Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin
2021 fel cofnod cywir. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Cynllunio DLl gyflwyniad ar Gydgynhyrchu a oedd yn cynnwys y canlynol: - ·
Strategaeth
Cydgynhyrchu ·
Cefndir ·
Y
Daith i Wreiddio Cydgynhyrchu ·
Beth
yw ystyr Cydgynhyrchu? ·
Egwyddorion ·
Yr
hyn nad yw'n Gydgynhyrchu ·
Gwneud
er mwyn/ Gwneud ar gyfer/ Gwneud gyda ·
Sut
gall hyn weithio? Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Dealltwriaeth
o Gydgynhyrchu - yr hyn yw cydgynhyrchu
a'r hyn nad yw'n gydgynhyrchu ·
Newid
diwylliannol o ran ffyrdd o weithio ·
Ystyr
Cydgynhyrchu - pawb yn gyfartal â llais cyfartal ·
Comisiynu
gwasanaethau i helpu gyda Chydgynhyrchu - Cyngor
Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a Rhoi Pobl yn Gyntaf Abertawe ·
Yr
hyn sy'n cael ei Gydgynhyrchu ar hyn o bryd -
dylunio, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau ·
Effaith
Cydgynhyrchu ar staffio yn ogystal â chostau a
gofynion hyfforddiant. ·
Gwasanaethau/sefydliadau
bach a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaeth ·
Gofal
cartref ·
Maglau
Cydgynhyrchu - e.e. effaith ar staffio os yw
sefydliadau eraill yn cyflwyno gwasanaethau
·
Unrhyw
wersi a ddysgwyd neu arfer gorau o Gydgynhyrchu hyd
yma ·
Dewis
pobl ar gyfer Cydgynhyrchu - gweithio gyda chymunedau
i nodi pobl i gymryd rhan a chysylltu â Chydlynwyr Ardaloedd Lleol, Aelodau
Ward, Hybiau Cymunedol etc. ·
Sut i
gyflawni sefyllfa o weithio gyda'n gilydd ac ymddiriedaeth mewn sefyllfa lle
mae diffyg ymddiriedaeth - rhannu pŵer a meithrin cysylltiadau ·
Ymrwymiad
i fwrw ymlaen gyda Chydgynhyrchu ar draws y cyngor
cyfan Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Cynllunio DLl. Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys. PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd y byddai’r Pwyllgor yn darparu unrhyw adborth ar y
Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys
Ddrafft o fewn pythefnos. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Ymgynghori yr adroddiad ar Ymgynghori a Chynnwys. Roedd gan y
cyngor Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ers 2005, a oedd wedi darparu
fframwaith effeithiol i gwblhau gweithgareddau ymgynghori. Roedd y Strategaeth
Ymgynghori a Chynnwys Ddrafft 2021, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 i'r
adroddiad, yn strategaeth wedi'i diweddaru a oedd yn adlewyrchu'r newidiadau ac
yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r ymagwedd cynnwys y cyhoedd at sicrhau yr
ymgynghorir â phreswylwyr Dinas a Sir Abertawe a sefydliadau partner a'u
cynnwys mewn modd effeithiol ac ystyrlon. Anogwyd y
Pwyllgor i ddarparu unrhyw adborth ar y strategaeth ddrafft yn uniongyrchol i'r
Cydlynydd Ymgynghori. Penderfynwyd y dylid darparu unrhyw adborth ar y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Ddrafft i'r Cydlynydd Ymgynghori o fewn pythefnos. |
|
Cynllun Gwaith 2021/22. PDF 128 KB Penderfyniad: Penderfynwyd y byddai Cynllun Gwaith 2021/22 yn cael ei ddiweddaru’n unol â hyn. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2021/22. Awgrymwyd y
dylai'r Cydlynydd Ymgynghori roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth
Ymgynghori a Chynnwys ym mis Tachwedd 2021. Cynigiwyd nifer o
weithdai: - ·
Gweithdy
Cydgynhyrchu - Hydref 2021 ·
Gweithdy
Strategaeth y Gweithlu - Tachwedd 2021 ·
Gweithdy
Diwylliant Sefydliadol - yn gynnar yn 2022 Penderfynwyd nodi Gynllun
Gwaith 2021-22 yn unol â hyn. |