Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 310 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2022 fel cofnod cywir
o'r cyfarfod.
Materion a godwyd:
Cofnod 78 - Ar gam gweithredu 2, gofynnodd y panel a oedd hyfforddiant ar
gyfer y Cynghorwyr wedi'i sefydlu. Dywedwyd bod rhaglen hyfforddi e-ddysgu
wedi'i datblygu a byddai'n fyw ar ôl i'r adroddiad fynd i'r Cabinet ym mis
Rhagfyr 2022.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Rôl y Panel Craffu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur PDF 183 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau rôl y Panel.
|
6. |
Ansawdd Dwr a Rheoli Dwr PDF 149 KB
Gwahoddwyd y canlynol i fod yn bresennol:
Y Cyng. David Hopkins, Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau
a Pherfformiad Corfforaethol
Carol Morgan, Pennaeth
Dros Dro Tai ac Iechyd y Cyhoedd
Tom Price, Arweinydd
Tîm Rheoli Llygredd a Thai’r Sector Preifat
Hamish Osborn a Sarah Bennett, Cyfoeth Naturiol Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol
a swyddogion a chynrychiolwyr perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru'n bresennol i
friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y Panel a
oedd unrhyw achosion mawr wedi digwydd yn lleol o ran carthffosiaeth yn
mynd i mewn i'r môr yn dilyn stormydd. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod
gorlifoedd stormydd o gwmpas yr arfordir a ger afonydd sydd wedi'u dylunio
i arllwys dŵr gormodol, sy'n mynd i'r system garthffosiaeth yn ystod
glaw trwm, i'r amgylchedd i atal llifogydd mewn tai. Mae gorlifoedd
stormydd yn Abertawe. Ar hyd y rhannau mwyaf gwerthfawr o'r arfordir,
mae'r gorlifoedd yn llifo dan amgylchiadau eithriadol yn unig.
- Gofynnodd y Panel
pwy sy'n gyfrifol am ollwng carthffosiaeth i’r môr. Hysbyswyd bod CNC yn
gyfrifol am ei gollwng mewn dyfroedd a reolir, h.y. afonydd, y rhan fwyaf
o lynnoedd a'r môr. Mae CNC yn gweithio gyda'r cyngor ar effeithiau rhai
o'r gollyngiadau ar iechyd cyhoeddus, ond CNC sydd â'r prif gyfrifoldeb am
ymateb i ddigwyddiadau llygredd. Mae gan Dŵr Cymru gyfrifoldeb i aros
o fewn cyfyngiadau ei drwydded ac fe'i hysbysir ynghylch unrhyw broblemau
sy'n berthnasol i'w asedau, a bydd CNC yn gwneud gwaith gorfodi dilynol os
bydd angen.
- Gofynnodd y Panel
pa mor effeithiol oedd gwaith monitro plaleiddiad amaethyddol ffo yn
Abertawe. Dywedodd CNC mai'r brif broblem oherwydd amaethyddiaeth yng
Nghymru yw dŵr ffo sy'n berthnasol i fiswail a maethynnau. Nid
amaethyddiaeth yw'r broblem fwyaf yn Abertawe o ran ansawdd dŵr ond
mae'n cael ei monitro a gwneir gwaith dilynol os bydd angen.
- Gofynnodd y Panel a
yw Caswell yn un o'r safleoedd trafferthus o ran
gollwng carthffosiaeth i’r môr, faint o safleoedd trafferthus sydd gennym
a sut rydym yn cymharu ag awdurdodau tebyg. Dywedodd CNC fod gorlifoedd
argyfwng yn hytrach na gorlifoedd stormydd yn ardaloedd Caswell a Langland. Bu rhai
problemau o ran gorlifo yn y system, yn enwedig yn ardal Caswell, sydd wedi arwain at rybuddion gorlifoedd yn y
gorffennol. Mae'r symiau a ollyngir ar y ddau draeth yn fach iawn.
- Roedd y Panel am wybod
a oes unrhyw welliannau i isadeiledd wedi'u cynllunio yn yr ardal neu a
oes angen eu gwella yn yr ardal. Dywedodd CNC y byddent bob amser yn
chwilio am isadeiledd yn Abertawe i’w archwilio a’i wella os bydd angen.
Dyma’r dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod y gorlifoedd mewn argyfwng dim
ond yn gweithredu mewn argyfwng ac nid fel gorlifoedd stormydd.
- Gofynnodd y Panel
sut byddwn yn diogelu'r system garthffosiaeth/ddraenio yn y dyfodol.
Dywedodd CNC y mae'n debygol y bydd rhagor o stormydd mwy dwys yn y dyfodol,
a fydd yn rhoi pwysau ar unrhyw systemau draenio. Mae Dŵr Cymru'n
ystyried hyn wrth flaengynllunio.
- Gofynnodd y Panel
am farn CNC ynghylch tanciau septig mewn ardaloedd trefol. Dywedodd CNC y
byddai'n well ganddynt beidio eu gweld mewn ardaloedd trefol, ac y
byddai'n well petaent wedi'u cysylltu â phrif draeniau.
- Gofynnodd y Panel
ynghylch cyfranogaeth CNC o ran safleoedd adeiladu mewn perthynas â silt. Hysbyswyd
na ddylai safleoedd adeiladu arwain at lygredd silt mewn afonydd. Mae
angen i CNC weithio'n well yn y dyfodol mewn perthynas â chynllunio a
datblygwyr. Hoffent weld safleoedd adeiladu yn cael eu cyflwyno mewn
ffyrdd llawer gwell a datblygwyr yn gweithio mewn ffordd lanach.
- Dywedodd y Panel
fod rheoliadau SDCau bellach ar waith a
gofynnwyd a yw hynny o ddefnydd o gwbl. Roedd CNC yn teimlo bod hynny'n
gam sylweddol ymlaen ond mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gall unrhyw
ddeddfwriaeth ei wneud. Mae CNC am fod yn well wrth atal llygredd o
ganlyniad i weithgarwch adeiladu.
Gofynnodd y Panel am gyflenwadau dŵr yfed preifat a
pha mor aml y gwneir asesiadau risg a gwaith monitro. Dywedwyd o ran
cyflenwadau dŵr yfed preifat, mae'r cyngor yn gwirio'n flynyddol a yw'n
gyflenwad masnachol neu'n gyflenwad a rennir ac mae'n gwirio bob 5 mlynedd a
yw'n gyflenwad unigol. Mae swyddogion yn hyderus eu bod yn mynd i'r afael â hyn
a bod popeth yn yr ardal wedi'i gynnwys.
|
7. |
Trosolwg o Newid yn yr Hinsawdd a Natur yn Abertawe PDF 170 KB
Gwahoddwyd:
Y Cynghorydd Andrea Lewis,
Aelod y Cabinet - Trawsnewid Gwasanaethau
Y Cynghorydd David Hopkins,
Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod
y Cabinet - Yr Amgylchedd ac Isadeiledd
Geoff Bacon - Pennaeth y
Gwasanaethau Eiddo
Rachel Lewis - Rheolwr Prosiect
y Gyfarwyddiaeth
Paul Meller – Rheolwr yr
Amgylchedd Naturiol
Deborah Hill – Arweinydd y Tîm
Cadwraeth Natur
Jane Richmond - Rheolwr
Prosiect, Newid yn yr Hinsawdd Strategol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth Aelodau’r Cabinet, Andrea Lewis a David Hopkins, ynghyd â'r
swyddogion perthnasol i'r cyfarfod i friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y Panel
ynghylch pŵer hydro ar draws Abertawe ac
roedd am wybod a yw'r adran wedi cyflawni archwiliad o safleoedd posib ar
draws Abertawe, a allai’r cyngor o bosib fanteisio ar y safleoedd hyn ac a
oes unrhyw le y gallwn eu rhoi. Hysbyswyd y Panel fod y cyngor yn gweithio
gydag awdurdodau cyfagos ar ddatblygu cynllun datblygu ynni rhanbarthol.
Clywodd ei fod yn gweithio tuag at 'droi'r grid yn wyrdd', tuag at darged
2050 yn hytrach na tharged 2030 ond bydd yr awdurdod, a ariennir gan
Lywodraeth Cymru, yn llunio cynllun datblygu ynni lleol ac yn ei
ddosbarthu i'r rhanbarth ehangach. Bydd swyddogion yn rhoi diweddariad yn
ystod cyfarfod y Panel ym mis Ionawr 2023, pan fydd ganddynt syniad gwell
o'r amserlenni.
- Mae'r Panel yn
ymwybodol y bydd yn anodd iawn cyflawni'r nod o fod yn Sero-net erbyn 2030
a gofynnodd a yw'r cyngor yn hyderus y bydd yn llwyddo i gyrraedd y nod.
Cadarnhaodd swyddogion y bydd yn anodd iawn a bod y cyngor yn derbyn
arweinyddiaeth a chyngor gan Lywodraeth Cymru gan mai ymagwedd Cymru gyfan
yw hyn.
- Gofynnodd y Panel
ynghylch ystyr 'Parcio Tecach' a nodir ar dudalen 36 yr adroddiad. Bydd
swyddogion yn darparu ymateb yn dilyn yr adroddiad.
Camau Gweithredu:
- Cynnwys diweddariad
ar Gynllun Ynni Lleol fel rhan o eitem 'Diweddariad ar Newid yn yr
Hinsawdd' yn ystod cyfarfod nesaf y Panel ym mis Ionawr 2023.
- Rhoi gwybod i'r
Panel ynghylch ystyr 'Parcio Tecach'.
|
8. |
Rhaglen Waith ddrafft 2022-23 PDF 192 KB
Cofnodion:
Cytunodd y Panel
ar y Rhaglen Waith ar gyfer 2022-23.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Tachwedd 2022) PDF 119 KB
|