Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: - Y Cynghorydd P K Jones - personol - Cofnod Rhif 12
- Aelod o Gyfeillion y Ddaear Abertawe ac Ymddiriedolwr Canolfan yr Amgylchedd
Abertawe. Y Cynghorydd M Sherwood - personol - Cofnod Rhif 12 - Gweithiwr o Gower Power, sy'n berchen ar fferm solar. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar
24 Medi 2019 fel cofnod cywir. Nododd y Cadeirydd fod y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ddiwygiedig ar gyfer 2020-23 bellach wedi ei derbyn ac y byddai'n cael ei dosbarthu i'r pwyllgor, a byddai'r diweddaraf am gerrig milltir allweddol y Fframwaith Cyd-gynhyrchu Strategol yn cael ei rhoi yn fuan. |
|
Camau Gweithredu ar Gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r Siarter Hinsawdd. PDF 227 KB Cofnodion: Roedd y
Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau / Dirprwy Arweinydd Dros Dro Ar y Cyd yn bresennol i ystyried
'Camau Gweithredu ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r Siarter Hinsawdd'. Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau / Dirprwy Arweinydd Dros
Dro Ar y Cyd drosolwg cryno o'r sefyllfa bresennol, gan nodi ei bod yn broblem
i'r cyngor yn gyffredinol. Nododd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei
ddarparu, ond roedd ymdrech amlwg i wneud cynnydd. Byddai cyfathrebu'n bwysig
er mwyn esbonio'n glir yr hyn a fyddai'n bosib a'r hyn a fyddai'n gyfyng i
ddeddfwriaeth neu rwystrau eraill. Diolchodd i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd am y gwaith sylweddol a wnaed ar y Strategaeth Allyriadau
Carbon. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd gyflwyniad ar yr 'Argyfwng Hinsawdd', a oedd yn cynnwys:- ·
Cynnwys ·
Rhybudd
o Gynnig ·
Siarter
Newid yn yr Hinsawdd ·
Siarter
- Sylwadau a dderbyniwyd hyd yn hyn ·
Cwmpas ac asesiad y waelodlin ·
Ymgynghori
a Chynnwys ·
Fforwm
yr Amgylchedd, Abertawe ·
Cyd-destun
y polisi ·
Camau
Gweithredu Brys neu Gyfleoedd Eraill ·
Sylwadau
/ Cwestiynau? Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: - ·
Ddatblygu
polisi yn unol â'r Rhybudd o Gynnig ·
Dyluniwyd
y siarter fel Datganiad o Fwriad y gallai'r cyngor a sefydliadau eraill
gofrestru ar ei gyfer - cyffredinol ond byddai'r manylion wedyn yn gysylltiedig
â chynlluniau gweithredu unigol ·
Sylwadau
/ diwygiadau awgrymedig a dderbyniwyd ynghylch y Siarter ·
Ymhelaethu ar / cyffredinoli peth o'r eirfa er mwyn
apelio at gynulleidfa ehangach - e.e. diwygio'r cyfeiriad at gynnwys ysgolion i
gynnwys plant a phobl ifanc ·
Ystyried
ac ymchwilio i ddiwygiadau pellach fel rhan o'r cynllun gweithredu, e.e.
lleihau swm y cig a'r pysgod sy'n cael ei fwyta ·
Cynnwys
yn y siarter yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddarparu'r grymoedd
a'r adnoddau angenrheidiol ·
Ystyried
y Cwmpas - bod yn ystyriol o ganlyniadau anfwriadol a herio a rheoli ar lefel
ehangach ·
Mae
Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei fod am roi arweiniad ar y cwmpas a'r asesiad
gwaelodlin ·
Enghraifft
o gamau gweithredu cadarnhaol o'r gorffennol - lleihau allyriadau carbon ·
Effeithiau
cadarnhaol posib ar ffermydd solar a morlyn llanw Bae Abertawe ·
Cynllun
Gweithredu - amlinellu a gwahanu llwyddiannau cyflym a strategaeth tymor
canolig/hir ·
Dysgu
gan arferion da a gyflwynir gan sefydliadau eraill ·
Anawsterau
wrth fesur cynnydd ac effaith ·
Cynnwys
- defnyddio Fforwm yr Amgylchedd Abertawe, digwyddiadau ar ffurf marchnadoedd a
fforymau i randdeiliaid. ·
Cyswllt
â'r Gweithgor Bioamrywiaeth ·
Cyfathrebu'n
effeithiol - sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r hyn sydd eisoes yn cael ei wneud
a'r hyn sy'n bosib ·
Map
Polisi - nodi unrhyw wrthdaro / fylchau a buddion /
polisïau cystadleuol ·
Posibilrwydd
o ddiogelu arian grant Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r Swyddogion am ddod, ac am eu gwaith ar y mater
hwn. Diolchodd Aelod y
Cabinet i'r pwyllgor ac i'r cyhoedd a oedd yn bresennol. Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn diwygio'r siarter i gynnwys y diweddariadau a gymeradwywyd gan y pwyllgor, ac yn rhoi diweddariad yng nghyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 17 Rhagfyr 2019. |
|
Gweithgor y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad cryno am Weithgor y Cynllun Cydraddoldeb
Strategol. Roedd yr aelodau hynny a oedd wedi mynegi diddordeb wedi cwrdd â
Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyniad a Pherfformiad Strategol, i drafod yr
amcanion. Byddai'r rhain yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor. Penderfynwyd dosbarthu amcanion diwygiedig Gweithgor y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i'r pwyllgor. |
|
Cynllun Gwaith 2019/20. PDF 41 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2019/20 gan amlygu y byddai'r cyfarfod
nesaf yn trafod y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau ac amrywiaeth yn y gweithlu.
Byddai diweddariad am y Camau Gweithredu ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r
Siarter Hinsawdd yn cael ei ychwanegu at y cynllun gwaith ar gyfer mis Rhagfyr.
Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith diwygiedig. |