Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 252 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

31.

Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Adam Hill, Cyngor Abertawe, yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod blaenorol.

 

Er nad oedd y camau wedi'u cwblhau, roedd pethau wedi symud ymlaen a byddai'n diweddaru ymhellach fel rhan o Gofnod rhif 37, "Diweddariad/Llinell Amser yr Asesiad Lles Lleol (Rhanbarthol)".

 

Cytunwyd y dylid nodi'r diweddariad.

32.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

33.

Agenda Werdd/Newid yn yr Hinsawdd. pdf eicon PDF 593 KB

Martin Nicholls, Cyngor Abertawe

 

Cyflwyniad Cyngor Abertawe ar Newid yn yr Hinsawdd

-              Cofrestru ar gyfer y siarter

-              Paratoi cynllun gweithredu

-              Cynyddu Ymwybyddiaeth

Cofnodion:

Rhoddodd Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe, gyflwyniad ar yr Agenda Werdd/Newid yn yr Hinsawdd o'r enw "Abertawe Ddi-garbon Net".

 

Amlinellodd:

 

Ø    Y cerrig milltir o ran yr hinsawdd hyd yma;

Ø    Y daith hyd yn hyn (Cyngor Abertawe Di-garbon Net erbyn 2030);

Ø    Yr amcanion;

Ø    Siarter Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Abertawe a sut yr oedd yn cysylltu â deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill;

Ø    Camau gweithredu allweddol ar gyfer Cyngor Abertawe Di-garbon Net;

Ø    Siarter Cyngor Abertawe ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd;

Ø    Addewid ar gyfer Abertawe Ddi-garbon Net erbyn 2050;

Ø    Ymgysylltu;

Ø    Y camau cyntaf;

 

Daeth â’r cyflwyniad i ben drwy ofyn:

                     A oedd lle posib i ddull cydweithredol a arweinir gan y BGC?

                     A oedd y BGC wedi ymrwymo i egwyddorion tebyg?

                     A oedd unrhyw feysydd penodol y byddai'r BGC yn gweld gwerth mewn gweithio gyda'i gilydd?

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

Effaith tanau glaswellt a difrod i goedwigaeth;

Caffael cerbydau trydan ar y cyd;

Teithio cynaliadwy (gan gynnwys teithio i'r gwaith);

Mwy o bobl yn beicio yn ystod y cyfnod clo;

Defnyddio ystadau a'r posibilrwydd o rannu swyddfeydd gyda phartneriaid yn fwy effeithiol (canolfannau cymunedol);

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'r cyngor yn hapus i rannu dysgu a'u profiadau er mwyn osgoi i bartneriaid wneud yr un camgymeriadau.  Gofynnodd i bartneriaid:

 

1)           Ymuno â'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd;

2)           Ymrwymo i'w cynllun gweithredu sefydliadol unigol eu hunain.

 

Cam Gweithredu:

 

1)           Bydd partneriaid yn darparu manylion cyswllt cynrychiolydd ym mhob sefydliad i Leanne Ahern/Martin Nicholls er mwyn i'r trafodaethau cychwynnol ddechrau;

2)           Martin Nicholls, Cyngor Abertawe, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am feysydd blaenoriaeth ac adborth ar y ffordd ymlaen mewn Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

34.

Llinellau Sirol, Camddefnyddio Sylweddau, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Y Stryd Fawr.

Paul Thomas, Cyngor Abertawe

Cofnodion:

Rhoddodd Paul Thomas, Cyngor Abertawe, yr wybodaeth ddiweddaraf am Linellau Sirol, Camddefnyddio Sylweddau, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Y Stryd Fawr fel a ganlyn:

 

Ø    Cytunwyd ar ganiatâd cynllunio ac roedd contractwyr ar y safle yn adnewyddu safleoedd gwag ar ben uchaf y Stryd Fawr;

Ø    Roedd gwaith ymgysylltu â'r gymuned wedi parhau o ran y bwriad i ddefnyddio'r 3 uned fusnes wag;

Ø    Llinellau Sirol – er bod nifer o linellau sirol yn gweithredu yn Abertawe, roedd yr holl bobl ifanc dan sylw yn cael eu trin fel dioddefwyr.  Roedd nifer o warantau cyffuriau wedi'u cynnal ar ben uchaf y Stryd Fawr/Matthew Street.  Roedd dulliau stopio a chwilio a chasglu gwybodaeth wedi parhau.   Gosodwyd posteri yn Matthew Street a'r Stryd Fawr yn nodi bod gwaith cudd yr Heddlu yn parhau. Roedd hwn yn amlinellu'r cydweithio rhagorol a oedd yn parhau rhwng Heddlu De Cymru, yr Adran Dai, yr Uned Cefnogi Cymdogaethau (NSU) a cheidwad y Stryd Fawr wrth gyfeirio at faterion a risgiau yn yr ardal ac o'i chwmpas. Roedd wedi arwain at nodi gwendidau sylweddol.

Ø    Camddefnyddio sylweddau – roedd gwaith allgymorth yn y Stryd Fawr wedi parhau yn ystod y pandemig.  Mae'r prosiect Cymorth, Lles, Eiriolaeth, Galluogi (SWAN) a arweinir gan Gymorth i Fenywod yn ymddangos ar y Stryd Fawr bedair noson yr wythnos yn gweithio ar y fan.  Y gobaith oedd y byddai eiddo gwag ar ben uchaf y stryd fawr yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster amgen, gan arwain at amgylchedd mwy croesawgar.  Gellid gweld rhwng 10-20 o weithwyr rhyw y noson.  Roedd cyfleuster cyfnewid nodwyddau a nyrs iechyd rhywiol hefyd ar gael ar y fan a chynhaliwyd profion feirws a gludir yn y gwaed unwaith y mis.  Roedd chwe gweithiwr rhyw wedi cymryd rhan ym mhroses y Gwasanaeth Mynediad Cyflym at Bresgripsiynau (RAPS) a gynhaliwyd gan Dyfodol. Roedd hon yn enghraifft wych o ddull integredig o weithio ar raddfa fach er bod angen ystyried darparu gwasanaethau'n ehangach. Gellid gwella'r cyngor ar ymgysylltu/leihau niwed mewn fferyllfeydd.  Gwaith parhaus gyda'r tîm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a rhywiol (VAWDASV) a Chynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) gweithwyr rhyw mewn perthynas â chyngor ar iechyd rhywiol a cham-drin domestig ynghyd â gwasanaethau cymorth ychwanegol.  Amcan yr Heddlu; chwilio dadansoddi; ymateb; asesu (OSARA)mae cynllun gweithredu datrys problemau asesu bellach yn golygu bod yr holl bartneriaid yn gallu cyfrannu at broses cynllun gweithredu OSARA ar gyfer y Stryd Fawr.

Ø    Roedd ymgynghoriad Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) bellach wedi cau, ond roedd cyllid wedi'i sicrhau o'r blaen i wella goleuadau ac edrychiad a naws gyffredinol pen uchaf y Stryd Fawr, celfi stryd a mannau cyhoeddus yr ardal, waeth beth fo canlyniad y GDMAC.

 

Dywedodd Adam Hill y byddai'r BGC yn parhau i dderbyn diweddariadau rheolaidd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol drwy Paul Thomas a'i dîm. Yn ogystal, byddai'r Dull Integredig o fynd i'r afael â Chamddefnyddio Sylweddau ar gyfer y rhanbarth yn cysylltu â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

Cam gweithredu:  cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

35.

Ymgyrch Dawns Glaw 2021. (Cyflwyniad) pdf eicon PDF 1 MB

Mydrian Harries, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cofnodion:

Rhoddodd Mydrian Harries, Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflwyniad ar Ymgyrch Dawns Glaw 2021 a oedd yn dasglu amlasiantaethol a sefydlwyd yn 2016 yn dilyn cryn dipyn o danau glaswellt yn 2015.

 

Amlinellodd:

 

·                    Tanau bwriadol yng Nghymru – Tueddiadau Hirdymor;

·                    Ffigurau ar gyfer nifer y tanau glaswellt blynyddol;

·                    Cipolwg o'r uchod......;

·                    Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym;

·                    Beth yw Ymgyrch Dawns Glaw?;

·                    Beth mae Ymgyrch Dawns Glaw yn ei wneud?;

·                    Sut y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynorthwyo?;

 

Trafododd y partneriaid feysydd problemus, gan gynnwys Mynydd Cilfái, y tybiwyd mai hon oedd y goedwig drefol fwyaf yng Nghymru ac awgrymodd gysylltu â Paul Thomas i sicrhau y gallai unrhyw faterion diogelwch cymunedol gael eu hyrwyddo a'u datrys ar y cyd gan bartneriaid.  Y gobaith oedd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu parhau i ddarparu'r arian grant, ond byddai hyn yn dibynnu ar ddigon o adnoddau cyllidebol.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r partneriaid i Mydrian Harries am y cyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Cytunwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

36.

Adborth o Gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Chymeradwyo Ymateb Ysgrifenedig. pdf eicon PDF 258 KB

Cadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod gyda'r Gweinidog, ynghyd ag Adam Hill a Roger Thomas.  Un o'r negeseuon allweddol a amlygwyd yn y cyfarfod oedd y byddai'r BGC yn parhau ac y byddai uno gwirfoddol yn cael ei groesawu.  Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai Awdurdodau Lleol unigol yn dymuno cynnal eu hunigoliaeth mewn unrhyw uno.

 

Gallai cyfuno fod yn ganlyniad cadarnhaol er mwyn lleihau nifer y cyfarfodydd a chanolbwyntio ymdrechion er mwyn ychwanegu gwerth.  Awgrymwyd bod pynciau fel Diogelwch Cymunedol a Newid yn yr Hinsawdd yn rhannu cyffredinrwydd ar gyfer BGC unedig Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai angen i unrhyw Asesiad Lles ganolbwyntio ar faterion lleol.

 

Roedd ymateb wedi'i ddrafftio i'r Gweinidog, ond cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

Cam Gweithredu: Cynnal trafodaethau pellach yng nghyfarfod nesaf BGC ar y Cyd Abertawe.

37.

Diweddariad/Llinell Amser Yr Asesiad Lles Lleol (Rhanbarthol). pdf eicon PDF 547 KB

Steve King, Cyngor Abertawe

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Steve King, Cyngor Abertawe, adroddiad i nodi datblygiadau diweddar wrth baratoi ar gyfer yr Asesiad Lles Lleol nesaf yn 2022.

 

Dywedodd fod pethau wedi datblygu ychydig ers y cyfarfod diwethaf.  Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu at Gadeirydd BGC Abertawe i awgrymu eu bod yn gweithio ar ddull cyffredin o gynnal Asesiadau Lles Lleol gyda chyfarfod y Bwrdd Cydlynu wedi'i drefnu ar gyfer 16 Ebrill 2021.

 

Yn ogystal, derbyniwyd adroddiadau Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd  Cenedlaethau'r Dyfodol ac roeddent wedi'u hatodi yn Atodiad C.

 

Gan fod y dimensiwn rhanbarthol yn dal i ddod o hyd i'w ffordd, cynigiwyd y dylid sefydlu grŵp asesu golygyddol cysgodol i ddechrau edrych ar wahanol dasgau, ond dylid nodi y byddai hon yn broses gyfnewidiol.  Amlinellwyd amserlen ddrafft ym mharagraff 2.7 o'r adroddiad.

 

Trafododd partneriaid y mater yn fanwl iawn a chytunwyd y byddai grŵp asesu golygyddol cysgodol lleol yn dechrau er mwyn casglu'r data perthnasol ac y gallai gweithgorau/grwpiau golygyddol lleol ddod at ei gilydd yn ddiweddarach er mwyn cyd-gynhyrchu i fodloni gofynion y Ddeddf.

 

Cytunwyd:

 

1)           y dylai'r Cyd-bwyllgor nodi'r adroddiad.

2)           Bod y Pwyllgor yn nodi'r canllawiau sy'n dod i'r amlwg gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

3)                 Yn amodol ar ddatblygiadau ar lefel ranbarthol, gan gynnwys y Bwrdd Cyd-gysylltu rhanbarthol arfaethedig, sefydlir Grŵp Asesu Golygyddol Cysgodol Abertawe i ddatblygu'r Asesiad Lles Lleol i ddechrau.

38.

Grant Cymorth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 239 KB

Adam Hill, Cyngor Abertawe

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth - heb ei drafod.

39.

Cyllid Grant Cyfoeth Naturiol Cymru. pdf eicon PDF 676 KB

Adam Hill, Cyngor Abertawe

Cofnodion:

Cyfeiriodd Adam Hill, Cyngor Abertawe, at Grant Cyfoeth Naturiol Cymru.  Dywedodd fod angen gwybodaeth derfynol am gyfran o'r £25,000 erbyn yr wythnos nesaf.  Byddai ceisiadau llwyddiannus yn cael eu hadrodd maes o law.

40.

Rhaglen Waith ar Gyfer y Dyfodol:

17 Mehefin 2021

 

1.            Siaradwr Gwadd (Cyfoeth Naturiol Cymru)

2.            Adrodd a Monitro Cynlluniau Gweithredu

3.            Adolygiad Rheoli Perfformiad

4.            Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

5.            Asesiad Lles

6.            Sesiwn Ddatblygu Aelodau Bwrdd y BGC

7.            Pynciau a Chynhadledd Cyfarfod y Fforwm Partneriaeth

 

12 Awst 2021 - Wedi'i ganslo

 

1.            Adrodd a Monitro Cynlluniau Gweithredu

2.            Grŵp Dinas Hawliau Dynol

3.            Trefniadau ac Agenda'r Fforwm Partneriaeth

 

21 Hydref 2021

 

1.            Siaradwr Gwadd (Iechyd)

2.            Adolygiad 6 Mis o Gynlluniau Gweithredu

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ar Raglen Waith y dyfodol.

 

Cytunwyd y dylid gohirio'r "Sesiwn ddatblygu Aelodau Bwrdd" ac eitemau agenda "Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol" nes cyfarfod yn y dyfodol.