Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Croeso.

Cofnodion:

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan y Cynghorydd Clive Lloyd, Cadeirydd ar y Cyd, a gwnaed cyflwyniadau.

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

24.

Cofnodion. pdf eicon PDF 348 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 17 Mis Hydref 2019 fel cofnod cywir.

 

Materion a godwyd:

 

Eitem 19 "Diweddariad gan y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol - Stryd Fawr, Abertawe”

 

Nododd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bwysigrwydd a chyd-destun Cymraeg ehangach y materion a amlygwyd gan y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol (GDT) yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd rhwng Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020.

 

Cyflwynodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jeremy Vaughan, bapur ar ran y Prif Gwnstabl a oedd yn nodi, er y cymerwyd camau gweithredu penodol, roedd yn glir nad oeddent yn cael yr effaith angenrheidiol nac yn datrys y broblem. Nododd Mr Michael fod Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn yr ail a'r trydydd safle ar ôl Blackpool o ran marwolaethau sy'n ymwneud â chyffuriau yng Nghymru.

 

Ystyriodd y gweinidogion eu pryderon, fodd bynnag roedd Karen Jones, Castell-nedd Port Talbot (CNPT) a Joanna Maal, Heddlu De Cymru, Cadeiryddion y Byrddau Cynllunio Ardal, yn gyfrifol am wneud cynnydd mewn perthynas â’r materion ar sail "Cymru Gyfan".

 

Apeliodd Mr Michael i BID Abertawe roi'r eitem hon yn uwch ar ei agenda, a chydweithio i fwrw ymlaen â’r gwaith mewn perthynas â:

 

·       Chamddefnyddio Sylweddau;

·       Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod;

·       Iechyd Meddwl;

·       Trais yn erbyn Menywod a Merched.

 

Amlinellodd fanylion y cynllun 'DRIVE' - ymagwedd flaengar at droseddwyr cam-drin domestig difrifol. Rhondda Cynon Taf a Merthyr fyddai’n treialu’r cynllun gyntaf, gyda Chaerdydd yn ail. Byddai'r cynllun yn cael ei ehangu i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot erbyn ail hanner y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cydnabuwyd nad oedd y partneriaid yn ymwybodol ar y pryd o'r swm enfawr o waith yr oedd angen ei wneud i ddrafftio’r asesiadau lles lleol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac a ddeilliodd o’r GDT.  Fodd bynnag, amlygwyd hyblygrwydd y partneriaid a'u gallu i ymateb a gweithio gyda'i gilydd ar fyr rybudd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau a wynebwyd.

 

Cam gweithredu - Adam Hill i drafod â Karen Jones a Joanna Maal ac Angharad Metcalfe (Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu) a dosbarthu'r wybodaeth berthnasol i Gyd-bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

25.

Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, am gamau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd at 17 Hydref 2019.

 

·                Cynllun Newid yn yr Hinsawdd - ni ddosbarthwyd y ddogfennaeth gan fod gwaith yn parhau gyda'r cyfle posib i dendro ar gyfer prosiect newid yn yr hinsawdd cam 2. Cynhelir trafodaethau pellach â’r ffrwd waith Gweithio gyda Natur, a darperir diweddariad i gyd-bwyllgor y BGC yn y dyfodol;

·                Rhannu Cyllidebau - cau'r eitem tan fod angen yn codi;

·                Adolygu cylch gorchwyl y BPRh a'r BGC - cynhaliwyd cyfarfodydd amrywiol; cynhelir ymarfer pen bwrdd a chyflwynir papur i gyfarfod yn y dyfodol ynghylch yr eitemau nad oedd modd cydweithio arnynt;

·                 Clefyd coed ynn - adroddodd Peter Jordan fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Abertawe wedi bod yn cydweithio ar y Rhaglen Clefyd Coed Ynn. Os yw unrhyw bartneriaid eraill am fod yn rhan o'r rhaglen, dylent roi gwybod iddo. Os bydd angen, gellir rhoi'r diweddaraf am gynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r gweithredoedd.

26.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnodd Mr Perrott 2 gwestiwn mewn perthynas â chyllid o ran argyfyngau natur a hinsawdd, a'r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, a sut roedd yr arian cyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 5 llinyn y strategaeth genedlaethol ar gyfer ardal BGC Abertawe.

 

Darparodd Peter Jordan, Cyfoeth Naturiol Cymru, ymateb llafar cynhwysfawr i Mr Perrot.

27.

Amlygu Adroddiadau ar Lifoedd Gwaith yr Amcan Lles. (gan gynnwys cofnod o risgiau) pdf eicon PDF 446 KB

·                 Y Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe;

·                 Byw'n Dda, Henediddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe;

·                 Gweithio gyda Natur - Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru;

·                 Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd pob un o arweinwyr yr amcanion ddiweddariad am:

 

·                Y Blynyddoedd Cynnar - dywedodd Siân Harrop-Griffiths na nodwyd unrhyw risgiau ar gyfer y ffrwd waith hon;

·                Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda;

·                Gweithio gyda Natur;

·                Cymunedau Cryf - cafwyd trafodaeth ynghylch y materion a amlinellwyd yn yr Adroddiad Amlygu a'r cofnod o risgiau. Cydnabuwyd bod angen ailwerthuso'r gwaith a'r blaenoriaethau a nodwyd nad oedd y broblem yn unigryw i BGC Abertawe. Roedd rhwystredigaeth ynghylch cyflymdra'r hyn yr oedd y BGC yn ei wneud ac a oedd yn ychwanegu gwerth neu beidio. Er bod y BGC yn awyddus i newid, byddai gweithio tuag at strwythur sengl â rhagor o bartneriaethau ond llai o gyfarfodydd yn fuddiol. Gallai CLlC helpu i resymoli'r strwythur. Gobeithiwyd hefyd y byddai mesur newydd Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn helpu.

 

Nododd y Cynghorydd Rob Stewart fod Cyngor Abertawe yn y broses o ddrafftio Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, ac roedd yn gobeithio y byddai partneriaid yn awyddus i ymrwymo iddi hefyd. Soniodd hefyd am Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol cyntaf y DU, ac awgrymodd y dylid rhoi hyn fel eitem ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y cyd-bwyllgor.

 

Cytunwyd y dylid:

 

1)              Nodi'r diweddariadau;

2)              Y dylai'r BGC ailwerthuso blaenoriaethau Ffrwd Waith Cymunedau Cryf yng nghyfarfod nesaf Fforwm BGC Abertawe a drefnwyd ar gyfer 12 Mai 2020.  Byddai cyfarfod paratoi'n cael ei gynnal yr wythnos ganlynol pe bai partneriaid am gymryd rhan. Hefyd gofynnwyd i bartneriaid awgrymu lleoliad ar gyfer 70 i 100 o bobl - dylid anfon gwybodaeth at Swyddog Cefnogi'r BGC.

3)              Rhoi Dinas Hawliau Dynol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf cyd-bwyllgor y BGC.

28.

Cofnodlyfr Risgiau/Cofnodlyfr Materion y Cyd-bwyllgor pdf eicon PDF 318 KB

Cadeirydd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, gofnod o faterion y cyd-bwyllgor.

 

Cytunwyd i nodi’r cofnod risgiau/materion y cyd-bwyllgor

29.

Adroddiad Sywyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. pdf eicon PDF 406 KB

Adam Hill

Cofnodion:

O ganlyniad i Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd Adam Hill a Siân Harrop-Griffiths wedi llunio papur trafodaeth i ystyried y 4 argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Nododd Adam Hill fod BGC Abertawe mewn sefyllfa gymharol dda, fodd bynnag roedd gwaith i'w wneud o hyd mewn perthynas â'r Strategaeth Gyfathrebu, ac roedd angen ystyried cyfranogiad a mewnbwn dinasyddion a rhanddeiliaid, fel rhan o bob ffrwd gwaith.

 

Dywedodd Siân Harrop-Griffiths wrth y pwyllgor fod BGC Castell-nedd Port Talbot yn sefydlu Panel y Dinasyddion, a byddai hyn yn fan cychwyn da.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

30.

Argyfwng yr Hinsawdd - Arian cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Argyfyngau Natur a'r Hinsawdd/rhaglenni grant CNC.

Pete Jordan

Cofnodion:

Darparodd Pete Jordan fanylion cryno cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer argyfyngau natur a hinsawdd/rhaglenni grant Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dywedodd y byddai'n darparu adroddiad mwy cynhwysfawr yn un o gyfarfodydd BGC Abertawe yn y dyfodol i amlinellu'r union fanylion ar ôl eu derbyn yn swyddogol.

 

Cytunwyd y dylid:

 

1)              Nodi'r diweddariad:

2)              Rhoi gwybod am fanylion ariannu pellach i gyd-bwyllgor y BGC ar ôl eu derbyn yn swyddogol.

31.

Adborth gan Banel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 5 Chwefror 2020. (Verbal)

Cadeirydd

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Clive Lloyd, Cyd-gadeirydd, ddiweddariad llafar mewn perthynas â Phanel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020.

 

Roedd Siân Harrop-Griffiths, Adam Hill a'r Cynghorydd Lloyd wedi mynd i gyfarfod y panel i ateb cwestiynau am ffrydiau gwaith y Blynyddoedd Cynnar a Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda.

 

Nodwyd ei fod yn gyfarfod cadarnhaol lle’r amlygwyd y ffaith bod y Partneriaethau'n gweithio'n dda, eu bod yn gynhwysol a bod perthnasoedd gwaith da wedi'u sefydlu.

 

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar. 

32.

Diweddariad ar Gyd-bwyllgor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. (Verbal)

Adam Hill

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem eisoes yng Nghofnod 24 "cofnodion y cyfarfod diwethaf".

33.

Diweddariad ar y Grwp Digwyddiadau Argyfyngus. (Verbal)

Adam Hill

Cofnodion:

Darparodd Adam Hill ddiweddariad llafar am y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol, fel a ganlyn:

 

·                Roedd yn cynnwys gweithwyr stryd diamddiffyn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau a thrais;

·                Roedd asesiadau'n dangos gostyngiad o 37% o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a 47% o ran trais gydag anaf;

·                Roedd Adam Hill a'r Uwch-arolygydd Gareth Morgan wedi ymweld â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i siarad â myfyrwyr y gyfraith - cafwyd adborth bod myfyrwyr bellach yn teimlo'n ddiogel ar y Stryd Fawr;

·                Roedd Heddlu De Cymru'n ystyried cynnal cyfarfodydd deufisol â phreswylwyr a busnesau lleol;

·                Ystyried cynnal sesiwn gyhoeddus flynyddol fel prawf modd;

·                Mae prosiect allgymorth BAROD yn gweithio ochr yn ochr â phrosiect SWAN a swyddogion Operation Jaeger;

·                Ehangwyd y cynllun cyfnewid nodwyddau ac maent bellach ar gael o fan prosiect SWAN;

·                Byddai unedau ar ben uchaf y Stryd Fawr yn cael eu rheoli a'u defnyddio fel 'mannau diogel';

·                Penodwyd Ceidwad Canol y Ddinas ar gyfer y Stryd Fawr;

·                Roedd newyddion cadarnhaol ynghylch y gwaith i adfer Theatr y 'Palace'

 

Amlygwyd bod hyn yn enghraifft dda o'r ffrwd waith 'Cymunedau Cryf' er y cyflawnwyd hyn drwy fethodoleg arall.

 

Cytunwyd y dylid cofnodi'r diweddariad.

34.

Diweddariad ar y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Verbal)

Cadeirydd

Cofnodion:

Darparodd Anthony Richards, Rheolwr Strategaeth Tlodi a'i Atal a Datblygu, ddiweddariad llafar am y Comisiwn Gwirionedd Tlodi.

 

Nododd mai dyma fyddai'r Comisiwn Gwirionedd Tlodi cyntaf yng Nghymru, ac y byddai'n:

 

·                 Cyflwyno newid, yn newid cymunedau, sefydliadau, ymddygiadau ac agweddau at dlodi ac yn gweithredu i fynd i'r afael ag ef;

·                 Dod â phenderfynwyr allweddol a phobl â phrofiad uniongyrchol o dlodi ynghyd i ffurfio grŵp sy'n cynnwys 30 o gomisiynwyr, 15 o Gomisiynwyr Dinesig/Busnes a 15 o Gomisiynwyr Cymunedol; 

·                 Creu ardal ddiogel er mwyn i Gomisiynwyr gwrdd ac adeiladu ar berthnasoedd, ymddiriedaeth a magu hyder yn ei gilydd;

·                 Nodi materion allweddol y byddant yn cydweithio arnynt, dros amserlen cyfnod cyfyngedig, a arweinir gan brofiadau'r Comisiynwyr Cymunedol. (Y cyfnod rhwng y lansiad cyhoeddus a'r Digwyddiad Cloi/Cyhoeddi'r Adroddiad Terfynol - 18 mis);

·                 Sicrhau bod y rheini y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt yn ganolog i wneud penderfyniadau.

 

Byddai gan y comisiwn gylch bywyd o 2 flynedd. Byddai'r chwe mis cyntaf yn cynnwys sefydlu'r tîm hwyluso, tystio comisiynwyr a nodi'r materion allweddol y byddai'r comisiwn yn eu blaenoriaethu i weithio arnynt, y bobl ddylanwadol a fyddai'n cael eu gwahodd i fod yn Gomisiynwyr Dinesig a Busnes.

 

Dilynir hyn gan lansiad cyhoeddus, tua mis Medi/Hydref, a fyddai'n nodi dechrau'r comisiwn a'i broses deunaw mis. Byddai adroddiad yn cael ei lunio ar ddiwedd y broses i egluro'r canlyniadau a'r effeithiau.

 

Roedd y grŵp newydd wedi dechrau ar y canlynol hyd yn hyn:

 

·       Dewis sefydliad cynnal (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA));

·       Sicrhau arian digonol (gwnaed hyn yn rhannol ond roedd bwlch cyllid o £40 mil o hyd);

·       Recriwtio'r Tîm Hwyluso (ar waith erbyn mis Ebrill 2020)

 

Byddai'r Comisiwn yn cael ei gynnal tan fis Ebrill 2022.

 

Cytunwyd y dylid cofnodi'r diweddariad. 

35.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

Cofnodion:

Atgoffodd Adam Hill y partneriaid y byddai angen cwblhau'r adroddiad blynyddol cyn bo hir.

 

Byddai templed yn cael ei ddosbarthu, fodd bynnag byddai unrhyw enghreifftiau, lluniau neu astudiaethau achos yn cael eu hanfon at Leanne Ahern, Swyddog Cefnogi'r BGC, dros y pythefnos nesaf.

 

Cam Gweithredu:

 

1)              Byddai angen i'r holl bartneriaid anfon esiamplau, lluniau neu astudiaethau achos i Leanne Ahern, Swyddog Cefnogi'r BGC o fewn y pythefnos nesaf.