Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3C - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Croesawyd pawb a
oedd yn bresennol i’r cyfarfod gan y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd ar y
Cyd, a gwnaed cyflwyniadau. Esboniodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Clive Lloyd wedi ymddiheuro am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd profedigaeth teulu. Mynegodd y pwyllgor ei gydymdeimlad â'r Cynghorydd Lloyd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 15
Awst 2019 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. (Llafar) Cofnodion: Y Blynyddoedd
Cynnar Esboniodd Emma Woollett, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn anffodus, oherwydd nifer o newidiadau o ran personél, nid oedd y camau gweithredu wedi'u cyflawni hyd yn hyn. Byddai'n sicrhau eu bod yn cael eu dyrannu ac yn rhoi'r diweddaraf yn y cyfarfod nesaf. Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda - Adam Hill 1) Cadarnhawyd y byddai thema Newid Diwylliannol yn cael ei chynnwys fel thema drawsbynciol yn y 4 ffrwd waith. 2) Dinas i Bawb - trafodwyd y pwnc gan y Fforwm Partneriaeth mewn ymgais i areiddio’r gwaith er mwyn cyflawni'r holl agendâu mewn ffordd llawer gwell ac osgoi dyblygiad. Gweithio gyda
Natur - Martyn Evans 1) Ymgysylltu'n ehangach - Grŵp Tasg a Gorffen Gweithio gyda Natur yn gyfrifol am hyn; 2) Cam Dau'r Cynllun Newid yn yr Hinsawdd - Martyn Evans i gadarnhau bod y ddogfennaeth wedi'i dosbarthu. Cymunedau Cryf - Roger Thomas Yn anffodus nid oedd Roger Thomas na Steve Davies yn bresennol i roi'r diweddaraf am eu camau gweithredu, fodd bynnag esboniodd Adam Hill y canlynol: 1) Roedd y cam gweithredu hwn yn berthnasol i'r cyd-bwyllgor cyfan ac nid yr un llif gwaith yn unig; 2) Trafodwyd hyn gyda'r Fforwm Partneriaeth a chadarnhawyd y byddai enwau'n cael eu clustnodi i bob un o'r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu. Camau
Gweithredu eraill a grybwyllwyd: Cafwyd trafodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a Bwrdd y Rhaglen Rhanbarthol (BRhRh). Roedd angen eglurhad ynghylch yr hyn y gallai'r BGC ei wneud yn ychwanegol i'r hyn a oedd eisoes yn cael ei gyflawni. Beth oedd yn newydd a sut gallai newid sylfaenol gael ei gydlynu er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn? 1) Mae 4 prif swyddog yn cwrdd yn amlach - camau gweithredu'n parhau; 2) JAD i roi gwybod i SD am gynrychiolydd y GIG sy'n rhan o'r ffrwd waith Cymunedau Cryfach - camau gweithredu'n parhau; 3) Cynnwys Dinasoedd Iach yn y gwaith Dinas i Bawb - camau gweithredu wedi'u cwblhau.
Cofnod 6 - Cynllun Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y Dyfodol - camau gweithredu'n parhau; Cofnod 8 - Cynnal y Fforwm Partneriaeth - camau gweithredu wedi'u cwblhau; Cofnod 9 - Eitemau'r Agenda ar gyfer y Dyfodol - camau gweithredu wedi'u cwblhau. Cam Gweithredu: 1) Swyddog Cefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddiweddaru'r cofnod gweithredu a'i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Amlygu Adroddiadau ar Lifoedd Gwaith yr Amcan Lles. (gan gynnwys cofnod o risgiau) PDF 452 KB ·
Y
Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ·
Byw'n
Dda, Henediddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe; ·
Gweithio
gyda Natur - Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru; · Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Y
Blynyddoedd Cynnar Esboniodd Joanne Abbott-Davies
fod Sandra Husbands, un o arweinwyr prosiect y ffrwd waith, wedi gadael y Bwrdd
Iechyd a chynigiwyd y byddai Keith Reed yn llenwi'r
rôl yn ei habsenoldeb. Yn dilyn
trafodaethau'r Fforwm Partneriaeth, nododd fod angen i'r BGC a'r Bwrdd Iechyd
ganolbwyntio'n fwy ar yr hyn yr oeddent yn ceisio’i gyflawni yn 'ychwanegol'
i'w gwaith bob dydd, ac nid 'busnes fel arfer'. O ganlyniad i fod yn rhan o'r
BGC, neu eu cyfeirio gan y BGC, beth oedden nhw'n ei wneud i ychwanegu gwerth,
na fyddai hyn wedi cael ei wneud fel arall?
Yn ychwanegol,
nododd fod angen bod yn fwy eglur fel BGC ynghylch ffiniau ac adnoddau pob
partner a sut i ddefnyddio'r rhain orau i gyflawni'r canlyniadau. ·
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda Dywedodd Adam Hill
er ein bod ychydig yn agosach at gyflawni rhai o'r blaenoriaethau a amlinellwyd
ar dudalen 19, roedd angen i'r targedau fod yn rhai 'CAMPUS', a chytunodd fod
angen rhagor o fanylion ynghylch yr hyn a oedd yn cael ei wneud nad oedd yn
'fusnes fel arfer'. Yn ychwanegol,
amlinellodd yr heriau/rhwystrau a'r risgiau yr oedd yn ymddangos eu bod yn
thema gyffredinol drwy bob ffrwd waith. Cydnabuwyd mai'r cyd-bwyllgor
oedd y rhan strategol o'r BGC gyda'r gwaith yn cael ei wneud gan y 4 ffrwd
waith. ·
Gweithio
gyda Natur Amlinellodd
Martyn Evans y gwaith da a oedd wedi dechrau mewn perthynas â: ·
Strategaeth
Isadeiledd Gwyrdd - sefydlwyd perchnogaeth gyffredin â chyrff cyhoeddus eraill
yng nghanol y ddinas i wneud Abertawe'n fwy
cysylltiedig. Nid oedd yn meddwl y
byddai'r gwaith hwn wedi cael ei wneud heb gyfraniad y BGC. Nodwyd bod y gwaith
yn fuddiol i bawb a oedd yn rhan ohono ac i'r gymuned ehangach; ·
Plannu
Coed mewn ardaloedd Trefol - To gwyrdd ar Swyddfa Bost Treforys, cyfleoedd
gyda'r Bwrdd Iechyd fel perchennog tir mawr, trafodaethau â Thrafnidiaeth De
Cymru wedi dechrau mewn perthynas â choridorau trenau, llinellau peillio,
rhywogaethau, dyfrffyrdd etc. Nododd y
Bwrdd Iechyd ei fod bellach wedi canolbwyntio ar fudd cynnwys mannau gwyrdd ym
mhrosiectau'r dyfodol; ·
Disgwylir
i Ddatganiad Rheoli Adnoddau Naturiol gael ei gyhoeddi ar 31 Mawrth 2020 -
cynllun gweithredu uchelgeisiol ar waith. ·
Cymunedau
cryf Ymddiheurodd y
Cynghorydd Jan Curtice, Cadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, nad
oedd y diweddaraf wedi'i roi ynghylch y camau gweithredu sy’n weddill. Fodd
bynnag, eglurodd Amanda Carr y dylai'r camau gweithredu ymwneud â'r
"Cyflog Byw Gwirioneddol" yn hytrach na'r Cyflog Byw. Roedd angen i'r
holl bartneriaid sicrhau eu bod yn talu'r "Cyflog Byw Gwirioneddol". Nododd fod swm
mawr o waith eisoes wedi'i wneud gan y ffrwd waith hon er mwyn cael gwared ar
fanylion diangen a chynnwys y bobl iawn yn y gwaith. Eto, roedd angen i'r ffrwd
waith ganolbwyntio ar y pethau y gallai eu gwneud yn wahanol. Penderfynwyd nodi'r diweddariadau. |
|
Camau Gweithredu'r Cydbwyllgor/Cofnod o Faterion. PDF 316 KB Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod angen dod o hyd i arweinwyr newydd yn brydlon, a chadarnhaodd nad
oedd angen i'r arweinydd fod yn aelod o'r Cyd-bwyllgor. Cam
Gweithredu: 1) Arweinwyr yr Amcanion i’w nodi erbyn y cyfarfod nesaf. |
|
Cymru Ein Dyfodol - Cyfrannu at Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020. (Llafar) Cofnodion: Atgoffodd Adam
Hill y pwyllgor fod yr eitem hon eisoes wedi'i thrafod yn y cyfarfod diwethaf,
ac y gofynnwyd i bartneriaid anfon eu sylwadau/barn at Swyddog Cefnogi'r BGC er
mwyn iddynt allu ymateb fel bwrdd. Cam
Gweithredu: 1) Adam Hill i gydlynu ymateb a'i gyflwyno i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ym mis Tachwedd 2019. |
|
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. PDF 3 MB Cofnodion: Dywedodd Adam
Hill fod yr adroddiad wedi adlewyrchu'n eithaf da ar Fwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Abertawe. Byddai'n ystyried yr argymhellion ac yn llunio rhestr o gamau
gweithredu er mwyn hwyluso trafodaeth yn y cyfarfod nesaf. Roedd y pwyllgor
wedi cynnal trafodaeth ynghylch rôl ehangach y BGC mewn perthynas â'r ôl-troed
rhanbarthol. Roedd sylwadau gan bartneriaid yn canolbwyntio ar: ·
Yr
angen i ganolbwyntio ar nifer llai o gamau gweithredu yr oedd modd eu cyflwyno;
·
Beth
oedd y 2 flaenoriaeth fwyaf ar gyfer y 5 mlynedd nesaf?; ·
Parhau
gyda 4 BGC neu leihau'r nifer i 2 er mwyn cysylltu â'r ôl-troed rhanbarthol; ·
Nifer
y cyfarfodydd a'r amser roedd swyddogion strategol yn ei dreulio yn trafod yr
un pynciau/problemau; ·
Y
cysylltiad â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh)
Gorllewin Morgannwg; ·
Mae
problemau mawr o hyd ynghylch camddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl,
hunanladdiad, a oedd yn effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus; ·
Roedd
angen ymagwedd fwy cydlynol; ·
Yr
effaith ar faterion eraill megis digartrefedd/cysgu ar y stryd. Awgrymodd Adam
Hill y byddai'n adolygu cylch gorchwyl y BPRh a'r BGC
i amlygu unrhyw ddyblygiad. Yn
ychwanegol, byddai'n cysylltu â BGC Castell-nedd Port Talbot i gael ei farn. Cam
Gweithredu: 1) Adam Hill i ystyried yr argymhellion a llunio rhestr o gamau gweithredu er mwyn hwyluso trafodaeth yn y cyfarfod nesaf. |
|
Y Diweddaraf gan y Grwp Digwyddiadau Argyfyngus - y Stryd Fawr, Abertawe. (Llafar) Cofnodion: Byddai Strategaeth Gyfathrebu, dan arweiniad yr Heddlu, yn caniatáu ar gyfer "uno" yr holl wybodaeth drwy Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Roedd pedwaredd ffrwd waith, sef ffrwd waith "man cyhoeddus", wedi'i hychwanegu at ffrydiau gwaith presennol Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol y Stryd Fawr. Roedd y gwaith hwn wedi arwain at enwebu'r Stryd Fawr fel yn o "Strydoedd Mawr Gorau'r DU". Dylid bod yn ystyriol wrth wneud unrhyw waith am gamddefnyddio sylweddau, oherwydd yr effaith ar iechyd meddwl a hunanladdiad. Byddai hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf BGC Abertawe a BGC Castell-nedd Port Talbot. Aeth ymlaen i ddweud y derbyniwyd cais i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a chysgu ar y stryd a fyddai’n cael ei sefydlu drwy Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Dywedodd Joanne Abbott-Davies fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi dechrau ar beth gwaith paratoi mewn perthynas ag astudiaeth dichonoldeb ar gyfer canolfan i’r gwasanaethau digartrefedd. Cadarnhaodd fod arian ar gael gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ac roedd hi o'r farn y gellid defnyddio'r arian ar gyfer y cynllun hwn. Cytunwyd y dylai: 1) Adam Hill a Joanne Abbot-Davies ddarparu adroddiad ar y cyd ar gyfer cyd-bwyllgor y BGC yn y dyfodol, gan drafod cynigion i sefydlu canolfan gwasanaethau digartrefedd; 2)
Partneriaeth
Abertawe Mwy Diogel gwblhau arolwg digartrefedd a chysgu ar y stryd. |
|
Adborth ar y Fforwm Partneriaeth - 8 Hydref 2019. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd Adam Hill fod cyfarfod cyntaf y Fforwm Partneriaeth a ddilynodd yr
adolygiad llywodraethu yn un diddorol iawn. Roedd rhai pethau wedi gweithio'n
dda a byddant yn dysgu gan yr hyn nad oedd wedi gweithio cystal â'r disgwyl. Fodd bynnag,
roedd llawer o bobl wedi cymryd rhan a derbyniodd ef sawl e-bost ar ôl y
digwyddiad. Byddai'r rhain yn cael eu hychwanegu at y cynllun gweithredu er
mwyn gwella'r digwyddiad nesaf. Roedd angen i'r
holl bartneriaid "ymrwymo" i'r digwyddiad cyfan, a byddai'n disgwyl i
un o'r tri phartner arall gynnal y Fforwm Partneriaeth nesaf. Nododd Amanda Carr fod gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA)
brofiad sylweddol o drefnu digwyddiadau cyd-gynhyrchiad a chynigiodd
eu gwasanaethau ar gyfer y tro nesaf. Awgrymwyd y
byddai gweithgor yn cael ei sefydlu cyn y Fforwm Partneriaeth nesaf. Cam
Gweithredu: 1) Swyddog Cefnogi'r BGC i lunio dogfen adborth i'w dosbarthu i bob arweinydd ffrydiau gwaith. |
|
Eitemau'r Dyfodol ar gyfer cyfarfod nesaf Cyd-Bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. (Llafar) Cofnodion: Mynegodd Adam
Hill ei fod yn siomedig mai nifer fach iawn o eitemau oedd wedi cael eu derbyn
gan bartneriaid i'w cynnwys ar yr agenda, a'r awdurdod lleol oedd yn gyfrifol o
hyd am gyflwyno eitemau i'w trafod. Fel partneriaid cyfwerth, roedd yn gofyn eu
barn am y prif faterion a oedd yn effeithio arnynt oll. Roedd y pynciau a drafodwyd yn ymwneud yn bennaf â materion camddefnyddio
sylweddau ac iechyd meddwl, a oedd yn effeithio ar nifer o faterion diogelwch
cymunedol. Yn ychwanegol,
roedd cynrychiolwyr y trydydd sector wedi gofyn i Amanda Carr drafod unrhyw
faterion a oedd yn berthnasol i asiantaethau gwahanol sy'n ymwneud â
ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gofynnodd a ddylai'r BGC fod yn rhan o hyn neu
a allen nhw helpu. Roedd materion yn cynnwys: ·
Defnyddio
plant fel cyfieithwyr; ·
Costau
teithio - i bethau megis presgripsiwn cymdeithasol/teithiau annisgwyl i'r
ysbyty; ·
Rhyddhau
o'r carchar - unigolion nad oeddent yn gwybod a fyddent yn cael eu halltudio
neu beidio; ·
Ysgolion
nad ydynt yn cael gwybod pan fydd plant yn symud i ardal arall - mater diogelu.
Awgrymwyd y gallai'r ffrwd waith Cymunedau Cryfach ystyried y
canlynol. Dylai unrhyw faterion nad
ydynt yn cael eu datrys yn y ffrwd waith gael eu cyfeirio at y cyd-bwyllgor drwy'r Adroddiad Amlygu. Amlygodd Martyn
Evans y rhaglen clefyd coed ynn a'r ffaith y byddai angen i bob un o'r
partneriaid ymdrin â llawer o goed y bydd angen eu cymynu. Awgrymodd y dylid dilyn ymarfer caffael ar y cyd
o ran contractwyr, gan fod argaeledd yn gyfyngedig. Awgrymwyd efallai
y byddai grwpiau tasg a gorffen yn fwy addas ar gyfer yr eitemau hyn, fodd
bynnag pwysleisiwyd y dylai'r ffrydiau gwaith nodi hyd at 3 pheth hollbwysig i
ganolbwyntio arnynt. Soniodd Joanna Maal, er y cynhaliwyd sawl cyfarfod cynllunio mewn
perthynas â Brexit, a bod y Fforwm Cydnerthu Lleol yn arwain y mater, roedd yn dal i fod yn
gymharol anhysbys beth fyddai'r union oblygiadau ar ôl 31 Hydref 2019. Cydnabuwyd
efallai y byddai angen galw cyfarfod brys o gyd-bwyllgor y BGC er mwyn ymdrin
ag unrhyw faterion wrth iddynt godi. Camau
Gweithredu: 1)
Angen
i ffrwd waith Gweithio gyda Natur lunio argymhellion i bartneriaid eu hystyried
mewn perthynas â'r Rhaglen Clefyd Coed Ynn, a'u cyflwyno yng nghyfarfod nesaf cyd-bwyllgor y BGC; 2) Partneriaid i gyflwyno eitemau agenda i Swyddog Cefnogi'r BGC cyn cyfarfod nesaf cyd-bwyllgor y BGC. |