Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Declarations - Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

4.

Cofnodion ac ymatebion i gwestiynau dilynol pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Roedd y Panel am fodloni eu hunain fod yr amodau a'r telerau sy'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau ecolegol datblygiadau, yn cael eu bodloni. Roedd y Panel yn fodlon bod gennym drefniadau digonol ar waith i sicrhau bod unrhyw amodau y gallem eu hatodi yn cael eu bodloni.

 

5.

Caffael yn y Gyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 308 KB

Gwahoddwyd Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau

 

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd Robert Smith a Brian Roles i'r Panel i gyflwyno'r adroddiad ac i ateb cwestiynau. Derbyniwyd yr adroddiad llawn a bydd yn rhan o'r pecyn tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Yn ychwanegol at hyn, nodwyd y canlynol o'r drafodaeth:

·         Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a hefyd Lywodraeth Cymru i gaffael swm sylweddol o'r hyn sy'n cael ei wario gan y Gyfarwyddiaeth Addysg, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni ein hunain yn gyfrifol amdano.

·         Mae'r rheolaethau mwyaf effeithiol yn bodoli lle mae perchnogaeth o faterion a pherchnogaeth o'r angen am brosesau cadarn. Nid mater o rôl blismona ganolog yn unig ydyw, rhaid cael perchnogaeth o ran deall yr angen am arferion cadarn.  Am y rheswm hwnnw, mae fframwaith llywodraethu a sicrwydd cyffredinol cadarn y Gyfarwyddiaeth yn darparu'r sylfaen hanfodol ar gyfer arferion caffael cadarn. Mae'r meysydd eang hyn yn destun archwilio a chraffu. 

·         Mae'n bwysig iawn cydnabod i ba raddau y mae caffael uniongyrchol yn gyfyngedig yn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Er bod gan y Gyfarwyddiaeth Addysg gyllideb gyffredinol fawr, dirprwyir y rhan fwyaf yn uniongyrchol i ysgolion. 

·         Y maes caffael mwyaf arwyddocaol yw cludiant rhwng y cartref a'r ysgol.    Rheolir y contractau hyn gan y Gyfarwyddiaeth Lleoedd ar ran yr adran Addysg. Mae'r Tîm Cludiant yn tendro'r contractau hynny'n rheolaidd i geisio sicrhau'r trefniadau mwyaf cost effeithiol.

·         Maes cyllideb sylweddol arall yw'r cyllidebau annibynnol ac y tu allan i'r sir a'r costau cysylltiedig. Mae gennym strategaeth tymor hir i wella argaeledd y ddarpariaeth arbenigol honno yn y sir ac, wrth wneud hynny, liniaru maint y costau o leoliadau allanol.

·         Trydydd maes yw cyflenwadau arlwyo a glanhau yr ydym yn eu caffael gyda chymorth timau corfforaethol. 

·         Y maes nesaf yw caledwedd TGCh a chostau trwydded i gefnogi ysgolion a'r costau hyn a'u rheoli mewn timau corfforaethol partneriaeth sydd hefyd yn sicrhau gwerth am arian.  

·         O ran cyfalaf, mae gennym raglen fuddsoddi cyfalaf sylweddol drwy ein rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Cyflawnir ein proses dendro a'n contractau yn unol â gofynion corfforaethol drwy wasanaethau adeiladu corfforaethol.

·         Gofynnodd y Panel gwestiwn a oedd yn ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol: A ydym yn cynnwys unrhyw ofynion ynghylch rheoli llygredd yn effeithiol yn y trafodaethau â chwmnïau cludiant? Hefyd sut ydym yn monitro ac yn ystyried eu hymddygiad go iawn? Er enghraifft, sicrhau bod y rhai sy'n cludo, wrth aros, yn sicrhau bod eu peiriannau'n cael eu diffodd i leihau llygredd? Cysylltir â'r Gyfarwyddiaeth Lleoedd â'r cwestiwn.

·         Mae egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'u hymgorffori yng ngweithrediadau'r Gyfarwyddiaeth. Yn wir, mae natur y ddarpariaeth addysg wrth gynllunio ar gyfer darpariaeth addysg yn y dyfodol yn angenrheidiol ar gyfer cynllunio tymor hir ac mae hyn yn amlwg yn rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, buddsoddiad cyfalaf ehangach i ysgolion a chynllunio lleoedd ysgolion. Mae prosiectau adeiladu ysgolion yn canolbwyntio'n benodol ar effeithlonrwydd adeiladu. Gwneir cysylltiadau posib â'r cwricwlwm fel y gallwn ymgysylltu â disgyblion a grwpiau rhanddeiliaid ehangach yn y broses o gyflwyno ysgol newydd.

·         Mae dyhead i gam nesaf y prosiectau fod yn ddi-garbon net o ran y ddarpariaeth ac rydym yn gweithio ar hynny gyda'r achos busnes diweddaraf sydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

·         Gofynnodd y Panel a fyddai'n bosib i ysgolion gael enghreifftiau o gostau neu gael catalogau fel bod ganddynt syniad o gost yr hyn y mae angen iddynt ei brynu. Clywodd y Panel fod hyn wedi'i drafod a gofynnwyd i ysgolion enwebu cynrychiolwyr i fod ar weithgor caffael i ystyried materion o'r fath a'r ffordd orau o roi cyngor a chymorth i ysgolion. Gellir nodi unrhyw fylchau a gellir creu atebion cyffredin.

·         Mae gan y Gyfarwyddiaeth broses sgrinio Asesiad Effaith Integredig, a gwblheir ar gyfer pob prosiect cyfalaf, yn ogystal ag asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

·         Mae'r cytundebau lefel gwasanaeth gydag ysgolion yn bwysig iawn ac fe'u hadolygir yn benodol bob blwyddyn fel rhan o broses hen sefydledig drwy'r Fforwm Cyllideb ysgolion a'i weithgorau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cytundebau lefel gwasanaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ysgolion. Mae'n sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn cael eu costio'n glir, gan adlewyrchu gwir gost darparu'r gwasanaethau hynny.

·         O ran prosiectau cyfalaf, caiff unrhyw hawliadau ariannol eu monitro'n rheolaidd, a chânt eu craffu ac anghytunir â nhw os yw'n briodol, a chaiff unrhyw risgiau a phroblemau eu huwch-gyfeirio. Mae proses lywodraethu hen sefydledig ar gyfer y rhaglen AoS gyfan.

·         O ran rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â nifer mawr o amodau sydd ynghlwm â’r cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ac mae angen cynnal proses gaffael drwy fframwaith a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Gwneir hyn gan weithio ar y cyd â gwasanaethau adeiladu corfforaethol.

·         Mae angen newid cenedlaethol a neu ddiwygio polisi cenedlaethol os ydym am ddatblygu ein harferion caffael a'n fframweithiau rhanbarthol ymhellach i fod yn ddigon hyblyg i gaffael yn lleol. Mae'n anodd iawn cydbwyso hyn â'r angen am ddigon o adnoddau i gyflawni maint y cynlluniau yr ydym yn sôn amdanynt.

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod sut y gallwn edrych ar y pellter y mae deunyddiau wedi teithio ac effaith carbon yn y dyfodol fel rhan o'r broses werthuso tendrau.

·         Os ydym am symud ymlaen at gaffael mwy lleol, mae'n rhaid i ni edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei newid i alluogi hynny. Er enghraifft, mae angen meithrin gallu ar lefel darparwr.

·         Codwyd y mater o gyrff llywodraethu ag is-bwyllgorau caffael neu debyg gan y Panel. Rhoddwyd sicrwydd i'r Panel fod gan ysgolion is-grwpiau o fewn eu cyrff llywodraethu, sy'n canolbwyntio ar gyllid a materion sy'n ymwneud ag adeiladau'r ysgol.

6.

Caffael yng Nghanolfan Gorfforaethol y Cyngor pdf eicon PDF 425 KB

Gwahoddwyd Aelod y Cabinet a'r Dirprwy Brif Gyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau

 

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd David Hopkins, Adam Hill a Chris Williams i'r Panel i gyflwyno'r adroddiad ac i ateb unrhyw gwestiynau. Nodwyd y canlynol yn ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd:

·         O ran caffael yn lleol, mae hwn wedi bod yn un o'r meysydd yr ydym yn ei wthio ond nid yw'n ymwneud â phrynu'n lleol yn unig. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn gweithio gyda chwmnïau lleol. Rydym yn rhan o fforwm cyflogwyr mawr Abertawe ac mae hynny'n ein galluogi i annog a chaniatáu i fusnesau ddeall sut beth ydyw a sut y gallwn gydweithio yn y ffordd orau i ddangos sut y byddent yn berthnasol gan gynnwys y prosesau yr ydym yn eu dilyn. Mae'n flaenoriaeth i Abertawe ein bod yn ceisio mwyafu'r gwariant yn ein hardal leol ac rydym yn ystyried hynny fel rhan o ddyluniad ein contract.

·         Mae rhai o'r enghreifftiau o gaffael sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd yn cynnwys: Menter y Cerbydlu Gwyrdd a menter Rhagor o Gartrefi - effeithlonrwydd ynni mewn tai, a dengys y rhain sut mae ein gweithgarwch caffael yn troi'n realiti ac yn ganlyniadau pendant. Soniwyd hefyd am gronfa bensiwn y cyngor a'r gydnabyddiaeth a chafodd am ei harferion gorau yn yr ardal drwy symud o ddaliadau sy'n ymwneud â thanwyddau ffosil.

·         Drwy ein system gontractau, rydym yn ceisio gorfodi rhwymedigaethau craidd y sector cyhoeddus a'r fframwaith cyfreithiol rydym yn gweithredu ynddo. Un enghraifft yw caethwasiaeth fodern. Ni fyddem yn delio ag unrhyw un â chollfarn am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â hynny, ac ni fyddai'n gwmni y byddem yn delio ag ef ac rydym yn gwirio pob cyflenwr newydd.

·         O ran dyletswydd cydraddoldeb, mae'r holl staff wedi'u hyfforddi i ddeall goblygiadau'r Ddeddf ac mae cadw at y Ddeddf wedi'i integreiddio yn y broses gaffael.

·         Amlinellwyd effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith COVID gan gynnwys ei fod wedi bod yn "storm berffaith" gyda COVID o ran bod llawer o fusnesau wedi rhoi'r gorau i weithio am gyfnod hir. Roedd yr effeithiau a deimlwyd yn fwy diweddar yn cynnwys: Cost ac argaeledd deunyddiau adeiladu; mae rhai cyflenwadau wedi'u gohirio, mae pethau fel plastrfwrdd a'r farchnad lafur yn llawer mwy cyfnewidiol. Nid yw'r un lefel o staff ar gael.

·         Mae gwerth cymdeithasol yn rhan allweddol o'r hyn rydym yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn dilyn rheolau newydd y DU ar sut i wella gwerth cymdeithasol mewn contractau, felly yn ystod y misoedd nesaf dylem weld drafft cyntaf y rheolau newydd hynny a bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i'r Panel pan fyddant ar gael.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith mai dim ond 8.5 aelod sydd o fewn y tîm caffael masnachol, sy'n cefnogi lleoedd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac adnoddau'r ganolfan gorfforaethol yn erbyn canllawiau Llywodraeth Cymru o 26 aelod o staff. Caiff £260 miliwn o bunnoedd ei wario bob blwyddyn ar gyflenwyr a gwasanaethau, a fydd ar ryw adeg yn mynd drwy'r tîm Gwasanaethau Masnachol, felly mae adnoddau pellach ar gyfer y maes hwn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

7.

Cynllun Prosiect Ymholiad pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Adolygodd y Panel Gynllun y Prosiect.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am