Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Declarations - Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cofnodion ac ymatebion i gwestiynau dilynol PDF 247 KB Cofnodion: Roedd y Panel am fodloni eu hunain fod yr amodau a'r telerau sy'n gysylltiedig
â chaniatâd cynllunio, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau ecolegol
datblygiadau, yn cael eu bodloni. Roedd y Panel yn fodlon bod gennym drefniadau
digonol ar waith i sicrhau bod unrhyw amodau y gallem eu hatodi yn cael eu
bodloni. |
|
Caffael yn y Gyfarwyddiaeth Addysg PDF 308 KB Gwahoddwyd Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod i gyflwyno'r
adroddiad ac ateb cwestiynau Cofnodion: Daeth y Cynghorydd Robert Smith a Brian Roles i'r Panel i gyflwyno'r
adroddiad ac i ateb cwestiynau. Derbyniwyd yr adroddiad llawn a bydd yn rhan
o'r pecyn tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Yn ychwanegol at hyn, nodwyd y
canlynol o'r drafodaeth: ·
Mae'r
cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a hefyd Lywodraeth Cymru i
gaffael swm sylweddol o'r hyn sy'n cael ei wario gan y Gyfarwyddiaeth Addysg,
yn ogystal â'r hyn yr ydym ni ein hunain yn gyfrifol amdano. ·
Mae'r
rheolaethau mwyaf effeithiol yn bodoli lle mae perchnogaeth o faterion a
pherchnogaeth o'r angen am brosesau cadarn. Nid mater o rôl blismona ganolog yn
unig ydyw, rhaid cael perchnogaeth o ran deall yr angen am arferion
cadarn. Am y rheswm hwnnw, mae fframwaith
llywodraethu a sicrwydd cyffredinol cadarn y Gyfarwyddiaeth yn darparu'r
sylfaen hanfodol ar gyfer arferion caffael cadarn. Mae'r meysydd eang hyn yn
destun archwilio a chraffu. ·
Mae'n
bwysig iawn cydnabod i ba raddau y mae caffael uniongyrchol yn gyfyngedig yn y
Gyfarwyddiaeth Addysg. Er bod gan y Gyfarwyddiaeth Addysg gyllideb gyffredinol
fawr, dirprwyir y rhan fwyaf yn uniongyrchol i ysgolion. ·
Y maes
caffael mwyaf arwyddocaol yw cludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Rheolir y contractau hyn gan y
Gyfarwyddiaeth Lleoedd ar ran yr adran Addysg. Mae'r Tîm Cludiant yn tendro'r
contractau hynny'n rheolaidd i geisio sicrhau'r trefniadau mwyaf cost
effeithiol. ·
Maes
cyllideb sylweddol arall yw'r cyllidebau annibynnol ac y tu allan i'r sir a'r
costau cysylltiedig. Mae gennym strategaeth tymor hir i wella argaeledd y
ddarpariaeth arbenigol honno yn y sir ac, wrth wneud hynny, liniaru maint y
costau o leoliadau allanol. ·
Trydydd
maes yw cyflenwadau arlwyo a glanhau yr ydym yn eu caffael gyda chymorth timau
corfforaethol. ·
Y maes nesaf
yw caledwedd TGCh a chostau trwydded i gefnogi
ysgolion a'r costau hyn a'u rheoli mewn timau corfforaethol partneriaeth sydd
hefyd yn sicrhau gwerth am arian. ·
O ran
cyfalaf, mae gennym raglen fuddsoddi cyfalaf sylweddol drwy ein rhaglen
ysgolion yr 21ain ganrif. Cyflawnir ein proses dendro a'n contractau
yn unol â gofynion corfforaethol drwy wasanaethau adeiladu corfforaethol. ·
Gofynnodd
y Panel gwestiwn a oedd yn ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol: A
ydym yn cynnwys unrhyw ofynion ynghylch rheoli llygredd yn effeithiol yn y
trafodaethau â chwmnïau cludiant? Hefyd sut ydym yn monitro ac yn ystyried eu
hymddygiad go iawn? Er enghraifft, sicrhau bod y rhai sy'n cludo, wrth aros, yn
sicrhau bod eu peiriannau'n cael eu diffodd i leihau llygredd? Cysylltir â'r
Gyfarwyddiaeth Lleoedd â'r cwestiwn. ·
Mae
egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'u hymgorffori yng
ngweithrediadau'r Gyfarwyddiaeth. Yn wir, mae natur y ddarpariaeth addysg wrth
gynllunio ar gyfer darpariaeth addysg yn y dyfodol yn angenrheidiol ar gyfer
cynllunio tymor hir ac mae hyn yn amlwg yn rhaglen ysgolion yr 21ain
ganrif, buddsoddiad cyfalaf ehangach i ysgolion a chynllunio lleoedd ysgolion.
Mae prosiectau adeiladu ysgolion yn canolbwyntio'n benodol ar effeithlonrwydd
adeiladu. Gwneir cysylltiadau posib â'r cwricwlwm fel y gallwn ymgysylltu â
disgyblion a grwpiau rhanddeiliaid ehangach yn y
broses o gyflwyno ysgol newydd. ·
Mae
dyhead i gam nesaf y prosiectau fod yn ddi-garbon net
o ran y ddarpariaeth ac rydym yn gweithio ar hynny gyda'r achos busnes
diweddaraf sydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. ·
Gofynnodd
y Panel a fyddai'n bosib i ysgolion gael enghreifftiau o gostau neu gael
catalogau fel bod ganddynt syniad o gost yr hyn y mae angen iddynt ei brynu.
Clywodd y Panel fod hyn wedi'i drafod a gofynnwyd i ysgolion enwebu
cynrychiolwyr i fod ar weithgor caffael i ystyried materion o'r fath a'r ffordd
orau o roi cyngor a chymorth i ysgolion. Gellir nodi unrhyw fylchau
a gellir creu atebion cyffredin. ·
Mae gan y
Gyfarwyddiaeth broses sgrinio Asesiad Effaith Integredig, a gwblheir ar gyfer
pob prosiect cyfalaf, yn ogystal ag asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol. ·
Mae'r
cytundebau lefel gwasanaeth gydag ysgolion yn bwysig iawn ac fe'u hadolygir yn benodol bob blwyddyn fel rhan o broses
hen sefydledig drwy'r Fforwm Cyllideb ysgolion a'i weithgorau. Mae hyn er mwyn
sicrhau bod cytundebau lefel gwasanaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben ac
yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ysgolion. Mae'n sicrhau eu bod yn
dryloyw ac yn cael eu costio'n glir, gan adlewyrchu gwir gost darparu'r
gwasanaethau hynny. ·
O ran
prosiectau cyfalaf, caiff unrhyw hawliadau ariannol eu monitro'n rheolaidd, a
chânt eu craffu ac anghytunir â nhw os yw'n briodol, a chaiff unrhyw risgiau a
phroblemau eu huwch-gyfeirio. Mae proses lywodraethu
hen sefydledig ar gyfer y rhaglen AoS gyfan. ·
O ran
rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â
nifer mawr o amodau sydd ynghlwm â’r cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei
ddarparu ac mae angen cynnal proses gaffael drwy fframwaith a gymeradwywyd gan
Lywodraeth Cymru. Gwneir hyn gan weithio ar y cyd â gwasanaethau adeiladu
corfforaethol. ·
Mae angen
newid cenedlaethol a neu ddiwygio polisi cenedlaethol os ydym am ddatblygu ein
harferion caffael a'n fframweithiau rhanbarthol ymhellach i fod yn ddigon
hyblyg i gaffael yn lleol. Mae'n anodd iawn cydbwyso hyn â'r angen am ddigon o
adnoddau i gyflawni maint y cynlluniau yr ydym yn sôn amdanynt. ·
Mae
Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod sut y gallwn edrych ar y pellter y mae
deunyddiau wedi teithio ac effaith carbon yn y dyfodol fel rhan o'r broses
werthuso tendrau. ·
Os ydym
am symud ymlaen at gaffael mwy lleol, mae'n rhaid i ni edrych ar yr hyn y mae
angen i ni ei newid i alluogi hynny. Er enghraifft, mae angen meithrin gallu ar
lefel darparwr. · Codwyd y mater o gyrff llywodraethu ag is-bwyllgorau caffael neu debyg gan y Panel. Rhoddwyd sicrwydd i'r Panel fod gan ysgolion is-grwpiau o fewn eu cyrff llywodraethu, sy'n canolbwyntio ar gyllid a materion sy'n ymwneud ag adeiladau'r ysgol. |
|
Caffael yng Nghanolfan Gorfforaethol y Cyngor PDF 425 KB Gwahoddwyd Aelod y Cabinet a'r Dirprwy Brif Gyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod
gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau Cofnodion: Daeth y Cynghorydd David Hopkins, Adam Hill a Chris Williams i'r Panel i
gyflwyno'r adroddiad ac i ateb unrhyw gwestiynau. Nodwyd y canlynol yn
ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd: ·
O ran
caffael yn lleol, mae hwn wedi bod yn un o'r meysydd yr ydym yn ei wthio ond
nid yw'n ymwneud â phrynu'n lleol yn unig. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn
gweithio gyda chwmnïau lleol. Rydym yn rhan o fforwm cyflogwyr mawr Abertawe ac
mae hynny'n ein galluogi i annog a chaniatáu i fusnesau ddeall sut beth ydyw a
sut y gallwn gydweithio yn y ffordd orau i ddangos sut y byddent yn berthnasol
gan gynnwys y prosesau yr ydym yn eu dilyn. Mae'n flaenoriaeth i Abertawe ein
bod yn ceisio mwyafu'r gwariant yn ein hardal leol ac
rydym yn ystyried hynny fel rhan o ddyluniad ein contract. ·
Mae rhai
o'r enghreifftiau o gaffael sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd yn cynnwys:
Menter y Cerbydlu Gwyrdd a menter Rhagor o Gartrefi -
effeithlonrwydd ynni mewn tai, a dengys y rhain sut mae ein gweithgarwch
caffael yn troi'n realiti ac yn ganlyniadau pendant. Soniwyd hefyd am gronfa
bensiwn y cyngor a'r gydnabyddiaeth a chafodd am ei harferion gorau yn yr ardal
drwy symud o ddaliadau sy'n ymwneud â thanwyddau ffosil. ·
Drwy ein
system gontractau, rydym yn ceisio gorfodi rhwymedigaethau craidd y sector
cyhoeddus a'r fframwaith cyfreithiol rydym yn gweithredu ynddo. Un enghraifft
yw caethwasiaeth fodern. Ni fyddem yn delio ag unrhyw un â chollfarn am unrhyw
beth sy'n gysylltiedig â hynny, ac ni fyddai'n gwmni y byddem yn delio ag ef ac
rydym yn gwirio pob cyflenwr newydd. ·
O ran
dyletswydd cydraddoldeb, mae'r holl staff wedi'u hyfforddi i ddeall
goblygiadau'r Ddeddf ac mae cadw at y Ddeddf wedi'i integreiddio yn y broses
gaffael. ·
Amlinellwyd
effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith COVID gan gynnwys ei fod wedi
bod yn "storm berffaith" gyda COVID o ran bod llawer o fusnesau wedi
rhoi'r gorau i weithio am gyfnod hir. Roedd yr effeithiau a deimlwyd yn fwy
diweddar yn cynnwys: Cost ac argaeledd deunyddiau adeiladu; mae rhai
cyflenwadau wedi'u gohirio, mae pethau fel plastrfwrdd
a'r farchnad lafur yn llawer mwy cyfnewidiol. Nid yw'r un lefel o staff ar
gael. ·
Mae
gwerth cymdeithasol yn rhan allweddol o'r hyn rydym yn ei wneud. Mae
Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn dilyn rheolau newydd y DU ar sut i wella
gwerth cymdeithasol mewn contractau, felly yn ystod y misoedd nesaf dylem weld
drafft cyntaf y rheolau newydd hynny a bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i'r
Panel pan fyddant ar gael. ·
Tynnwyd
sylw at y ffaith mai dim ond 8.5 aelod sydd o fewn y tîm caffael masnachol,
sy'n cefnogi lleoedd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac adnoddau'r ganolfan
gorfforaethol yn erbyn canllawiau Llywodraeth Cymru o 26 aelod o staff. Caiff
£260 miliwn o bunnoedd ei wario bob blwyddyn ar gyflenwyr a gwasanaethau, a
fydd ar ryw adeg yn mynd drwy'r tîm Gwasanaethau Masnachol, felly mae adnoddau
pellach ar gyfer y maes hwn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. |
|
Cynllun Prosiect Ymholiad PDF 123 KB Cofnodion: Adolygodd y Panel
Gynllun y Prosiect. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.45am |