Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Teams

Cyswllt: Michelle Roberts, Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

None

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

None

3.

Cofnodion ac ymatebion i gwestiynau dilynol pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod blaenorol y Panel a gynhaliwyd ar 16 Awst 2021.

 

Derbyniodd y Panel yr wybodaeth bellach roeddent wedi gofyn amdani yn dilyn y cyfarfod ar 16 Awst.  Ar ôl edrych ar yr wybodaeth hon, codwyd y canlynol ganddynt:

·         Gwerth cymdeithasol – bydd y Panel yn edrych ar yr agwedd hon ymhellach

·         Rôl yr Ecolegydd Cynllunio mewn Datganiadau Cynaladwyedd

 

Mae'r Panel wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Gyfarwyddiaeth Lleoedd ar:

·         Ba rôl y mae'r Ecolegydd Cynllunio yn ei chwarae yn y Datganiadau Cynaladwyedd? Mae'r Panel yn deall bod Swyddog Bioamrywiaeth yn rhan o hyn ond maent yn teimlo y gallai'r Ecolegydd gymryd rhan hefyd oherwydd y gall asesu a yw'r contractwyr o ddifrif am y materion ac yn ymrwymedig i'w datblygu, a gall hefyd fonitro bod yr ymrwymiadau a wnaed wedi cael eu datblygu.

 

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd pdf eicon PDF 341 KB

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Derbyniwyd un cwestiwn gan y cyhoedd:

Rwy'n pryderu am y diffyg darpariaeth o dai ar gyfer y gymuned anableddau dysgu. A yw'r cyngor yn defnyddio'r cwmnïau gorau/ mwyaf moesegol ar gyfer tai AD? Enghraifft – mae dyn 44 oed yn dal i aros am ddarpariaeth Byw â Chymorth yn ei gymuned ei hun.

 

Ateb gan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae pob un o'n darparwyr gwasanaeth yn sefydliadau elusennol neu nid er elw, sydd â phrofiad o ddylunio a datblygu ar gyfer AD. Rydym yn annog ceisiadau tendro gan sefydliadau nid er elw ac yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu dulliau o gomisiynu gwasanaethau sy'n hyrwyddo gwerth cymdeithasol ac ystyriaethau moesegol tebyg.

 

Mae gennym systemau ar waith ar gyfer asesu anghenion llety a datblygu atebion tai, gofal a chymorth priodol. Rydym hefyd yn datblygu polisi rhanbarthol i sicrhau y rhagwelir anghenion cymorth a llety pobl ifanc sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau i oedolion. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cynllunio mwy effeithiol ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio'r posibilrwydd o ail-lunio rhai o'n gwasanaethau Anableddau Dysgu oedolion arbenigol presennol fel y gallant gynnig gofal a llety i bobl iau. Gall hyn ehangu'r amrywiaeth o opsiynau llety sydd ar gael.

 

Ar adegau mae cyfleoedd newydd yn dibynnu ar y cyllid grant cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag eiddo sy'n addas ar gyfer addasu, neu argaeledd tir ar gyfer adeiladau tai newydd yn y sir. Mewn rhai achosion, ystyrir bod y cymysgedd o bobl mewn lleoliad a rennir yn rhan annatod o les tenantiaid yn y tymor hwy a gall yr ystyriaethau hyn weithiau arwain at oedi wrth ddod o hyd i opsiynau addas.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn rheoli dros 100 eiddo sy'n lletya dros 250 o bobl. Yn ddiweddarach eleni bydd 8 fflat ag 1 ystafell wely ychwanegol, a bydd 4 gwely arall mewn tŷ a rennir ar gael.  Fe'm cynghorir gan gydweithwyr fod hyn yn fwy nag unrhyw ALl arall yng Nghymru.

 

5.

Caffael yn yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 344 KB

Gwahoddwyd Aelodau'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr i fynd i'r cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad ac ateb cwestiynau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Aelodau'r Cabinet Mark Child, David Hopkins a Louise Gibbard, a'r Swyddogion Dave Howes, Jane Whitmore, Lee Morgan, Chris Williams a Christopher Francis am ddod i’r cyfarfod a darparu'r wybodaeth y gofynnodd y Panel amdani mewn perthynas â'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol.

 

Nodwyd y canlynol o'r drafodaeth (bydd copi o'r adroddiad llawn a ddarparwyd hefyd yn cael ei gynnwys ym Mhecyn Tystiolaeth yr Ymchwiliad):

 

·         Mae gennym wariant mawr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn enwedig yn y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion.  Fe'i gelwir yn 'gomisiynu' yn hytrach na 'chontractio'. Mae gennym gyfrifoldeb statudol dros y rhan fwyaf o'r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu, ond mae cyfran sylweddol o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan sefydliadau annibynnol.

·         Mae'n farchnad anodd i'w gweithredu ar adegau i ddarparwyr - mae eu helw'n gul ac mae wedi bod yn arbennig o anodd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein perthynas gyda nhw'n tueddu i fod yn wahanol i berthynas gytundebol arferol a allai fod gennym mewn rhannau eraill o'r cyngor. 

·         Rhai o'r problemau rydym yn eu profi ar hyn o bryd, er enghraifft sefydlogrwydd y marchnadoedd gofal cartref. Maent yn profi pwysau gwirioneddol o ran gallu ateb y galw ac mae'r sefyllfa'n debyg i'n gwasanaethau mewnol. Yr hyn rydym yn ei brofi ar hyn o bryd yw breuder, yn enwedig yn y farchnad allanol. Mae'n arwain at orfod camu i mewn ar fyr rybudd. Rydym eisoes yn brysur iawn, mae'n anodd iawn i ni.

·         Nid ydym yn tueddu i gael trefniant cytundebol yn unig gyda sefydliadau ond yn tueddu i ddilyn dull cydgynhyrchiol. Mae hynny'n dda ond mae'n golygu bod yn rhaid i ni gamu i mewn a chefnogi sefydliadau'n llawer mwy gweithredol nag y byddai angen i ni wneud efallai gyda mathau eraill o drefniadau cytundebol.

·         Mae ein hadnoddau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hymestyn mewn ffyrdd nad ydym erioed wedi'u profi'n hanesyddol. Mae hyn wedi'i ddwysáu oherwydd problemau sy'n ymwneud â'r gweithlu, sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol gan COVID. Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau a'r sector.  Mae'r staff hefyd wedi blino, mae staff yn gadael y gwasanaethau iechyd a gofal a lac er bod gennym gystadleuaeth enfawr am y gweithlu hwnnw eisoes, mae hyn yn anodd. Mae'n dal i fod yn weithlu â chyflog isel, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi uchelgais i wneud rhywbeth am hyn.

·         Mae'r gwasanaethau yn y gyfarwyddiaeth hon yn ymwneud â phobl felly mae'n wahanol i brynu nwyddau. Yn 2018 creodd yr awdurdod ganolfan gomisiynu rithwir sy'n dod â'n holl gomisiwn a chontractau o fewn y gwahanol dimau ar draws y gyfarwyddiaeth at ei gilydd.  Diben hyn yw sicrhau y gallwn feithrin gallu ar draws pob elfen o'r comisiwn hwnnw a'r cylch.  Mae hefyd yn helpu wrth ddadansoddi sefyllfa'r farchnad . Beth yw'r sefyllfa bresennol a pha gynllunio y mae angen ei wneud? Sut y byddem yn diwallu'r angen hwnnw ac yna'n ystyried sut y gallem ei wneud mewn gwahanol ffyrdd. 

·         Gwnaed llawer iawn o waith ynghylch diffyg cydymffurfio ers hynny yn 2016 er mwyn sicrhau bod contractau gofal cymdeithasol yn cydymffurfio â rheolau gweithdrefn contract y Cyngor Sir a rheoliadau'r contract cyhoeddus. Mae gennym lawer iawn o gontractau, tua 133 ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid yw tua 8 ohonynt yn cydymffurfio ac maent wedi cael hepgoriad am gyfnod o amser (mae hyn fel arfer am flwyddyn), nid ydym yn adnewyddu'r hepgoriadau hynny. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol o amgylch Gofal Cymdeithasol Cymru.

·         Caiff contractau eu hadnewyddu'n rheolaidd ac maent yn cael eu monitro'n barhaus.

·         Mae darn o ddeddfwriaeth neu arweiniad yn cael ei gyflwyno'r mis hwn (Medi) a fydd yn awr yn edrych ar y strategaethau ymadael hynny yn dilyn COVID, wrth i ni ddechrau darparu llai o gefnogaeth. Ond eto, mae'n broses lle mae popeth yn symud mor gyflym.

·         Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn nodi rhai egwyddorion lefel uchel ynghylch gweithio drwy ein trefniadau contractwyr a'u hadolygu, ac edrych yn fanwl ar y contractau. Os bu rhywfaint o arloesi a gwahanol bethau rydym wedi'u gwneud yn wirioneddol dda dros gyfnod COVID, yna mae angen i ni ystyried hynny wrth symud ymlaen.

·         Rydym yn sicrhau bod dull gweithredu cyson yn unol â strategaethau ac amcanion y cyngor, fe'i trafodir yn ein grŵp comisiynu pobl. Mae hyn yn cynnwys trafod â'r gwasanaethau i oedolion, y gwasanaethau plant, y gwasanaethau atal, y gwasanaethau addysg a'r gwasanaethau tai i sicrhau y gallwn ddarparu'r dull cyson hwnnw ar gyfer preswylwyr Abertawe.  Rydym hefyd yn edrych ar ble y gallwn uno rhai adnoddau a chyfleoedd ariannu grant.

·         Mae gan gyllid grant ei brosesau cymeradwyo ei hun, sydd ychydig yn wahanol ac sydd ar ben cyllid refeniw.

·         Pan fyddwn yn gweithio drwy'r broses gomisiynu, rydym yn edrych ar Reolau Gweithdrefn Contract a pholisïau perthnasol eraill yn ogystal ag ystyried pethau fel Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol. Hefyd ysgogwyr rhanbarthol eraill gan gynnwys gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol, mae hyn i gyd wedi'i gynnwys yn y pecynnau tendro hefyd.

·         Mae gennym yr amodau a thelerau safonol sy'n edrych ar werth cymdeithasol, buddion cymunedol, caethwasiaeth fodern, y Gymraeg, cyfle cyfartal a diogelu. Felly pe bai contractwr yn methu yn un o'r rheini, ni fyddent yn gallu gweithredu contract.  Rydym yn cynnal digwyddiadau 'cwrdd â'r prynwr' i sicrhau bod y contractwyr hynny'n deall y gofynion.

·         Rydym yn sicrhau bod holl ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cael eu cyflawni. Mae'r broses AEI ar gyfer sgrinio yn cael ei gweithredu ar adroddiadau llawn.

·         Gwneir hyfforddiant ar gaffael a thendro ar y cyd, gwneir hyfforddiant comisiynu a chaffael gyda'i gilydd ar gyfer timau ar draws y gyfarwyddiaeth. 

·         Rydym dan y weithdrefn archwilio arferol ar gyfer y cyngor, ond mae gennym ofynion archwilio allanol o ran y grantiau mawr, yn bennaf y grant cymorth tai a'r grant cymunedau plant, a gwneir hynny gan Lywodraeth y Gorllewin.

·         O ran Brexit (ac ar y cyd â COVID) rydym wedi profi rhai problemau cyflenwi ac ar hyn o bryd mae prinder gyrwyr HGV. Cafwyd rhai problemau gyda rhai cyflenwadau, er enghraifft amserau cwblhau hwy y storfa offer ar y cyd, yn enwedig ar gyfer peth offer allweddol sy'n cael effaith gynyddol ar oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty etc. Ond mae safbwynt cenedlaethol ar hyn, dan arweiniad cadwyn gyflenwi'r GIG yng Nghymru, felly rydym am ddefnyddio'n pŵer prynu ar y cyd i weld sut y gallwn fynd i'r afael â hyn.

·         O ran gweithio gydag Iechyd, rydym yn gweithio'n agosach gydag Iechyd yn dilyn COVID, sydd wedi bod yn gadarnhaol, ond mae'n dal i fod yn daith ac mae ffordd i fynd o hyd.

·         O ran pryd yr ydym yn dyfarnu contract, nid ydym o reidrwydd yn dyfarnu i'r cynigydd isaf oherwydd natur y contractau a ddarparwn.  Gan ein bod yn darparu gwasanaethau i bobl yn hytrach na chynnyrch mae 70% o ddyfarniad y contract yn seiliedig ar ansawdd y gwasanaeth.  Er mwyn i ni sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion yn llawn a'u bod wedi'u cofrestru yn y ffordd briodol.

·         Mae monitro cydymffurfiaeth wedi'i gynnwys ym manylebau'r contract. Pan fyddwn yn dyfarnu, rydym yn cael cyfarfod cychwynnol i siarad â'r darparwr o ran rheoli disgwyliadau rhwng y ddwy ochr. Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro'n rheolaidd, yn chwarterol i rai ond yn amlach o lawer i eraill, yn dibynnu ar y math o gontract.

Mae'r Panel wedi gofyn i'r wybodaeth ddilynol isod gael ei rhoi yng nghyfarfod o'r Panel yn y dyfodol:

1.    Amodau a Thelerau Safonol ar gyfer Contractau (Gwasanaethau Cymdeithasol)

2.    Aelodau'r Grŵp Comisiynu

3.    Faint o gontractau nad ydynt yn cydymffurfio a'r sefyllfa bresennol

4.    Diweddariad o'r ffigurau yn nhabl 3.5

5.    Beth fydd effaith cyfraniadau newydd YG ar Wasanaethau Cymdeithasol, staff a darparwyr (pethau cadarnhaol/negyddol)? 

6.    Manylion y Cyflog Byw Go Iawn a'r effaith ar y cyngor a darparwyr (cadarnhaol/negyddol)

7.    Dolen i'r Ddeddfwriaeth a grybwyllwyd

 

6.

Cynllun Prosiect Ymholiad pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel i ychwanegu Busnes Cymru at y cyfarfod casglu tystiolaeth ar 10 Tachwedd.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am