Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Abertawe ers pandemig COVID-19, yn enwedig yr aelodau newydd a oedd
wedi ymuno â'r Bwrdd yn ddiweddar. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cytunwyd
y dylid
cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Abertawe a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. PDF 182 KB Cofnodion: Dim ond un
weithred oedd heb ei datrys. Cadarnhaodd
Adam Hill, er bod pethau wedi arafu ychydig oherwydd y pandemig, fod Gweithgor
ar y Cyd Rhanbarthol y BGC a'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn mynd i'r
afael â'r camau gweithredu hyn. Cytunwyd y dylid nodi'r camau gweithredu. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd cwestiwn
gan Mr Dereck Roberts ynghylch Adroddiad Blynyddol Drafft Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Abertawe mewn perthynas â thudalen 22, gan nodi bod "Fforymau
Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda ar gyfer dinasyddion 50+ oed, a gydlynwyd gan Gyngor
Abertawe, wedi bod yn denu mwy o gyfranogwyr dros y flwyddyn ddiwethaf". Rhoddodd Adam Hill, y Dirprwy Brif Weithredwr, ymateb cynhwysfawr llawn. |
|
Blynyddoedd Cynnar - Cefnogi'r Newidiadau i'r Gwaith Braenaru. (I'w drafod) Cofnodion: Gofynnodd Adam
Hill am gyngor gan y pwyllgor mewn perthynas ag ystod oedran Ffrwd Waith
"Y Blynyddoedd Cynnar" a oedd yn gyffredinol yn canolbwyntio ar ystod
oedran plant iau 0-3 oed. Er bod Jig-so
a'r cynlluniau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cwmpasu'r ystodau oedran iau,
roedd yr elfen Braenaru yn cynnwys plant hyd at 7 oed. Holodd a oedd y pwyllgor yn teimlo y dylai'r
grŵp ailedrych ar ystod oedran ffrwd waith y Blynyddoedd Cynnar er mwyn
ymestyn hyd at 7 oed, a fyddai'n cynnwys y blynyddoedd cynnar a blynyddoedd
cyntaf plentyn yn yr ysgol. Roedd y pwyllgor
yn cytuno'n gyffredinol y gellir ymestyn oedran y ffrwd waith hon hyd at 7
mlwydd oed. Cytunwyd y byddai adroddiad yn cael ei ddrafftio a'i gyflwyno i gyfarfod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn y dyfodol. |
|
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd Adam
Hill i'r holl bartneriaid am eu mewnbwn wrth ddrafftio Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2019/2020 a hefyd i Leanne Ahern, Swyddog
Cymorth y BGC am gydgysylltu'r gwaith. Tynnodd sylw at
ddau ddiwygiad teipograffyddol ar dudalennau 17 a 44 o'r pecyn a fyddai'n cael
eu gweithredu cyn i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2019/2020. |
|
Llythyrau oddi wrth Lywodraeth Cymru ynghylch: PDF 259 KB •
Cyllid; •
Adfer Covid-19 a BGC; •
Adolygiad o Bartneriaethau Strategol; • Cynnwys Rhanddeiliaid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Trafododd y
pwyllgor yn benodol y 2 lythyr ynghylch rhoi'r gorau i ariannu Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus tan 2021/2022 a'r Adolygiad o Bartneriaethau Strategol. Ailadroddodd y pwyllgor
y sylwadau blaenorol a wnaed o ran nifer y partneriaethau sector cyhoeddus sy'n
gorgyffwrdd a'r cyfyngiadau amser dan sylw.
Er y cydnabuwyd bod heriau sylweddol, yn enwedig gyda sefydliadau sy'n
lleihau, roedd angen i'r BGC fod yn gwneud gwahaniaeth ac ychwanegu gwerth,
gyda bwriad mwy strategol. Nodwyd nad oedd yr argymhellion yn yr adroddiad
terfynol yn datrys y problemau a amlinellwyd gan y partneriaid. Roedd yn siomedig
bod y cyllid wedi'i dynnu'n ôl, yn enwedig pan oedd y llythyr adfer yn canolbwyntio
ar y gwaith i'w wneud gan y BGC. Er bod
yr holl bartneriaid wedi bod yn rhan fawr o'r gwaith o ddarparu cymorth yn
ystod pandemig COVID-19, nodwyd bod hyn wedi bod drwy grwpiau rhanbarthol
eraill ond nid ar y cyd fel BGC.
Cydnabuwyd, fodd bynnag, fod y cysylltiadau a grëwyd gan y BGC wedi dod
â'r holl bartneriaid at ei gilydd cyn COVID-19 a diolchodd Adam Hill iddynt i
gyd am y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig. Er mwyn
cynorthwyo, awgrymodd Adam Hill y dylid lleihau nifer y cyfarfodydd sy'n cael
eu cynnal neu edrych ar fodel cyd-gynhyrchu i gynnal rhywfaint o annibyniaeth
tra'n parhau i gydweithio. Dywedodd Martyn
Evans wrth y pwyllgor y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at bob BGC
yr wythnos nesaf mewn perthynas â £25,000 ar gyfer pob un o'r BGC dros y 3
blynedd nesaf y gellid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw achos brys. Croesawyd hyn gan bawb a oedd yn bresennol. Cytunwyd bod y Cadeirydd ac Adam Hill yn drafftio ymateb mewn perthynas â'r Adolygiad o Bartneriaethau Strategol i Lywodraeth Cymru ar ran Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. |