Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services - Tel 901792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 223 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

21.

Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd - Cynllun Adfer. pdf eicon PDF 528 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Adam Hill a Marlyn Dickson adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn rhoi'r diweddaraf i aelodau ar y cynllun adfer a thrawsnewid. Abertawe – Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd

 

Amlinellwyd y cefndir a'r sail resymegol y tu ôl i ddatblygiad y cynllun, yn ogystal â'r prif ddibenion a nodau strategol y fenter sy'n cynnwys y tri phrif gam y tu mewn iddi, sef ailddechrau, ailffocysu ac ail-lunio gwasanaethau'r awdurdodau lleol wrth symud ymlaen.

 

Amlinellwyd pynciau amrywiol y ffrwd waith a nodwyd, y gwaith a wneir a’r mewnbwn a roddir gan y gwahanol dimau datblygu polisi yn y meysydd hyn yn yr adroddiad.    

 

Amlinellwyd y prosiectau a’r llwyddiannau amrywiol eraill o fewn y cynllun hefyd, gan gynnwys ailddatblygiad sylweddol ac ehangiad canol y ddinas a'r arena newydd, effaith y strategaeth digartrefedd o ran symud dros 400 o bobl o lety dros dro, ehangu swyddi Cydlynwyr Ardal Leol i bob rhan o'r ddinas ac ymagwedd y bartneriaeth at ddarparu ffonau symudol a data i'r rheini y mae eu hangen arnynt i helpu gyda chynhwysiad digidol. Amlinellwyd hefyd y mentrau mewnol arbennig a syniadau sy'n cynnwys staff megis canolfannau arweinyddiaeth a syniadau, y ddarpariaeth ystwyth ddiweddaraf a chefnogaeth i staff yn ystod y pandemig.

 

Byddai gwaith ar gam 3 y cynllun, sef yr agwedd ail-lunio, a’r cynllunio ar ei gyfer yn parhau, ond ni fyddai'n cael ei gyflwyno a'i roi ar waith yn llawn tan ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022 a sefydlu'r weinyddiaeth wleidyddol newydd a sefydlu'r strwythur uwch-reoli newydd a'i roi ar waith.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau ar yr adroddiad a'i gynnwys, ac roedd cyflwyniad y swyddogion yn cynnwys cyfeiriad at y meysydd canlynol - staffio, brexit, effaith barhaus y pandemig, materion ariannu amnewidiol yn y dyfodol a digartrefedd, ac ymatebodd yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad a'u cefnogaeth i'r pwyllgor.

 

 

 

 

22.

Adfer ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). pdf eicon PDF 258 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Richard Rowlands adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn amlinellu ac yn nodi'r paratoadau manwl a wnaed gan y cyngor ar gyfer gadael yr UE, y prif risgiau a nodwyd ar y pryd a hefyd rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor ar y sefyllfa bresennol ar ôl gadael yr UE.

 

Amlinellodd yr effaith mae brexit a'r pandemig parhaus wedi’i chael yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y byd ar faterion megis y gadwyn gyflenwi a phrisoedd yn cynyddu, argaeledd y gweithlu a chostau tanwydd cynyddol etc.

 

Manylodd ar y gwaith partneriaeth gwych a wnaed ar draws nifer o asiantaethau ar gynllun ailsefydlu dinasyddion yr UE ac amlinellwyd a manylwyd ar nifer y bobl sydd wedi derbyn cymorth yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol eto a gwnaed sylwadau ar yr adroddiad a'i gynnwys, gan gynnwys y meysydd canlynol - niferoedd dinasyddion yr UE nad ydynt wedi'u nodi eto, materion ariannu amnewidiol a symiau ariannu yn y dyfodol, prosiect pobl anabl, ac ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny. Byddai'r wybodaeth fanwl nad oedd swyddogion yn gallu’i darparu yn cael ei chasglu a'i darparu i'r aelodau’n dilyn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd eto i'r swyddogion am yr adroddiad a'u cefnogaeth i'r pwyllgor.

 

23.

Adborth o'r Gweithdy - Y Gweithlu.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar y trafodaethau gwych, sesiynau holi ac ateb ac adborth a wnaed yn y gweithdai a gynhaliwyd o ran Strategaeth y Gweithlu yr oedd yr aelodau a’r swyddogion yn bresennol ar eu cyfer.

 

Cynhelir trafodaeth/adborth pellach ar y pwnc yn ystod cyfarfod mis Ionawr, cyn i Adrian Chard ddrafftio adroddiad ffurfiol a'i gyflwyno yn ystod cyfarfod mis Chwefror.

 

 

24.

Cynllyn Gwaith 2021/22. pdf eicon PDF 128 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith 2021/22 ac awgrymodd yr adolygiadau canlynol:

 

Ionawr

Trafodaeth/diweddariad llafar pellach o Weithdy Strategaeth y Gweithlu.

Bydd Gweithdy ar Gydgynhyrchu yn dilyn y cyfarfod.

 

Chwefror

Polisi Datblygu Cynaliadwy/Polisi Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol.

Adroddiad ar Strategaeth y Gweithlu.

Trafodaethau ar yr Adroddiad Blynyddol.

 

Mawrth

Adroddiad Blynyddol.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith diwygiedig fel y’i hamlinellir uchod ar gyfer 2021/22.