bodoli o hyd. Dywedwyd y derbyniwyd arian grant
ar gyfer un flwyddyn yn unig. Ni fyddant yn parhau ar ôl mis Mehefin 2023
gan na ddaethpwyd o hyd i gyllid amgen.
- Gofynnodd y panel am gadarnhad o ble yn
Abertawe y gosodwyd twnnel polythen ar gyfer tyfu cymunedol. [Yn dilyn y
cyfarfod, cadarnhaodd swyddogion ei fod ar dir adeilad Cyfeillion Pobl
Ifanc Anabl, Canolfan Gordon Moor yng Nghwmbwrla.]
- Mae'r adroddiad yn sôn am ddatblygu mapiau a
phecyn ar gyfer prosiect 'Yn wyllt am eich ward' a hyd yma mae
cynlluniau’n cael eu paratoi ar gyfer Townhill a
Threforys. Clywyd bod y gwaith hwn yn
gysylltiedig ag arian grant ac ni fydd adnoddau i barhau â hyn ar ôl mis
Mehefin.
- Gofynnodd y panel beth yw'r blaenoriaethau
rhwng nawr a mis Mehefin o ran gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r amser a'r
arian sydd ar ôl ar gyfer y grant penodol hwn. Dywedodd swyddogion y bydd
yr amser sydd ar ôl yn cael ei dreulio ar rai prosiectau parhaus yn Townhill a Threforys.
- Soniodd y panel fod Canolfan yr Amgylchedd yn
ei chael hi'n anodd dod o hyd i adnoddau er mwyn parhau ac mae gwir angen
cefnogaeth arnynt.
- Gofynnodd Panel am gadarnhad fod cysylltiadau
amgylcheddol wedi’u gwneud o fewn holl gyrff llywodraethu ysgolion i
dderbyn cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau a mentrau bioamrywiaeth.
Dywedwyd bod cysylltiadau da gyda rhai ysgolion ond nid pob ysgol.
Cytunodd swyddogion i ddarparu dolen cadwraeth natur cyffredinol y gall
ysgolion/llywodraethwyr ei ddefnyddio i gymryd rhan.
Camau Gweithredu:
- Darperir dolen i ysgolion/llywodraethwyr gael
cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau a mentrau bioamrywiaeth ysgolion.
|
6. |
Rheoli Ansawdd Aer PDF 917 KB
Gwahoddwyd:
Y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y
Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad
Carol Morgan, Pennaeth
Tai ac Iechyd y Cyhoedd
Tom Price – Arweinydd
Tîm, Rheoli Llygredd
Cofnodion:
Roedd Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd yn bresennol i friffio'r
panel. Roedd Paul Lewis, Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
hefyd yn bresennol.
Pwyntiau Trafod:
- Oedi wrth gyflwyno Adroddiad Cynnydd
Blynyddol i Lywodraeth Cymru. Caiff yr adroddiad am y tair blynedd
diwethaf ei gyflwyno’n fuan ac yna caiff ei ddosbarthu i'r panel. Mae'r
casgliadau drafft yn awgrymu bod y cyngor yn cydymffurfio ar hyn o bryd.
- Holodd y panel a oes unrhyw ddeddfwriaeth yn
cael ei chyflwyno yng Nghymru ynghylch stofiau llosgi pren. Dywedwyd yng
Nghymru ei fod yn rhan o Fil Aer Glân y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio
arno. Roedd yr Athro Lewis Grŵp wedi cyflwyno Grŵp Trawsbleidiol
ar gyfer Deddf Aer Glân i Aelodau'r Cynulliad yn ddiweddar a bydd yn
rhannu'r cyflwyniad hwn â’r panel.
- Holodd y panel a fydd coelcerthi gardd yn
cael eu cynnwys yn y Ddeddf Aer Glân a dywedwyd bod pwerau presennol ar
waith o dan ddarpariaethau niwsans statudol yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd.
Mae llosgi yn yr awyr agored hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer y Ddeddf
Aer Glân o ran mwy o reoleiddio. Ni fydd tân gwyllt yn cael ei gynnwys yn
yr ymgynghoriad ar y Bil Aer Glân ond cafwyd ymgynghoriad ar wahân
ynghylch tân gwyllt a chaiff hwn ei ddosbarthu i'r panel.
- Roedd y panel yn poeni am ansawdd aer o
amgylch ysgolion a gofynnwyd a yw pob ysgol yn y Sir wedi cael ei harwchilio i sicrhau ei bod yn ddiogel. Dywedwyd bod y
cyngor yn monitro ansawdd aer mewn rhai ysgolion ac ar hyn o bryd maent yn
cydymffurfio ar draws Abertawe.
- Clywodd y panel fod LlC
yn canolbwyntio ar ysgolion. Mae dod i gysylltiad â llygryddion aer y tu
allan i ysgolion yn broblem ac mae angen mwy o dystiolaeth ar Gymru o ran
lefelau dod i gysylltiad â’r rhain, a'r effeithiau ar iechyd plant.
- Dywedwyd wrth y panel fod Llwybrau i'r Ysgol
yn gweithio gydag ysgolion gan ddarparu syniadau i atal rhieni rhag dod â
phlant i'r ysgol. Mae angen ystyried llwybrau y mae plant yn eu cymryd i
gyrraedd yr ysgol hefyd. Mae potensial ar gyfer gwneud cais yn y dyfodol
am grant cymorth gan LlC i gynhyrchu cynnyrch ar
gyfer llwybrau diogel i'r ysgol.
- Holodd y panel pa mor sensitif yw monitro deunydd
gronynnol ar hyn o bryd a sut y gall ysgol fel Ystumllwynarth, sy'n
adeilad concrit yn bennaf, gael ei 'gwyrddio'. Bydd yr ymyriad gwybodus
sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn yr ysgol yn profi crynodiad deunydd
gronynnol ar y ffin ac yn yr iard a gosodir sgrîn werdd brawf ar hyd ardal
y rheiliau. Mae'n dod yn llawer haws monitro PM2.5 ar synwyryddion cost is
fel y gallwn gael dosbarthiad eang o fonitorau.
- Trafododd y panel y farn y bydd y terfyn
cyflymder o 20mya yn cynyddu'r potensial ar gyfer llygredd, yn debyg i
dwmpathau arafu a cherbydau sy'n aros i droi i'r dde wrth oleuadau.
Esboniwyd bod astudiaethau gwybodus ynghylch a oedd twmpathau arafu yn
cynyddu neu'n lleihau llygredd yn aneglur a phrin yw'r dystiolaeth ar
effaith terfynau cyflymder o 20mya ar ansawdd aer ond mae'r ychydig
dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod gyrru ar 20mya yn gyffredinol yn
arwain at welliant o ran PM2.5. Y peth allweddol yw bod llai o frecio a
threulio teiars ar gyflymder o 20mya.
- Gofynnodd y panel ai prif achos cerbydau
segur y tu allan i ysgolion yw rhieni'n gollwng plant ac a fyddai'n werth
rhoi gwybodaeth i ysgolion i geisio addysgu rhieni i beidio â gwneud hyn.
Clywyd bod deddfwriaeth ar gyfer troseddau segura llonydd, ac fe'i hysgrifennir mewn contractau bysus ar gyfer
darpariaeth cludiant ysgol. Fodd bynnag, nid rhieni yn unig sy'n segura y
tu allan i ysgolion.
Camau Gweithredu:
- Dosbarthu'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol i'r
Panel ar ôl ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
- Dosbarthu cyflwyniad yr Athro Lewis i'r panel
er gwybodaeth.
- Dosbarthu ymgynghoriad LlC
ar dân gwyllt i'r panel.
|
7. |
Rheoli Perygl Llifogydd Lleol - Diweddariad Blynyddol PDF 164 KB
Gwahoddwyd:
Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod
y Cabinet - Yr Amgylchedd
ac Isadeiledd
Stuart Davies – Pennaeth
Priffyrdd a Chludiant
Mike Sweeney – Arweinydd
Tîm, Priffyrdd a Chludiant
Cofnodion:
Rhoddodd Mike Sweeney,
Arweinydd y Tîm Priffyrdd a Chludiant y diweddaraf i'r panel ar y mater hwn gan
gynnwys rolau a dyletswyddau'r cyngor yn y maes hwn.
Pwyntiau Trafod:
- Ar hyn o bryd mae angen i'r cyngor gynhyrchu
Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a’i chyfuno â Chynllun Rheoli
Perygl Llifogydd.
- Gofynnodd y panel am ddiweddariad ar y
cynnydd gydag achosion busnes ar gyfer cynlluniau a gefnogwyd gan grant
Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan
lifogydd. Dywedwyd bod hyn yn cymryd mwy o amser i'w gwblhau na'r disgwyl.
Unwaith y byddant wedi'u cwblhau cânt eu cymharu yn erbyn cynlluniau
eraill yng Nghymru i benderfynu pa rai fydd yn cael eu datblygu yn
seiliedig ar ffactorau yn erbyn risg i eiddo.
- Gofynnodd y panel a yw Abertawe mewn mwy o
berygl o lifogydd na rhannau eraill o Gymru a chlywyd bod perygl llifogydd
yn her i bob awdurdod lleol ledled Cymru ac mae angen cynllunio ymlaen
llaw i liniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- Gofynnodd y panel am gynllun Blackpill, ac a oedd
gwrthwynebiad Dŵr Cymru i'r cynllun wedi’i ddatrys. Mae
trafodaethau gwybodus yn cael eu cynnal. Holodd y panel hefyd a oedd
unrhyw waith wedi'i drefnu i gadw'r all-lifoedd yn glir yn Blackpill gan fod problem gyda thywod yn eu rhwystro.
Clywyd bod yr adran yn ymwybodol bod yr all-lif yn tueddu i gael ei
rwystro gan dywod, maen nhw wedi’i glirio yn y gorffennol a byddant yn
gwneud hynny eto os oes angen.
- Soniodd y panel am dai newydd sy'n cael eu
hadeiladu yn ardal Penllergaer a gofynnwyd a
fydd y mater rhyddhau rhagor o ddŵr wyneb i system sydd eisoes wedi
wynebu heriau sylweddol yn cael ei archwilio’n rheolaidd yn y dyfodol.
Esboniwyd pan fydd y cyngor yn asesu ceisiadau cynllunio ar ddatblygiadau
mwy mae'n defnyddio safon genedlaethol fel nad ydynt yn achosi perygl
llifogydd i'r isadeiledd presennol. Cadarnhawyd y byddant yn parhau i
fonitro sefyllfa Penllergaer wrth symud ymlaen.
- Holodd y panel pa gynlluniau sydd ar waith i
wella isadeiledd hŷn o ystyried yr heriau presennol. Cesglir asedau
data gwybodus y mae'r adran yn credu ei fod yn bwysig i berygl llifogydd,
archwilio’i gyflwr, ac os bydd digwyddiad llifogydd, ceisio deall yr hyn
sydd wedi'i achosi, ac, os yw o ganlyniad i allu'r system, yna byddant yn
cymryd camau pellach i ddod o hyd i ddatrysiad.
- Gofynnodd y panel am effaith gerddi sy'n cael
eu gorchuddio â phalmant neu darmac, astro turf a dreifiau resin ar ddŵr ffo ac a oes unrhyw
gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i'w wneud yn ofynnol i bobl gael
caniatâd cynllunio i'w wneud. Clywyd nad oes deddfwriaeth i gefnogi
ymyrraeth ar hyn o bryd. Ar ddatblygiadau newydd rydym yn ceisio cael y
rhan fwyaf o ddŵr i fynd i'r ddaear os yw'n bosib. Os na, rhaid
edrych ar wanhad a storio dŵr ar ddatblygiadau, felly mae ffyrdd o
leihau'r dŵr ffo ar gyfer ceisiadau newydd ond nid ar gyfer
datblygiadau hŷn.
- Mae’r panel yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol
gwybod beth yw pyllau gwanhau a chael rhywfaint o ddealltwriaeth o SUDS
a'i effaith ar ddatblygiadau newydd. Trafodwyd pecyn hyfforddi ar SUDS
sy'n cael ei roi ar waith ar hyn o bryd y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau'r
Panel ddod i gyfarfod amdano. Bydd trafodaethau pellach ar hyn yn cael eu
cynnal y tu allan i'r cyfarfod.
Camau Gweithredu:
- Darparu gwybodaeth am hyfforddiant SUDS i
Aelodau'r Panel.
|
8. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 285 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau
ar gyfer y cyfarfod nesaf.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet A Stevens (cyfarfod 8 Mawrth 2023) PDF 119 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet D Hopkins (cyfarfod 8 Mawrth 2023) PDF 163 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet D Hopkins (cyfarfod 8 Mawrth 2023) PDF 207 KB
Dogfennau ychwanegol:
|