Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services - Tel 901792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 229 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 28 Medi 2021 fel cofnod cywir.

17.

Diogelwch Cymunedol. pdf eicon PDF 401 KB

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Thomas, Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol, adroddiad ar ddiogelwch cymunedol. Rhoddodd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd ac amlygodd y canlynol: -

 

·                Roedd disgwyl i Strategaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel gael ei hadolygu'r flwyddyn nesaf

·                Pwysigrwydd ymgynghoriad cyhoeddus/ymgysylltu â'r cyhoedd

·                Eglurder Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel - dim cyllideb ddyranedig ar gyfer y bartneriaeth ond ariannwyd 3 swydd drwy grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

·                Cryfderau a sgiliau partneriaid a gweithio mewn partneriaeth

·                Cyfrifoldeb diogelwch cymunedol

·                Alinio â'r Cynllun Lleihau Troseddau

·                Asesiad Lles Abertawe

·                Egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i lunio'r strategaeth

·                Dyletswydd newydd bosib o ran trais difrifol i'w chynnwys yn y strategaeth wedi'i diweddaru

·                Cymunedau Cryfach -  ymagwedd diogelwch cymunedol cyffredinol gan gynnwys camerâu mewn mannau problemus i gynorthwyo gydag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a difrod troseddol

·                Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) ar gyfer pobl sy’n ddiamddiffyn ar y stryd - derbyniwyd dros 110 o atgyfeiriadau hyd yma gyda rhywfaint o lwyddiant wrth weithio gyda darparwyr tai a darparwyr camddefnyddio sylweddau

·                Ffrwd waith trais domestig - tai diogel

·                Poster diogelwch cymunedol tîm pêl-droed Dinas Abertawe

·                Y Stryd Fawr - gwnaed gwelliannau ond mae gwaith yn parhau mewn perthynas â gweithwyr rhyw a llinellau cyffuriau, pryderon ynghylch dadleoli a sicrhau bod gwaith ymgysylltu yn parhau

·                Pobl yn parhau i ddefnyddio'r Hwb Cymunedol

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cefnogaeth barhaus ar gyfer gweithwyr rhyw - newid y ffordd o weithio

·                Monitro Dangosyddion Perfformiad ac adrodd arnynt - agweddau statudol ac anstatudol

·                Nodi meysydd sy'n peri pryder ac adrodd arnynt

·                Ehangu gwaith gyda'r gymuned fusnes - cyfleoedd gyda gwaith adfywio parhaus

·                Rheoli'r Hwb Cymunedol

·                Syniadau posib ar gyfer yr Hwb Cymunedol - cyrsiau coginio, clwb ieuenctid dros dro, sinema dros dro, ardal ar gyfer tyfu llysiau - sicrhau bod yr Hwb Cymunedol ar gael i bawb

·                Cynnwys y gymuned a gweithio mewn partneriaeth

·                Cadw pobl yn ddienw wrth adrodd am ddigwyddiadau

·                Ymweliad â'r Hwb Cymunedol y gwanwyn nesaf

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion a'r tîm am eu gwaith

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad.

18.

Cynllun Gwaith 2021/22. pdf eicon PDF 127 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2021/22.

 

Trefnwyd gweithdai ar Gydgynhyrchu, Strategaeth y Gweithlu a Diwylliant Sefydliadol.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021/22.