Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Swyddog Craffu - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

60.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

61.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 368 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 26 Awst 2021, yn gofnodion cywir.

62.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

63.

Llygredd dwr pdf eicon PDF 146 KB

David Hopkins – Aelod y Cabinet Cyflawni a Gweithrediadau (Y Ddirprwy Arweinydd)

Tom Price – Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd a Thai Sector Preifat

Paula Livingstone – Swyddog Adrannol Iechyd yr Amgylchedd

Hamish Osborn – Cyfoeth Naturiol Cymru

Sarah Bennett - Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

Derbyniodd y panel ddiweddariad gan y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, a Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd, ynghylch sut mae’r cyngor yn rheoli llygredd dŵr. Roedd Mark Wade, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, Paula Livingstone, Swyddog Adrannol Iechyd yr Amgylchedd, a Sam Naylor, Swyddog Rheoli Llygredd, hefyd yn bresennol i gynorthwyo trafodaethau ar y pwnc hwn.

 

Yn ogystal â hyn, roedd Sarah Bennett a Hamish Osborn yn bresennol ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r panel.

 

Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth:

·         Ymagwedd ar y cyd a pherthynas waith dda rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Dinas Abertawe (SCC).

·         Mae wyth ardal dŵr ymdrochi ddynodedig yn Abertawe. Cymerir samplau drwy gydol y tymor ymdrochi (Mai-Medi) gan roi canlyniadau i alluogi dosbarthiad rhagorol, da, annigonol a gwael.

·         Cyngor Abertawe yw perchennog Bae Abertawe ac felly Rheolwr y Traeth. Mae Bae Abertawe wedi'i ddynodi'n dda, a'r saith ardal arall wedi'u dynodi'n rhagorol.

·         Tynnwyd sylw’n ddiweddar yn y cyfryngau at sefyllfa anarferol ar Afon Tawe pan aeth carthion i mewn i'r afon. Roedd y lefelau'n ddigon sylweddol i gymryd ymagwedd ragofalus, ac argymhellwyd na ddylid ymdrochi yno ar yr adeg honno. Dechreuodd Dŵr Cymru olrhain y llygredd i garthffos a oedd wedi dymchwel a oedd yn mynd i mewn i ddraen dŵr wyneb. Mae’r broblem bellach wedi'i datrys.

·         Mae darpariaeth mewn rheoliadau sy'n caniatáu ymateb i amgylchiadau a allai effeithio ar ansawdd dŵr, er enghraifft hysbysu'r cyhoedd am argymhellion i beidio ag ymdrochi yn ystod cyfnodau o lygredd.

·         Mae rhywfaint o bryder ynghylch defnydd hamdden o afon Tawe yn ystod digwyddiadau o'r fath -  codwyd arwyddion i hysbysu'r cyhoedd i osgoi defnydd hamdden.

·         Prosiect cydweithredol 2011: Cynhaliodd CDA arolwg samplu dŵr dwys. Y canlyniad oedd model cyfrifiadurol i ragweld ansawdd dŵr bob awr ym Mae Abertawe. I ddechrau, roedd y model hwn yn rhedeg fel system mewnbynnu â llaw; mae bellach yn broses roboteiddio awtomataidd sy'n gysylltiedig ag arwyddion a Twitter.

·         CDA – Samplwyd traethau heb eu dynodi hefyd ym Mae Rhosili a Bae Broughton. Y prif ddylanwad yma yw’r dŵr ffo o’r aber a’r da byw.

·         Mae sylw yn y cyfryngau’n ddiweddar wedi tynnu sylw at garthion yn cael eu rhyddhau i draethau, h.y. digwyddiadau rhyddhau brys. Mae'r system wedi'i chynllunio i gael gorlif argyfwng, gan ganiatáu ar gyfer dŵr ffo wyneb/gorlif stormydd. 

·         Bydd effaith newid yn yr hinsawdd ar ddigwyddiadau glaw cynyddol yn effeithio ar ddigwyddiadau gorlifo yn sgîl stormydd. Mae CNC wedi gweithio i leihau nifer y digwyddiadau o'r math yn sylweddol, er bod hon yn her barhaus.

·         Dull gweithredu ar y cyd CNC/CDA – mae'r cyngor yn gweithredu gwasanaeth 24 awr ar gyfer argyfyngau galw allan, megis digwyddiad Rheilffordd Llangennech yn 2020, gan gynnal presenoldeb mewn grŵp trefn reoli tactegol, ac ymatebion fel samplu pysgod cregyn a chynlluniau adfer.

·         Tanciau carthion/carthbyllau - proses a reoleiddir gan CNC. Mae angen hawlen neu eithriad ar gyfer gollyngiadau carthion preifat. Mae gan Abertawe nifer sylweddol o danciau septig. Mae CNC yn ymdrin ag effeithiau amgylcheddol, ac mae CDA yn ymdrin ag agwedd iechyd y cyhoedd.

·         Holodd y panel ynghylch caniatáu i eiddo newydd gael tanciau septig, yn enwedig o fewn pridd clai ac felly'n effeithio ar y broses o drylifiad sy’n arwain at lefelau uwch o ddŵr ffo.

·         Tynnodd swyddogion sylw at y system awyru ar afon Tawe, sy'n weithredol yn ystod misoedd yr haf, lle mae'r dŵr halen yn uwch na’r morglawdd. Gall y lletem halwynog gael effaith ar fywyd yr afon, felly mae'r system yn gweithredu i gymysgu swigod mân o aer i'r golofn ddŵr. Mae CDA yn monitro halltedd ac unwaith bob dwy flynedd yn mynd ati i garthu'r sianel fordwyadwy.

·         Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat – mae dros 125 o gyflenwyr yn Abertawe, y mae wyth - naw ohonynt yn 'Gategori 9', yn cael eu profi'n amlach. Mae ymagwedd asesu risgiau ar waith, gan alluogi cymryd camau os effeithir ar ddŵr yfed yn y man lle caiff ei yfed.

·         Mae CDA hefyd yn monitro dŵr pyllau nofio.

·         Holodd Aelodau'r Panel pa mor aml y mae digwyddiadau draeniau llifogydd yn effeithio ar afon Tawe.

·         Holodd yr aelodau am hyd y tymor ymdrochi (Mai-Medi) ac a ddylid ymestyn hyd y tymor hwn. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y tymor hwn wedi'i ddynodi o dan reoliadau statudol.

·         Diwygiodd yr UE y rheoliadau dŵr ymdrochi - bu'n rhaid i CNC a Dŵr Cymru weithio i wella ansawdd dŵr ym Mae Abertawe, gan leihau gollyngiadau dŵr storm

·         Nid oes gan Afon Tawe unrhyw ddynodiad cyfredol fel 'dŵr ymdrochi' ac felly ni chymerir unrhyw ystyriaeth o safonau bacteriol yn y dŵr. Ar hyn o bryd, nid oes safon 'dŵr hamdden' ar gyfer dŵr nad yw'n ddŵr ymdrochi.

·         Soniodd yr aelodau am yr arogl o amgylch gwaith trin Port Tennant. Cadarnhaodd swyddogion fod trafodaethau'n parhau o ran bwriadau'r dyfodol. Ymgymerodd swyddogion i ddosbarthu'r ddolen i e-ddyddiadur i gofnodi sylwadau o'r fath.

·         Cododd y panel hefyd y mater o droi gerddi blaen preswyl yn ardaloedd llawr caled, sy’n cynyddu’r dŵr ffo ar yr wyneb. Dywedodd swyddogion fod angen rhoi systemau draenio cynaliadwy ar waith mewn unrhyw adeiladau newydd dros 100 metr sgwâr. Mae nodweddion newydd yn aml yn cael eu hymgorffori i gynorthwyo draenio drwy arwynebau athraidd.

·         Cododd yr aelodau bryderon ynghylch ardaloedd trefol a dŵr ffo, gan gyfeirio at ardal Sandfields fel enghraifft. Tynnodd swyddogion sylw hefyd at y ffaith bod yr ardal benodol hon yn derbyn dŵr ffo o dir uwch. Esboniodd swyddogion y byddai cynnal a chadw gyliau'n dda yn helpu i liniaru’r mater hwn.

·         Mae'r pwyntiau hyn am ddŵr ffo a'r effaith ar lygredd dŵr/systemau draenio hefyd yn berthnasol yng nghyd-destun yr eitem ganlynol – Rheoli Perygl Llifogydd.

·         Soniodd swyddogion am y berthynas waith ragorol rhwng CNC a CDA gan ganmol y timau sy'n ymwneud â'r maes gwaith hwn.

 

64.

Rheoli Perygl Llifogydd Lleol pdf eicon PDF 312 KB

Mark Thomas  Aelod y Cabinet Gwella'r Amgylchedd a Rheoli IsadeileddStuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Bob Fenwick – Arweinydd Grŵp, Cynnal a Chadw Priffyrdd

Mike Sweeney – Arweinydd Tîm, Priffyrdd a Chludiant

 

Cofnodion:

Derbyniodd y panel ddiweddariad gan y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, a Mike Sweeney, Arweinydd Tîm, Priffyrdd a Chludiant. Roedd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant hefyd yn bresennol i gynorthwyo trafodaethau ar y pwnc hwn.

 

Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth:

·         Cydnabu'r Cynghorydd Thomas y gall y mater hwn effeithio ar bob ward ar ryw adeg, gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyngor yn dibynnu'n drwm ar gyllid Llywodraeth Cymru i reoli'r mater hwn.

·         Bagiau tywod – weithiau mae'n anodd defnyddio adnoddau i ddosbarthu bagiau tywod i ardaloedd yr effeithir arnynt yn ystod cyfnodau o argyfwng/llifogydd brys, pan fydd adnoddau'n cael eu cyfeirio i ymdrin yn syth â’r sefyllfaoedd llifogydd

·         Mae proses gaffael yn parhau i ychwanegu cerbydau cynnal a chadw gylïau newydd.

·         Mae dulliau ataliol yn parhau i gael eu datblygu i liniaru perygl llifogydd.

·         Mae swyddogion yn creu menter newydd ar gyfer criw gylïau ymatebol gyda'r nod o ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau llifogydd unigol.

·         Gall staff ychwanegol hefyd fod wrth law i ddarparu bagiau tywod ac i gynnal cwlferi hanfodol.

·         Gwnaeth yr aelodau sylwadau ar baragraff 4.1 o'r adroddiad, ynghylch dwy swydd wag amser llawn ac effaith y swyddi gwag hyn. Cydnabu swyddogion fod recriwtio staff technegol yn her.

·         Ailadroddodd swyddogion fod dwysedd y glaw a chawodydd trwm o law yn golygu y byddai achlysuron lle bydd y system ddraenio bresennol yn cael ei llethu. Bydd darparu ar gyfer cyfnodau o law eithafol yn her.

·         Soniodd yr aelodau am ddefnyddio’u cyllideb amgylcheddol o fewn wardiau unigol i gaffael timau gylïau ar sail ad-hoc.

·         Esboniodd swyddogion y bydd y ffigur presennol o 5 eiddo, fel trothwy ar gyfer digwyddiadau o bwys lleol, o bosibl yn cael ei godi i 20 eiddo yn unol ag Awdurdodau eraill ledled Cymru.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Thomas at Crofty fel enghraifft o ymyriad enfawr i atal llifogydd gan CNC, gan nodi, fodd bynnag, y gall ffactorau fel glaw trwm hirfaith, llanwau uchel a gwyntoedd cryf orlifo systemau draenio ni waeth yr holl ymyriadau sydd ar waith.

·         Y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol – yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen amddiffyn rhag llifogydd y Mwmbwls: mae'r cyhoedd yn ymddangos fel pe baent yn gefnogol, a derbynnir yn gyffredinol fod angen y cynllun. Buddsoddiad o tua £12M gan Lywodraeth Cymru. Mae tystiolaeth fod perygl llifogydd yn cael ei leihau ar gyfer dros 120 eiddo dros 100 oed.

·         Mapiau Cyngor Datblygu – TAN 15: Esboniodd swyddogion y bydd angen i'r cyngor ddarparu amddiffyniad o amgylch rhai safleoedd yng Nghanol y Ddinas, a fydd bellach yn  cynnwys risg dŵr wyneb.

·         Tynnodd swyddogion sylw at berthnasedd atebion sy'n seiliedig ar natur megis y twyni tywod a grëwyd ar safle'r Ganolfan Ddinesig, ar ôl cael effaith gadarnhaol ar leihau ynni tonnau a llifogydd dilynol yn sgîl stormydd.

·         Clywodd y panel fod lle i liniaru perygl llifogydd drwy isadeiledd gwyrdd ac atebion sy'n seiliedig ar natur, megis plannu mwy o goed i helpu i arafu llif y dŵr.

 

Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn

 

CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion.

 

65.

Cynllun Gwaith 2021-22 pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

-       Trafododd y panel bynciau arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd sydd ar ddod.

-       Rheoli Mannau Gwyrdd/Chwyn wedi'i drefnu o hyd ar gyfer mis Ionawr, gan fwydo i mewn i unrhyw drafodaethau’r PDP.

-       Y diweddaraf gan y Tîm Cadwraeth Natur (Ionawr/Mawrth i'w gadarnhau)

-       Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur (Mawrth i'w gadarnhau)

 

 

66.

Llthyrau pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel yr ohebiaeth a anfonwyd yn dilyn cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 26 Awst 2021.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Rheoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd pdf eicon PDF 320 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflawni a Gweithrediadau pdf eicon PDF 322 KB