Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd V M
Evans – Cofnod Rhif: 33 – Cynlluniau Adfer – Cyflogwyd gan GWR – personol. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd
ar 30 Mawrth 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Adferiad. (Arweinydd y Cyngor) (Llafar) Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd, yn anffodus, fod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd R C Stewart, wedi
cael ei alw i gyfarfod brys ac wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y
cyfarfod. Ychwanegodd y byddai'n dod i'r
cyfarfod nesaf a drefnwyd ym mis Mehefin 2021. Nododd y
Cadeirydd hefyd y cynnydd a gafodd mewn cyfarfod gyda'r Cynghorydd A Pugh, Yr
Aelod Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, a thrafododd y canlynol â'r Pwyllgor: - ·
Cyflogadwyedd
– adroddodd y Cadeirydd ar y cynnydd a wnaed drwy'r Awdurdod o ran y Cynllun
Rhyddhau Carcharorion a thynnodd sylw at lwyddiant cynllun blaenorol a fyddai,
gobeithio, yn cael ei ailsefydlu. Tynnodd y Pwyllgor sylw at
wahanol feysydd ar gyfer cynnydd megis cynnwys elusennau lleol, cyfiawnder
adferol, cynnwys undebau credyd, problemau budd-daliadau sy'n gysylltiedig â
charchariad byr; ·
Prosiect
y Stryd Fawr – Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn y cyfarfod a
drefnwyd ar gyfer mis Mehefin 2021.
Byddai cynrychiolwyr y Tîm Cydnerthedd yn rhoi
cyflwyniad ynglŷn â'r dyheadau a sut y byddai problemau'r ardal yn cael eu
datrys. Trafododd y Pwyllgor y cyfle i
weithio mewn partneriaeth â'r Tîm Cydnerthedd a
dylanwadu ar y datblygiadau, cynnwys Aelodau Ward y Castell yn y prosiect,
pwysigrwydd gwneud cynnydd ar unwaith yn dilyn pandemig
COVID-19, yr angen i gael diweddariadau ysgrifenedig yn hytrach na llafar, y
diffyg cysylltedd rhwng Canol y Ddinas / Gorsaf Fysus a'r Orsaf Drenau a'r
effaith negyddol barhaus ar yr economi leol, yr anawsterau a wynebir gan yr
ardal / pobl sy'n agored i niwed / yr angen i gefnogi unigolion. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
Nodi
cynnwys y trafodaethau; 2)
Bydd
y Cadeirydd yn trefnu Gweithgor i drafod Cyflogadwyedd. |
|
Cynllun Gwaith 2020/21. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2020/21. Amlinellodd y byddai'r canlynol yn cael eu trefnu
ar gyfer y cyfarfod ym mis Mehefin 2021: - ·
Fforwm
/ Cyngor Ieuenctid ·
Cronfa
Cadernid ·
Cynllun
Adfer ·
Cyflogadwyedd
/ Gwirfoddoli Cymunedol ·
Diweddariad
ar y Stryd Fawr ·
Rhaglen
Ddinasyddiaeth Ychwanegwyd y
byddai Cyd-gynhyrchu yn cael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Gorffennaf
2021. Nodwyd bod materion Trafnidiaeth
wedi symud i PDP yr Economi ac Isadeiledd. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |