Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

3.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 6 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y newid ffocws gyda'r Pwyllgor a thynnodd sylw at y cylch gorchwyl newydd a gymeradwywyd yng nghyfarfod y cyngor ar 25 Gorffennaf 2019.

 

Trafododd y pwyllgor y cylch gorchwyl ac a chyfeiriwyd yn ddigonol at elfennau cenedlaethau'r dyfodol, yn enwedig newid yn yr hinsawdd. Cynigiwyd diwygiad i baragraff vi y cylch gorchwyl. 

 

Penderfynwyd diwygio paragraff vi y cylch gorchwyl i ddweud: -

vi) Datblygu blaenoriaethau corfforaethol y cyngor mewn perthynas â Chydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd’

4.

Cynllun Gwaith 2019-2020.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd bynciau posib i'r pwyllgor eu trafod a gwahoddodd awgrymiadau gan y Pwyllgor am eitemau cynllun gwaith posib ar gyfer y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid ddiweddariad byr ar gyd-gynhyrchu. Byddai diweddariad llawn yn cael ei roi yng nghyfarfod y pwyllgor ar 24 Medi 2019.

 

Awgrymwyd y cynllun gwaith canlynol; byddai eitemau'r cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn newydd yn cael eu cynllunio'n ddiweddarach: -

 

Hydref - Strategaeth Ynni a'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd

Tachwedd - Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ac Amrywiaeth yn y Gweithlu

Rhagfyr - Polisi Datblygu Cynaliadwy

 

Cynhaliwyd trafodaeth ar weithgorau posib er mwyn datblygu meysydd gwaith penodol ac o bosib wahodd siaradwyr allanol.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith amlinellol.