Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 128 KB Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2022. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r
cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod
cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â
hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Effaith / Dilynol - Ymchwiliad Craffu i Gaffael PDF 211 KB David
Hopkins (Dirprwy Arweinydd)
- Gwasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad a Chris Williams (Pennaeth Gwasanaethau
Masnachol) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Panel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Pennaeth y
Gwasanaethau Masnachol a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Masnachol i'r cyfarfod.
Diweddarwyd y Panel ynghylch cynnydd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad
craffu gwreiddiol a gytunwyd gan y Cabinet ar 20 Hydref 2022. Clywodd y Panel
fod 9 o'r 14 o argymhellion wedi'u cwblhau a chytunwyd y gwnaed cynnydd da â'r
5 argymhelliad sy'n weddill. Roedd y Panel yn falch o lofnodi'r ymchwiliad fel
un sydd wedi'i gwblhau. Roedd y Panel yn
falch o glywed oddi wrth Aelod y Cabinet bod yr ymchwiliad wedi bod yn
gynhwysol ac yn ddarn o waith buddiol. Roedd y Panel
hefyd yn teimlo'n galonogol o glywed y canlynol am effaith yr ymchwiliad: · O ganlyniad i'r ymchwiliad, codwyd proffil y materion a
nodwyd gan y Panel yn sylweddol ar draws y cyngor llawn - o'r rheini sy'n
gweithio ar faterion ynghylch newid yn yr hinsawdd i Archwilio, er enghraifft,
yn ogystal ag ar lefel uwch-reolwyr. Mae ffocws a diddordeb y Panel felly wedi
amlygu pwysigrwydd y materion a adolygwyd, yn enwedig gallu'r maes gwaith hwn o
ysgogi newidiadau pwysig. · Mae tueddiadau ehangach wedi cael eu hamlygu o ganlyniad
i ffocws y Panel ac mae cydweddiad wedi bod rhwng ffocws y Panel ac ymateb y
Cabinet, sydd wedi arwain at ymrwymiad cyffredinol i deithio yn yr un
cyfeiriad, gan ddangos cydweddiad strategol y gwaith a'i bwysigrwydd i ddyfodol
gweithrediad y cyngor a'i effaith ar yr amgylchedd ehangach. Ysgrifennir
llythyr at Aelod y Cabinet sy'n nodi meddyliau'r Panel yn dilyn y drafodaeth
heddiw. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.30am Cadeirydd |