Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd V M Evans – Cofnod Rhif: 7 – Gweithiwr Rheilffordd Great Western |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgorau
Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021
a 20 Mai 2021 a'u llofnodi fel cofnodion cywir. |
|
Darpariaeth Cyflogadwyedd Cyngor Abertawe. PDF 157 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Cyllid Allanol, gyda chefnogaeth Arweinydd Tîm Mentoriaid Cyflogadwyedd
a'r Prif Swyddog Cyllid Allanol, gyflwyniad ar 'Ddarpariaeth Cyflogadwyedd
Cyngor Abertawe' a oedd yn cynnwys y canlynol: - ·
Y cefndir
a'r ddarpariaeth bresennol ar draws Cyngor Abertawe ·
Cymunedau
am Waith ·
Cam
Nesa ·
Gweithffyrdd + ·
Diweithdra
tymor byr Gweithffyrdd + ·
Cymunedau
am Waith + ·
Cymorth
a gynigir ·
Ffynhonnell
gyllido ·
Y
broses cymorth cyflogadwyedd ·
Canolbwynt
1 y PDP – Gwaith cyflogadwyedd gyda phobl sy'n gadael y carchar ·
Materion
allweddol a phwyntiau trafod ·
Canolbwynt
2 y PDP – Cefnogi unigolion a roddodd gymorth neu gefnogaeth i eraill yn
anffurfiol yn ystod pandemig COVID-19 – Ein Cynnig ·
Materion
allweddol a phwyntiau trafod Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: ·
Cynllun
Cyfeirio – sut y gwnaed atgyfeiriadau ·
Dirywiad
mewn atgyfeiriadau ·
Nifer
y bobl ifanc sy'n sicrhau lleoliadau gwaith – sicrhawyd 40 o leoliadau'r
wythnos honno gyda Kick Start
·
Defnyddio
staff asiantaeth – Archwilio i gynnal adolygiad llawn ·
Cynllun
Kick Start - sefydlu
lleoliadau â thâl drwy'r cynllun Kick Start gydag Eiddo Corfforaethol a Rheoli Gwastraff ·
Cynllun
Tu Hwnt i Frics a Morter ·
Cymorth
i wirfoddolwyr a oedd wedi darparu cefnogaeth drwy bandemig
COVID-19 – cynnig dysgu gydol oes Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion ac edrychodd ymlaen at gael rhagor o wybodaeth yn y
dyfodol. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Hwb Cymunedol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Roddodd Rheolwr y
Bartneriaeth Integreiddio Cymunedol yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y
Stryd Fawr a Diogelwch Cymunedol. Yn dilyn sylwadau
anffafriol yn y wasg yn 2019 ynglŷn â'r Stryd Fawr, sefydlwyd Grŵp
Digwyddiadau Tyngedfennol. Sefydlwyd nifer o ffrydiau gwaith sy'n gweithredu ar
sail gweithio mewn partneriaeth. Mae'r ffrydiau gwaith presennol yn cynnwys y
canlynol: - 1)
Troseddau
ac ymddygiad gwrthgymdeithasol - Arweinir gan Heddlu De Cymru 2)
Camddefnyddio
Sylweddau – Arweinir gan Barod 3)
Gweithiwyr
Rhyw ar y Stryd a Chamfanteisio – Arweinir gan
Gymorth i Fenywod 4)
Mannau
Cyhoeddus – Arweinir gan Gyngor Abertawe Roedd gweithio
mewn partneriaeth yn cael gwared ar rai anawsterau wrth i asiantaethau
gydweithio yn ogystal â rhoi cyfle i syniadau a dulliau newydd fynd i'r afael â
phroblemau. Tynnodd y Rheolwr
Partneriaeth Integreiddio Cymunedol sylw at rai canlyniadau tymor byr a
chanlyniadau tymor canolig i dymor hir a restrir isod:- Canlyniadau Tymor
Byr ·
Cynnwys
y Gymuned ·
Nodi
adnoddau cyllido ·
Creu
cysylltiadau â phartneriaid ac adrannau eraill ·
Ceidwaid
canol y ddinas - Ceidwad sy'n ymroddedig i'r Stryd Fawr ·
Addasrwydd
lle datblygu - nid at ddefnydd yr Awdurdod Lleol yn unig ·
Posibiliadau
ynghylch mannau cyhoeddus Canlyniadau tymor
canolig i dymor hir ·
Y posibilrwydd
o gau neu addasu twnnel y Strand yn y dyfodol ·
Gwella
diogelwch a golau yn nhwnnel Jockey Street ·
Profi
syniadau gyda'r gymuned Adroddwyd bod
cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer lle cymunedol a bod gwaith adnewyddu wedi
dechrau ar dri eiddo busnes gwag ar ben y Stryd Fawr. Byddai angen i'r gymuned
llunio'r ardal/lle cymunedol hwn. Dosbarthwyd 3,000 o daflenni yn y gymuned i
ysgolion lleol, busnesau a phreswylwyr etc. er mwyn cael eu barn am sut olwg
fyddai ar y lle cymunedol. Mae rhai syniadau hyd yma wedi cynnwys clybiau
ieuenctid dros dro, dosbarthiadau gwaith coed, prosiectau gwyrdd a gweithdy i
greu planwyr. Cafwyd ymateb da ar ôl dosbarthu taflenni gyda nifer o bartïon yn
dangos diddordeb mewn cymryd rhan. Cynhaliwyd digwyddiadau pellach er mwyn
gwneud gwaith dilynol ar ôl dosbarthu taflenni. Tynnwyd sylw
hefyd at lwyddiannau pellach ynghylch prosiect SWAN, gwaith allgymorth, cynnwys
ar y cyd, patrolau ar y cyd a warantau cyffuriau. Roedd
trafodaethau a chwestiynau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Strwythur
Llywodraethu ·
Rôl
partneriaid ·
Nifer
yr heddlu sy'n patrolio strydoedd ·
Cynnwys
y gymuned - effaith COVID-19 a chynnwys y gymuned yn barhaus trwy'r pandemig ·
Pwysigrwydd
cydgynhyrchu wrth gynnwys y gymuned a gwneud cynnydd
ar waith cydgynhyrchu ar gyfer y cyngor cyfan ·
Proses
enwi, dylunio a defnyddio lle cymunedol - sicrhau bod y lle'n gallu cael ei
ddefnyddio gan bartneriaid/drydydd parti hefyd ·
Posibilrwydd
ffrydiau ariannu o grantiau cymunedol ·
Posibilrwydd
cyflwyno lle cymunedol i ardaloedd eraill os yw’n gweithio'n dda Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol a'i dîm am eu
hymroddiad a'u gwaith caled ar y Stryd Fawr. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Adfer. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Weithredwr a'r Rheolwr Rhaglen Newid Strategol ddiweddariad ar y
Cynllun Adfer. Gwnaed cynnydd da
mewn perthynas â brechiadau, fodd bynnag, roedd amrywiolion newydd yn cadw'r
cyngor mewn sefyllfa i ymateb ac nid adfer. Roedd y cyngor yn cefnogi'r rhaglen
Profi ac Olrhain o hyd, y rhaglen frechu yn ogystal â darparu cyngor i fusnesau
a chymunedau ynghylch brwydro yn erbyn COVID-19. Roedd y cyngor hefyd yn
cefnogi'r Gwasanaeth Tystysgrif Brechu Cymru Gyfan ac maent wedi prosesu tua
19,500 o dystysgrifau brechu. Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr ddiolch i'r
tîm am eu gwaith. Amlygodd Reolwr y
Rhaglen Newid Strategol rai meysydd cynnydd a oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Penodi
swydd Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol. ·
Sefydlwyd
Grwpiau Llywio ·
Roedd
arweinwyr y ffrydiau gwaith yn dechrau adrodd am lwyddiannau a bwydo i mewn i’r
bwrdd ·
Roedd
dulliau adrodd ar waith ·
O ran
risgiau, nid oedd unrhyw risgiau coch ar gyfer y flwyddyn bresennol na risgiau
uchel ·
Adolygiad
misol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ·
Adolygu
Llywodraethu ·
Arweinyddiaeth
ar gynlluniau gwaith ar gyfer y dyfodol ·
Cynhaliwyd
gweithdy darganfod ar gyfer staff ·
Cyflwynwyd
cais grant ar gyfer y llinyn economaidd ac amgylcheddol ·
Trefnwyd
cyfarfodydd gyda'r Tîm Cyfathrebu a TG i drafod y dyfodol ·
Datblygu
Fframwaith Trawsnewid ·
Disgwylir
i’r adrannau Craffu ac Archwilio ddarparu'r diweddaraf ·
Cyfarfodydd
rhanddeiliaid i’w cynnal ynghylch gwasanaethau sy’n
ofynnol ymhen 10 mlynedd ·
Adolygu
Cynllun Ariannol y Tymor Canolig Trafododd y
Pwyllgor a Swyddogion meysydd/pynciau posib i'r pwyllgor eu hystyried: ·
Pa
wasanaethau fyddai’n cael eu darparu yn y dyfodol a sut y byddent yn cael eu
darparu? ·
Polisi
Datblygu Cynaliadwy ·
Polisi
Cydgynhyrchu ·
Cefnogi
sgyrsiau ehangach/cynnwys grwpiau ehangach ·
Dinas
Hawliau Dynol ·
Diwylliant
y sefydliad yng ngolau ffyrdd newydd o weithio/gweithio ystwyth ·
Diogelwch
Cymunedol Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2021/22. PDF 126 KB Penderfyniad: Caiff Cynllun Gwaith 2021/22 ei ddiweddaru’n unol â hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd 'Cynllun Gwaith 2021/22’ Nodwyd y byddai’r
Pwyllgor Polisi yr Economi ac Isadeiledd yn edrych ar drafnidiaeth a byddai'r
Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau yn edrych ar y Cyngor
Ieuenctid/Fforwm Ieuenctid. Trafododd y
Pwyllgor bynciau a threfnwyd y canlynol dros dro 27 Gorffennaf
2021 - Cydgynhyrchu 28 Medi 2021 -
Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Diogelwch Cymunedol 26 Hydref 2021 -
Polisi Datblygu Cynaliadwy 30 Tachwedd 2021
- Adfer o Adael yr Undeb Ewropeaidd Byddai'r pwyllgor
hefyd yn ceisio trefnu gweithdy ar gydgynhyrchu Penderfynwyd nodi cynllun gwaith 2021-22 yn unol â hyn. |