Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 278 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Awst 2019 fel cofnod cywir.

7.

Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys 2020-23. pdf eicon PDF 301 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Ymgynghoriadau'r Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys drafft ar gyfer 2020-23.

 

Roedd y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys bresennol yn dyddio'n ôl i 2005. Ers cyflwyno'r strategaeth yn 2005, bu datblygiadau pellach ac roedd mwy o bwyslais ar ymgynghori a chynnwys yn genedlaethol.

 

Nid oedd y strategaeth ddrafft yn cynnwys pob sefyllfa ond yn hytrach yr egwyddorion allweddol, ac roedd yn seiliedig ar adnoddau y gellid eu darparu a'u cyflawni.

 

Roedd y strategaeth ddrafft wedi bod gerbron y Tîm Rheoli Corfforaethol i'w chymeradwyo, ac yn dilyn cyfarfod y pwyllgor, byddai'n mynd gerbron y cyngor, lle ceisir cymeradwyaeth am ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Ystyriodd y pwyllgor bob rhan o'r strategaeth a oedd yn cynnwys:-

 

·                Cefndir

·                Diben y strategaeth

·                Ymgynghori a Chynnwys - Beth yw hyn?

·                Ymgynghori a Chynnwys - Pam y mae angen gwneud hyn?

·                Ymgynghori a Chynnwys - Beth rydym am ei gyflwyno yn Abertawe?

·                Beth rydym am ymgynghori yn ei gylch?

·                Sut rydym yn ymgynghori?

·                Cyfrifoldebau am weithredu

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar:-

 

·                Botensial ar gyfer arbedion - cael pethau'n iawn y tro cyntaf

·                Mae angen i'r dulliau a'r iaith a ddefnyddir ym mhob agwedd ar y broses fod yn briodol

·                Manteision allweddol - gallent gynnwys mantais ychwanegol gwerthfawrogi rôl y cyngor yn fwy drwy feithrin perthnasoedd cadarnhaol

·                Rheoli disgwyliadau - cyfathrebu clir i amlinellu cwmpas unrhyw ymgynghoriad

·                Cynllunio - dylid ychwanegu osgoi gwneud tybiaethau ynghylch y sawl a fyddai â diddordeb/y dylid ymgynghori â hwy

·                Effaith ar ardaloedd â fframweithiau cyfreithiol ar wahân - unwaith y byddai'r strategaeth yn cael ei chwblhau, gellid edrych ar hygyrchedd a gwybodaeth glir am y fframweithiau cyfreithiol

·                Gwneud Penderfyniadau, Adolygu ac Adborth - sicrhau y rheolir yr adborth yn enwedig pan na fyddai'r ateb yn un a ddymunir.

·                Amserlenni ar gyfer ymgynghoriadau - yn dibynnu ar gymhlethdod materion

·                Fformatau dogfennau ymgynghori hygyrch/amgen h.y. hawdd eu darllen

·                Cwmpas yr ymgynghori - byddai'r hyn yr ymgynghorwyd arno yn benderfyniad y cyngor, ond yn gyffredinol gallai fod yn unrhyw beth sy'n effeithio ar bobl

·                Pwysigrwydd ymgynghori'n unig dim ond os nad oedd y penderfyniad eisoes wedi'i wneud

·                Pecyn cymorth mewnol ar gyfer ymgynghoriadau staff

·                Ymateb isel i rai ymgynghoriadau ac annog gwell cyfraddau ymateb

·                Newid geiriad Paragraff 8 y strategaeth ddrafft atodedig, i nodi y dylid ymgynghori ag aelodau ward yn lle eu briffio.

 

Penderfynwyd

1)    Gwneud y diwygiadau a awgrymwyd i'r strategaeth ddrafft; ac

2)    y byddai fersiwn ddiwygiedig o'r strategaeth yn cael ei dosbarthu i'r pwyllgor cyn mynd gerbron y cyngor. 

8.

Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu. pdf eicon PDF 257 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi'r Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu. Diben hyn oedd darparu ymagwedd gyson ar draws y cyngor. Roedd rhai adrannau ar y blaen o ran defnyddio cydgynhyrchu. Er enghraifft, roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi defnyddio cydgynhyrchu yn eu hadolygiadau comisiynu ac wrth ddatblygu modelau darparu gwasanaethau newydd. Diben y fframwaith oedd darparu fframwaith strategol gorfforaethol er mwyn datblygu cydgynhyrchu ar draws y cyngor.

 

Amlygwyd mai un offeryn ymgynghori a chynnwys yn unig oedd cydgynhyrchu ac y byddai'n bwysig asesu ai hwn oedd yr offeryn iawn i'w ddefnyddio ym mhob amgylchiad neu a fyddai offer eraill yn well. Roedd cydgynhyrchu'n offeryn priodol i'w ystyried pan fo lefel gymharol uchel o ddisgresiwn i adolygu neu newid polisi neu wasanaeth.

 

Roedd y fframwaith yn amlinellu canlyniadau a manteision Cydgynhyrchu. Roedd y rhain yn bennaf yn fanteision ac yn ganlyniadau a nodwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a'u defnydd hwy o'u Strategaeth Cydgynhyrchu.

 

Roedd y fframwaith yn nodi amcanion a cherrig milltir allweddol hyd at 2025.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar:-

 

·                Allu grwpiau cymunedol i gael gafael ar arian grant nad yw ar gael i'r cyngor

·                Pwysigrwydd rhoi cymorth a chefnogaeth i grwpiau cymunedol lle bo'r angen

·                Ychwanegu at y prif nodau - rhannu arfer da

·                Posibilrwydd prosiectau peilot

·                Cyllid a chostau Cydgynhyrchu

 

Penderfynwyd y bydd y Swyddog Strategaeth a Pholisi yn rhannu barn y pwyllgor â'r diwygiadau a awgrymwyd â'r Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid.

9.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 40 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith 2019/20 a dywedodd y byddai'r cyfarfod nesaf yn ymdrin â'r Strategaeth Ynni a'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd

 

Awgrymwyd y gellid darparu diweddariad ar y cerrig milltir allweddol yn y Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor, gan fod rhai cerrig milltir eisoes yn cyrraedd eu dyddiad cwblhau disgwyliedig.

 

Penderfynwyd y bydd diweddariad ar y Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu, yn benodol y cerrig milltir allweddol, yn cael ei ychwanegu at y Cynllun Gwaith.