Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. PDF 92 KB Cofnodion: Rhoddodd Adam Hill,
Cyngor Abertawe, yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy'n deillio
o'r cyfarfod blaenorol. Cytunwyd y dylid nodi'r diweddariad i'r camau gweithredu. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol. (Cyflwyniad Llafar) Y Parch. Ruth Coombs a Jamie Westcombe, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cofnodion: Rhoddodd y Parchedig
Ruth Coombs a Jamie Westcombe o'r Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddiweddariad llafar ar y Ddyletswydd
Economaidd-Gymdeithasol. Esboniodd y
Parchedig Coombs fod disgwyl i ddyletswydd
economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010 ddod i rym yng Nghymru ar 31
Mawrth 2021. Roedd yn ei gwneud yn
ofynnol i gyrff cyhoeddus rhestredig ystyried sut y gallai eu penderfyniadau
helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais
economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar
flaenoriaethau, pennu amcanion, etc.
Gallai'r anghydraddoldebau hynny gynnwys anghydraddoldebau mewn addysg,
iechyd, tai, cyfraddau troseddu, tueddiad i dân, etc. Nod cyffredinol y
ddyletswydd oedd sicrhau gwell canlyniadau i'r rheini sy'n byw ac yn profi
anfantais economaidd-gymdeithasol. Er mae'n bosib na
fyddai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu rhestru o dan y ddyletswydd,
dywedodd y byddai'r sefydliadau unigol a oedd yn ffurfio BGC yn cael eu
rhestru. Byddai'r gwaith a wnaed gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan
o'r BGC hefyd yn dod o dan y ddyletswydd.
Byddai angen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
ddangos eu bod yn cyflawni nodau'r ddyletswydd drwy, er enghraifft, ystyried
tystiolaeth ac effaith bosib a gwneud newidiadau amlwg i benderfyniadau a
dyraniadau cyllid. Felly, roedd yn
bwysig iawn, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfyniadau cyllidebol
neu gynlluniau strategol, bod y rhain yn cael eu hystyried drwy; ·
Gymuned
o le neu ·
Gymuned
fuddiant (pobl o nodwedd gyfyngedig benodol) a bod y BGC yn cofnodi'r
gwahaniaethau y mae'r ymgysylltiad hwnnw'n eu hystyried wrth wneud
penderfyniadau (llwybr archwilio). Amlinellodd Jamie
Westcombe enghreifftiau amrywiol ar gyfer y Cyd-bwyllgor. Aeth y Parchedig Coombs ymlaen i egluro rôl y Comisiwn Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol fel rheoleiddiwr ond i ddechrau
byddai'n canolbwyntio ar ddarparu cyngor a gwybodaeth i sefydliadau. Roedd gwaith wedi
mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ac eraill i
gynhyrchu canllawiau ar sut i weithredu'r ddyletswydd. Trefnwyd i ganllawiau ystadegol terfynol
Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi pan ddaeth y ddyletswydd i rym ond nid oedd
yn debygol o newid o'r canllawiau dros dro.
Gellid dod o hyd i ganllawiau amrywiol ar wefannau Llywodraeth Cymru a'r
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys yr adroddiadau ystadegol
canlynol: "A yw
Cymru'n Decach 2018" (adroddiad cyffredinol): A yw Cymru'n Decach? (2018) | Y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (equalityhumanrights.com) ac effaith Coronafeirws ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod 2020: Byddai'r
adroddiad terfynol mewn perthynas â'r ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn bwriadu bwrw
ymlaen â'r ddyletswydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021. Croesawodd y
Parchedig Coombs BGC Abertawe i ystyried sut y gallai
gefnogi nodau'r dyletswyddau a dangos sut y gallai wneud gwahaniaeth
gweithredol i leihau anghydraddoldebau canlyniadau a newid bywydau pobl. Roedd y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Thîm Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol mewn perthynas â sut mae'r gwahanol ddeddfau yn
gorgyffwrdd ac yn cysylltu â'r nodau lles o dan y Ddeddf Llesiant a
Chenedlaethau'r Dyfodol, er mwyn cefnogi'r gweithredu hwnnw. Amlinellodd y
Parchedig Coombs fanylion gweminar
a drefnwyd ar gyfer 23 Chwefror gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol pe bai
unrhyw un yn dymuno cofrestru: Roedd Llywodraeth
Cymru hefyd wrthi'n datblygu modiwl e-ddysgu ac roedd nifer o ffilmiau
defnyddiol yn cael eu datblygu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Soniodd Amanda
Carr hefyd am adroddiad diweddar Cymunedau Llywodraeth Cymru ar ymateb y sector
gwirfoddol i COVID-19 a oedd yn cynnwys rhai argymhellion a oedd yn ymwneud â
sut y gallai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus weithio: https://www.scvs.org.uk/news/wp-report-covid3rdsector-jan21 Pwysleisiodd y
Parchedig Coombs ei bod hi a'i thîm ar gael i helpu
ac arwain y BGC dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Croesawodd hefyd unrhyw
enghreifftiau da gan y partneriaid y gellid eu rhannu fel arfer da. Cadarnhaodd Adam
Hill fod yr eitem hon wedi'i hychwanegu at raglen waith y BGC yn y dyfodol ac
roedd yn edrych ymlaen at allu rhannu hyfforddiant/cyfleoedd gyda'i gilydd yn
ei gyfarfod nesaf ar 8 Ebrill ar ôl i'r ddyletswydd gael ei gorfodi. Awgrymwyd bod y Parchedig Coombs
a Jamie Westcombe yn dychwelyd mewn 6 mis i drafod cynnydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Parchedig Coombs a Jamie Westcombe am
eu cyflwyniad llawn gwybodaeth. Nodwyd y diweddariad llafar. |
|
Ymagwedd Iechyd Cyhoeddus Integredig at Gamddefnyddio Sylweddau. Angharad Metcalfe, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Cofnodion: Rhoddodd Angharad
Metcalfe, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
ddiweddariad llafar ar Ddull Iechyd Cyhoeddus Integredig at Gamddefnyddio
Sylweddau. Atgoffodd y
Pwyllgor eu bod, ynghyd â Josie Smith, wedi llunio
papur ar y Dull Iechyd Cyhoeddus Integredig ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd
Port Talbot. Ym mis Ionawr
2020 cytunodd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd Abertawe a Chastell-nedd
Port Talbot eu bod am ddefnyddio dull newydd o fynd i'r afael â chamddefnyddio
sylweddau yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Felly, ar 16 Hydref 2020 gofynnodd y BGC ar y
cyd iddi ystyried sut y gellid rhoi'r ymagwedd amlddisgyblaethol, aml-sector a
chydweithredol ar waith. Ers hynny, cafwyd
cymorth ac arbenigedd gan Gomisiwn Dundee, yn enwedig
Andy Perkins, gan fod Dundee wedi profi nifer
sylweddol o farwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau. Yn ogystal, ymgynghorwyd â Lynda Hutchinson,
arbenigwr mewn comisiynu cynghreirio.
Byddai hyn yn ymagwedd system gyfan newydd tebyg i'r un a fabwysiadwyd
gan Plymouth, a oedd wedi llwyddo i leihau 26 o
gontractau i dim ond 1. Roedd hyn yn
golygu y bu arbedion sylweddol ond roedd hefyd yn sicrhau ei fod yn ystyried y
canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth. Pwysleisiodd fod
angen i'r ymagwedd fabwysiedig gael ei datblygu gan lais defnyddwyr gwasanaeth,
clinigwyr a staff sy'n gweithio gyda'r defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd. Aeth ymlaen i
ddweud bod y Bwrdd Cynllunio Ardal (BCA) bellach yn ystyried gweithredu a
manylion i'w cyflawni. Y gobaith oedd,
yn dilyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 3 Mawrth 2021, y byddai cytundeb
cadarn o'r strwythur a'r llywodraethu er mwyn gweithredu gweledigaeth/cytundeb
egwyddorion er mwyn symud ymlaen gyda chyflawni, comisiynu a chynllunio manwl. Pwysleisiodd fod
angen cymryd camau ar frys o ystyried faint o farwolaethau sy'n gysylltiedig â
chyffuriau sy'n parhau i fod, ond byddai angen rhoi ystyriaeth sylweddol i
gymhlethdodau'r unigolion dan sylw. Er bod y Pwyllgor
yn gefnogol o ran datblygu'r darn hwn o waith, cafwyd trafodaeth ynglŷn â
llywodraethu a'r llwybr ar gyfer cymeradwyo'r broses. Roedd angen egluro hyn drwy'r BCA a'i adrodd
yn ôl i Gyd-bwyllgor BGC Abertawe. Yn ogystal, byddai angen ymgynghori â Bwrdd
y Rhaglen Ranbarthol oherwydd eu cysylltiadau â chomisiynu Iechyd Meddwl. Trafodwyd
ariannu'r cynllun gan y byddai angen adnodd penodol ar waith i yrru hyn yn ei
flaen fel rhaglen newid sylweddol. Cadarnhawyd na fyddai'r cyllid presennol yn
cael ei ddargyfeirio i'r cynllun hwn, ond nodwyd y byddai angen defnyddio'r
cyllid ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol yn y tymor hir. Dywedodd Angharad
Metcalfe y byddai'n parhau i ddod o hyd i opsiynau ar
gyfer mwy o gymorth a chyllid i'r rhanbarth er mwyn mynd i'r afael â
chamddefnyddio sylweddau. Cadarnhaodd Mark Brace fod
y llythyrau ar gyfer cyllid diogelwch cymunedol wedi'u dosbarthu yr wythnos hon
ac y byddai'r ffordd yr ariannwyd diogelwch cymunedol yn cael ei hadnewyddu
dros y 3 blynedd nesaf. Diolchodd y
Cadeirydd i Angharad Metcalfe am y diweddariad ac
roedd yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o fanylion ar ôl cwblhau'r strwythur
Llywodraethu a'r dulliau adrodd. Nodwyd y diweddariad. |
|
Llythyr ac adborth gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu a'r Cynllun Gweithredu. PDF 244 KB Cofnodion: Cyfeiriodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe, at y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ynghylch
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020. Yn ogystal â
thrafodaeth ynglŷn â threfniadau'r BGC yn y dyfodol (rhanbarthol yn
hytrach na threfniadau Awdurdodau Lleol), amlygwyd 3 phrif bwynt yn y llythyr: a)
Gwella'r
fframwaith perfformiad er mwyn dangos yn well y gwahaniaeth pendant y mae'r BGC
yn ei wneud; b)
Gwella
gwelededd/negeseuon y cyhoedd am waith y BGC; c)
Pwyso
ar Lywodraeth Cymru ar adnoddau'r BGC. Roedd Cadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi cadarnhau y byddai'n craffu ar waith y BGC ddwywaith
y flwyddyn. Cytunwyd: 1)
Dylid
nodi'r pwyntiau a amlinellwyd yn y llythyr; 2) Trafodir yr eitemau a godwyd mewn cyfarfod o'r Cydbwyllgor yn y dyfodol. |
|
Cynigion Cychwynnol ar gyfer Asesu Lles Lleol 2022. PDF 220 KB Steve King, Cyngor Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd Steve King, Arweinydd Tîm Gwybodaeth, Ymchwil a GIS, Cyngor
Abertawe adroddiad i nodi cynigion cychwynnol ar gyfer cynnal yr Asesiad Lles
Lleol nesaf ar gyfer 2022. Cytunwyd: 1) Bod y
Cyd-bwyllgor yn cefnogi'r ymagwedd a'r cynigion cyffredinol a amlinellir yn yr
adroddiad hwn; 2) Bod
partneriaid statudol yn enwebu cynrychiolwyr o bob un o'u sefydliadau ar gyfer
y Grŵp Asesu Golygyddol arfaethedig (drwy e-bost at Steve King o fewn 7
niwrnod); 3) Y bydd y Cyd-bwyllgor yn cynnig enwebeion
eraill i gymryd rhan yn y Grŵp a/neu'r Fforwm Ymchwil (drwy e-bost at
Steve King o fewn 7 niwrnod). |
|
Y diweddaraf am y Grwp Digwyddiadau Tyngedfennol a'r Stryd Fawr. (Llafar/Cyflwyniad) PDF 3 MB Paul Thomas, Cyngor Abertawe Cofnodion: Rhoddodd Paul
Thomas, Rheolwr Integreiddio a Phartneriaeth Gymunedol, Cyngor Abertawe yr
wybodaeth ddiweddaraf am y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol a'r Stryd Fawr,
Abertawe. Amlinellodd y
materion a oedd yn effeithio ar y Stryd Fawr a'r ardaloedd cyfagos a'r canlyniadau
y disgwylid iddynt gael eu cyflawni. Esboniodd y
cyfleoedd i ddefnyddio eiddo gwag ar ben uchaf y Stryd Fawr i greu gofod
cymunedol a gwella'r mannau cyhoeddus.
Byddai ymgysylltu/ymgynghori â gwahanol bartneriaid a defnyddwyr
gwasanaeth yn nodi anghenion a gofynion penodol y rheini sy'n byw ac yn
gweithio yn yr ardal. Aeth ymlaen i
amlinellu'r amrywiol lwyddiannau a gyflawnwyd hyd yma ac a oedd yn mynd
rhagddynt a erfyniodd ar bartneriaid y BGC i gefnogi'r cynllun mewn unrhyw ffordd
bosib, megis gwirfoddoli neu drwy wahanol ffrydiau cyllido cyllideb a allai fod
ar gael. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Integreiddio a Phartneriaeth Gymunedol am y diweddariad
a'i frwdfrydedd dros y cynllun. Nodwyd y diweddariad. |
|
Llythyr gan y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol. (Llafar) Cofnodion: Cyfeiriodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe at lythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at
Gadeirydd y BGC yn diolch i'r partneriaid am eu cymorth ar y cyd wrth ddelio
â'r ymateb i bandemig COVID-19. Gofynnodd y
Gweinidog hefyd i bartneriaid amlinellu beth arall y teimlent y gellid ei
ddatblygu wrth i ni weithio tua diwedd y broses. Byddai Adam Hill a'r Cynghorydd Andrea Lewis
yn rhannu barn partneriaid y BGC yn y cyfarfod gyda'r Gweinidog a drefnwyd ar
gyfer 22 Mawrth 2021. Cam gweithredu: Rhaid anfon yr holl ymatebion erbyn dydd Mercher, 17 Chwefror 2021. |
|
Adolygiad o'r Cylch Gorchwyl/Aelodaeth. (Llafar) PDF 412 KB Cofnodion: Amlinellodd Adam
Hill, Cyngor Abertawe, Gylch Gorchwyl y BGC i sicrhau eu bod yn dal yn addas
i'r diben. Cytunwyd arnynt yn flaenorol
gan y BGC ar 11 Ebrill 2019. Cafwyd trafodaeth
am y gynrychiolaeth yn y Cyd-bwyllgor, ond pwysleisiwyd mai'r Cyd-bwyllgor oedd
elfen strategol y BGC ac y dylid cyflwyno unrhyw sylwadau i un o'r arweinwyr
Partneriaid Strategol, a fyddai'n codi unrhyw fater neu bryder yn y
Cyd-bwyllgor. Penderfynwyd cymeradwyo Cylch Gorchwyl/Aelodaeth y BGC. |
|
Adeiladu Cyfoeth Cymunedol - Caffael Parhaus - Clystyrau BGC. (Llafar) Cofnodion: Eitem heb ei
thrafod. |
|
Rhaglen waith ar gyfer y dyfodol. (Trafodaeth lafar) 8 Ebrill 2021 1.
Cynlluniau gweithredu a
chamau dilynol:
i.
Dinas
er Lles a Bywyd Gwyllt;
ii.
Agenda
Werdd/Newid yn yr Hinsawdd; (iia) Martin
Nicholls, Cyflwyniad Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe -
Cofrestru
ar gyfer y siarter -
Paratoi'r
cynllun gweithredu -
Cynyddu
ymwybyddiaeth
iii.
Llinellau Sirol,
Camddefnyddio Sylweddau, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2.
Adborth o gyfarfod y BGC
gyda'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol 3.
Adolygiad Rheoli
Perfformiad 4.
Rhoi'r Dyletswydd
Economaidd-gymdeithasol ar waith 17 Mehefin 2021 1.
Siaradwr gwadd 2.
Adrodd a monitro
cynlluniau gweithredu 3.
Asesiad Lles 4.
Sesiwn ddatblygu aelodau
bwrdd y BGC 5.
Pynciau a Chynhadledd
Cyfarfod y Fforwm Partneriaeth 12 Awst 2021 1.
Adrodd a monitro
cynlluniau gweithredu 2.
Statws Dinas Hawliau Dynol 3.
Trefniadau ac Agenda'r
Fforwm Partneriaeth 21
Hydref 2021 1.
Siaradwr gwadd 2.
Adolygiad 6 mis y
cynlluniau gweithredu Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd Raglen Waith y Dyfodol fel yr amlinellir yn eitem 14 ar yr agenda. Penderfynwyd: 1)
Dylid
nodi'r cynllun gwaith; 2)
Anfon
unrhyw eitemau ychwanegol at Leanne Ahern; 3)
"Ymgyrch
Dawns Glaw" i'w hychwanegu at yr agenda ar gyfer 8 Ebrill 2021; 4) 8 Ebrill 2021 - cyfarfod yn cael ei ymestyn i 2 awr. |