Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 235 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

23.

Diweddariad am Gynnydd o Ran Hysbysiad o Gynnig y Cyngor sy'n Ymwneud â'r Argyfwng yn yr Hinsawdd. pdf eicon PDF 253 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad am y 'Diweddariad am gynnydd o ran hysbysiad o gynnig y cyngor sy'n ymwneud â'r argyfwng yn yr hinsawdd' a thynnwyd sylw at y diweddariadau canlynol: -

 

·            Roedd Abertawe wedi gwirfoddoli i gymryd rhan mewn cynllun peilot Llywodraeth Cymru ynghylch gosod 'cwmpas' safonol ar gyfer y sector cyhoeddus

·            Byddai dyddiad addas yn cael ei bennu i gofrestru ar gyfer y Siarter Newid yn yr Hinsawdd â chynifer o bartneriaid â phosib 

·            Y Rhanddeiliad

·             - y posibilrwydd o ddefnyddio sefydliad arbenigol. Roedd Fforwm yr Amgylchedd wedi derbyn y cynnig i gymryd rhan fel rhanddeiliad fforwm er mwyn helpu'r cyngor i ddatblygu ei gynllun gweithredu

·            Datblygu gwaith i gynnwys y cyhoedd

·            Dechreuwyd gwaith ar adolygu polisïau perthnasol y cyngor ac edrych ar sut y maent yn cyd-fynd â'i gilydd

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Monitro'r Siarter

·            Cynnydd y cynllun gweithredu - buddugoliaethau cyflym, nodau'r tymor canolig a'r tymor hwy, goblygiadau adnoddau a gosod gwaelodlin i fonitro cynnydd

·            Her allyriadau anuniongyrchol - cymhellion a rheolaeth

·            Diweddariadau rheolaidd ar y cynllun gweithredu a chyfraniad rheolaidd ato.

·            Cerbydau nwyddau trwm a thanwyddau/gorsafoedd tanwydd amgen ar gael (megis hydrogen)

·            Trafnidiaeth gynaliadwy

·            Grant diweddar gwerth £189,000 ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau gwyrdd

·            Effaith siopa ar-lein - danfoniadau 

·            Y cynnydd ar gynnwys y cyhoedd a digwyddiad stondinau marchnad

·            Gwell gwybodaeth/hysbysebu ynghylch yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud

·            Rhoi'r Siarter ar waith - hyfforddiant i gyrraedd staff ar bob lefel

·            Ystyried digwyddiadau mawr yn y ddinas - ôl troed carbon digwyddiadau o'r fath a ffyrdd o liniaru'r effaith e.e. posibilrwydd newid i drwyddedu/gaffael mewn perthynas â stondinau yn ogystal â chludiant gwell.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad a darparu diweddariadau rheolaidd.

24.

Polisi Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Cynaliadwy adroddiad am y Polisi Datblygu Cynaliadwy. Nododd mai'r her wrth symud ymlaen yw gwreiddio'r polisi datblygu cynaliadwy ymhob lefel o'r broses gwneud penderfyniadau er mwyn cydbwyso ystyriaethau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gan ystyried yr effeithiau tymor byr a thymor hir. Amlinellwyd y materion canlynol: -

 

·            Cefndir

·            Rhesymeg dros gael polisi datblygu cynaliadwy

·            Cyfleoedd a manteision

·            Polisi datblygu cynaliadwy 2012

·            Opsiynau i'w hystyried yn 2020

·            Y meysydd newid corfforaethol -

o   Cynllunio ariannol

o   Rheoli asedau

o   Rheoli Perfformiad

o   Rheoli risgiau

o   Cynllunio Corfforaethol

o   Cynllunio'r gweithlu

o   Caffael

·            Y Pum Ffordd o Weithio

o    Integreiddio

o    Cyfranogaeth

o    Tymor hir

o    Ataliaeth

o    Cydweithio

 

Trafododd y pwyllgor y gweithgor posib a argymhellwyd yn yr adroddiad yn ogystal â therfynau amser/amserlenni posib.

 

Penderfynwyd:   -

1)          Y dylid nodi'r adroddiad

2)          Sefydlu gweithgor fel y'i hargymhellwyd yn yr adroddiad

25.

Cynllun Gwaith 2019/20. pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019/20 a nododd fod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi'i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Cynigwyd ychwanegu'r Strategaeth Ynni at y cynllun gwaith ar gyfer mis Chwefror ac ychwanegu diweddariad gan Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at y cynllun gwaith ar gyfer mis Mawrth.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2019-20 yn unol â hyn.