Lleoliad: O bell drwy Teams
Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: None |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: None |
|
Cofnodion ac ymatebion i gwestiynau dilynol PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod blaenorol y Panel a gynhaliwyd ar 16 Awst 2021. Derbyniodd y
Panel yr wybodaeth bellach roeddent wedi gofyn amdani yn dilyn y cyfarfod ar 16
Awst. Ar ôl edrych ar yr wybodaeth hon, codwyd
y canlynol ganddynt: ·
Gwerth
cymdeithasol – bydd y Panel yn edrych ar yr agwedd hon ymhellach ·
Rôl
yr Ecolegydd Cynllunio mewn Datganiadau Cynaladwyedd Mae'r
Panel wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Gyfarwyddiaeth Lleoedd ar: ·
Ba rôl y mae'r Ecolegydd Cynllunio yn ei
chwarae yn y Datganiadau Cynaladwyedd? Mae'r Panel yn deall bod Swyddog
Bioamrywiaeth yn rhan o hyn ond maent yn teimlo y gallai'r Ecolegydd gymryd
rhan hefyd oherwydd y gall asesu a yw'r contractwyr o ddifrif am y materion ac
yn ymrwymedig i'w datblygu, a gall hefyd fonitro bod yr ymrwymiadau a wnaed
wedi cael eu datblygu. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd PDF 341 KB Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Derbyniwyd un
cwestiwn gan y cyhoedd: Rwy'n pryderu
am y diffyg darpariaeth o dai ar gyfer y gymuned anableddau dysgu. A yw'r cyngor yn defnyddio'r cwmnïau
gorau/ mwyaf moesegol ar gyfer tai AD? Enghraifft – mae dyn 44 oed yn dal i
aros am ddarpariaeth Byw â Chymorth yn ei gymuned ei hun. Ateb
gan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Mae pob un o'n darparwyr gwasanaeth yn sefydliadau
elusennol neu nid er elw, sydd â phrofiad o ddylunio a datblygu ar gyfer AD.
Rydym yn annog ceisiadau tendro gan sefydliadau nid er elw ac yn gweithio gyda
phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu dulliau o gomisiynu gwasanaethau sy'n
hyrwyddo gwerth cymdeithasol ac ystyriaethau moesegol tebyg. Mae gennym systemau ar waith ar gyfer asesu anghenion
llety a datblygu atebion tai, gofal a chymorth priodol. Rydym hefyd yn datblygu
polisi rhanbarthol i sicrhau y rhagwelir anghenion cymorth a llety pobl ifanc
sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau i oedolion. Bydd hyn yn
helpu i sicrhau cynllunio mwy effeithiol ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd
rydym yn archwilio'r posibilrwydd o ail-lunio rhai o'n gwasanaethau Anableddau
Dysgu oedolion arbenigol presennol fel y gallant
gynnig gofal a llety i bobl iau. Gall hyn ehangu'r amrywiaeth o opsiynau llety
sydd ar gael. Ar adegau mae cyfleoedd newydd yn dibynnu ar y cyllid
grant cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag eiddo sy'n addas
ar gyfer addasu, neu argaeledd tir ar gyfer adeiladau tai newydd yn y sir. Mewn
rhai achosion, ystyrir bod y cymysgedd o bobl mewn lleoliad a rennir yn rhan
annatod o les tenantiaid yn y tymor hwy a gall yr ystyriaethau hyn weithiau
arwain at oedi wrth ddod o hyd i opsiynau addas. Fodd bynnag, ar hyn o
bryd rydym yn rheoli dros 100 eiddo sy'n lletya dros 250 o bobl. Yn
ddiweddarach eleni bydd 8 fflat ag 1 ystafell wely ychwanegol, a bydd 4 gwely
arall mewn tŷ a rennir ar gael. Fe'm cynghorir gan gydweithwyr fod
hyn yn fwy nag unrhyw ALl arall yng Nghymru. |
|
Caffael yn yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 344 KB Gwahoddwyd Aelodau'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod i
gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Aelodau'r Cabinet Mark Child, David Hopkins a Louise Gibbard, a'r Swyddogion
Dave Howes, Jane Whitmore, Lee Morgan, Chris Williams a Christopher Francis am
ddod i’r cyfarfod a darparu'r wybodaeth y gofynnodd y Panel amdani mewn
perthynas â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol. Nodwyd y canlynol
o'r drafodaeth (bydd copi o'r adroddiad llawn a ddarparwyd hefyd yn cael ei
gynnwys ym Mhecyn Tystiolaeth yr Ymchwiliad): ·
Mae gennym wariant mawr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol,
yn enwedig yn y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion. Fe'i gelwir yn 'gomisiynu' yn hytrach na
'chontractio'. Mae gennym gyfrifoldeb statudol dros y rhan fwyaf o'r
gwasanaethau rydym yn eu comisiynu, ond mae cyfran sylweddol o'r gwasanaethau
hynny'n cael eu darparu gan sefydliadau annibynnol. ·
Mae'n farchnad anodd i'w gweithredu ar adegau i
ddarparwyr - mae eu helw'n gul ac mae wedi bod yn arbennig o anodd dros y
flwyddyn ddiwethaf. Mae ein perthynas gyda nhw'n tueddu i fod yn wahanol i berthynas
gytundebol arferol a allai fod gennym mewn rhannau eraill o'r cyngor. ·
Rhai o'r problemau rydym yn eu profi ar hyn o bryd, er
enghraifft sefydlogrwydd y marchnadoedd gofal cartref. Maent yn profi pwysau
gwirioneddol o ran gallu ateb y galw ac mae'r sefyllfa'n debyg i'n gwasanaethau
mewnol. Yr hyn rydym yn ei brofi ar hyn o bryd yw breuder, yn enwedig yn y
farchnad allanol. Mae'n arwain at orfod camu i mewn ar fyr rybudd. Rydym eisoes
yn brysur iawn, mae'n anodd iawn i ni. ·
Nid ydym yn tueddu i gael trefniant cytundebol yn unig
gyda sefydliadau ond yn tueddu i ddilyn dull cydgynhyrchiol.
Mae hynny'n dda ond mae'n golygu bod yn rhaid i ni gamu i mewn a chefnogi
sefydliadau'n llawer mwy gweithredol nag y byddai angen i ni wneud efallai gyda
mathau eraill o drefniadau cytundebol. ·
Mae ein hadnoddau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth
ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hymestyn mewn ffyrdd nad ydym
erioed wedi'u profi'n hanesyddol. Mae hyn wedi'i ddwysáu oherwydd problemau
sy'n ymwneud â'r gweithlu, sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol gan COVID. Mae
hyn yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau a'r sector. Mae'r staff hefyd wedi blino, mae staff yn
gadael y gwasanaethau iechyd a gofal a lac er bod gennym gystadleuaeth enfawr
am y gweithlu hwnnw eisoes, mae hyn yn anodd. Mae'n dal i fod yn weithlu â
chyflog isel, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi uchelgais i wneud rhywbeth am
hyn. ·
Mae'r gwasanaethau yn y gyfarwyddiaeth hon yn ymwneud â
phobl felly mae'n wahanol i brynu nwyddau. Yn 2018 creodd yr awdurdod ganolfan
gomisiynu rithwir sy'n dod â'n holl gomisiwn a chontractau o fewn y gwahanol
dimau ar draws y gyfarwyddiaeth at ei gilydd.
Diben hyn yw sicrhau y gallwn feithrin gallu ar draws pob elfen o'r
comisiwn hwnnw a'r cylch. Mae hefyd yn
helpu wrth ddadansoddi sefyllfa'r farchnad . Beth yw'r sefyllfa bresennol a pha
gynllunio y mae angen ei wneud? Sut y byddem yn diwallu'r angen hwnnw ac yna'n
ystyried sut y gallem ei wneud mewn gwahanol ffyrdd. ·
Gwnaed llawer iawn o waith ynghylch diffyg cydymffurfio
ers hynny yn 2016 er mwyn sicrhau bod contractau gofal cymdeithasol yn
cydymffurfio â rheolau gweithdrefn contract y Cyngor Sir a rheoliadau'r
contract cyhoeddus. Mae gennym lawer iawn o gontractau, tua 133 ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, nid yw tua 8 ohonynt yn cydymffurfio ac maent wedi cael hepgoriad am gyfnod o amser (mae hyn fel arfer am
flwyddyn), nid ydym yn adnewyddu'r hepgoriadau hynny.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol o amgylch
Gofal Cymdeithasol Cymru. ·
Caiff contractau eu hadnewyddu'n rheolaidd ac maent yn
cael eu monitro'n barhaus. ·
Mae darn o ddeddfwriaeth neu arweiniad yn cael ei
gyflwyno'r mis hwn (Medi) a fydd yn awr yn edrych ar y strategaethau ymadael
hynny yn dilyn COVID, wrth i ni ddechrau darparu llai o gefnogaeth. Ond eto,
mae'n broses lle mae popeth yn symud mor gyflym. ·
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn nodi rhai egwyddorion lefel
uchel ynghylch gweithio drwy ein trefniadau contractwyr a'u hadolygu, ac edrych
yn fanwl ar y contractau. Os bu rhywfaint o arloesi a gwahanol bethau rydym
wedi'u gwneud yn wirioneddol dda dros gyfnod COVID, yna mae angen i ni ystyried
hynny wrth symud ymlaen. ·
Rydym yn sicrhau bod dull gweithredu cyson yn unol â strategaethau
ac amcanion y cyngor, fe'i trafodir yn ein grŵp comisiynu pobl. Mae hyn yn
cynnwys trafod â'r gwasanaethau i oedolion, y gwasanaethau plant, y
gwasanaethau atal, y gwasanaethau addysg a'r gwasanaethau tai i sicrhau y
gallwn ddarparu'r dull cyson hwnnw ar gyfer preswylwyr Abertawe. Rydym hefyd yn edrych ar ble y gallwn uno
rhai adnoddau a chyfleoedd ariannu grant. ·
Mae gan gyllid grant ei brosesau cymeradwyo ei hun, sydd
ychydig yn wahanol ac sydd ar ben cyllid refeniw. ·
Pan fyddwn yn gweithio drwy'r broses gomisiynu, rydym yn
edrych ar Reolau Gweithdrefn Contract a pholisïau perthnasol eraill yn ogystal
ag ystyried pethau fel Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol. Hefyd ysgogwyr rhanbarthol eraill gan gynnwys gwerth cymdeithasol
a buddion cymunedol, mae hyn i gyd wedi'i gynnwys yn y pecynnau tendro hefyd. ·
Mae gennym yr amodau a thelerau safonol sy'n edrych ar
werth cymdeithasol, buddion cymunedol, caethwasiaeth fodern, y Gymraeg, cyfle
cyfartal a diogelu. Felly pe bai contractwr yn methu yn un o'r rheini, ni
fyddent yn gallu gweithredu contract.
Rydym yn cynnal digwyddiadau 'cwrdd â'r prynwr' i sicrhau bod y
contractwyr hynny'n deall y gofynion. ·
Rydym yn sicrhau bod holl ddyletswyddau cydraddoldeb y
sector cyhoeddus yn cael eu cyflawni. Mae'r broses AEI ar gyfer sgrinio yn cael
ei gweithredu ar adroddiadau llawn. ·
Gwneir hyfforddiant ar gaffael a thendro ar y cyd, gwneir
hyfforddiant comisiynu a chaffael gyda'i gilydd ar gyfer timau ar draws y
gyfarwyddiaeth. ·
Rydym dan y weithdrefn archwilio arferol ar gyfer y
cyngor, ond mae gennym ofynion archwilio allanol o ran y grantiau mawr, yn
bennaf y grant cymorth tai a'r grant cymunedau plant, a gwneir hynny gan
Lywodraeth y Gorllewin. ·
O ran Brexit (ac ar y cyd â COVID) rydym wedi profi rhai
problemau cyflenwi ac ar hyn o bryd mae prinder gyrwyr HGV. Cafwyd rhai
problemau gyda rhai cyflenwadau, er enghraifft amserau cwblhau hwy y storfa
offer ar y cyd, yn enwedig ar gyfer peth offer allweddol sy'n cael effaith
gynyddol ar oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty etc. Ond mae safbwynt
cenedlaethol ar hyn, dan arweiniad cadwyn gyflenwi'r GIG yng Nghymru, felly
rydym am ddefnyddio'n pŵer prynu ar y cyd i weld sut y gallwn fynd i'r
afael â hyn. ·
O ran
gweithio gydag Iechyd, rydym yn gweithio'n agosach gydag Iechyd yn dilyn COVID,
sydd wedi bod yn gadarnhaol, ond mae'n dal i fod yn daith ac mae ffordd i fynd
o hyd. ·
O ran pryd yr ydym yn dyfarnu contract, nid ydym o
reidrwydd yn dyfarnu i'r cynigydd isaf oherwydd natur y contractau a
ddarparwn. Gan ein bod yn darparu
gwasanaethau i bobl yn hytrach na chynnyrch mae 70% o ddyfarniad y contract yn
seiliedig ar ansawdd y gwasanaeth. Er
mwyn i ni sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion yn llawn a'u bod
wedi'u cofrestru yn y ffordd briodol. ·
Mae monitro cydymffurfiaeth wedi'i gynnwys ym manylebau'r
contract. Pan fyddwn yn dyfarnu, rydym yn cael cyfarfod cychwynnol i siarad â'r
darparwr o ran rheoli disgwyliadau rhwng y ddwy ochr. Bydd cydymffurfiaeth yn
cael ei fonitro'n rheolaidd, yn chwarterol i rai ond yn amlach
o lawer i eraill, yn dibynnu ar y math o gontract. Mae'r Panel wedi gofyn i'r wybodaeth ddilynol isod
gael ei rhoi yng nghyfarfod o'r Panel yn y dyfodol: 1.
Amodau a Thelerau Safonol ar gyfer Contractau
(Gwasanaethau Cymdeithasol) 2.
Aelodau'r Grŵp Comisiynu 3.
Faint o gontractau nad ydynt yn cydymffurfio a'r sefyllfa
bresennol 4.
Diweddariad o'r ffigurau yn nhabl 3.5 5.
Beth fydd effaith cyfraniadau newydd YG ar Wasanaethau
Cymdeithasol, staff a darparwyr (pethau cadarnhaol/negyddol)? 6.
Manylion y Cyflog Byw Go Iawn a'r effaith ar y cyngor a
darparwyr (cadarnhaol/negyddol) 7.
Dolen i'r Ddeddfwriaeth a grybwyllwyd |
|
Cynllun Prosiect Ymholiad PDF 123 KB Cofnodion: Cytunodd y Panel
i ychwanegu Busnes Cymru at y cyfarfod casglu tystiolaeth ar 10 Tachwedd. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.40am |