Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Croesawodd Roger Thomas, yr Is-Gadeirydd, bawb i'r cyfarfod ac esboniodd fod y Cynghorydd Clive Lloyd (Cadeirydd) wedi'i alw i ffwrdd ar fyr rybudd.  Cyflwynwyd y rheini a oedd yn bresennol.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 258 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

 

Materion a godwyd:

 

Cofnod Rhif 10 - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel

 

Holodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am y dull adrodd rhwng Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel a'r BGC am nad oedd Bwrdd Diogelwch Cymunedol yn Abertawe. Ymatebodd Adam Hill drwy ddweud bod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn adrodd drwy ffrwd waith Cymunedau'n Gryf, yna drwy'r BGC ac yna Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel a'r Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol ac yn ôl i'r BGC i sicrhau y cyflenwir yr 'Edau Euraidd'.

 

Cofnod 19 - Unrhyw Fater Arall

 

Gwnaed y sylw bod angen fwy o reswm dros godi'r mater hwn er mwyn gwella dulliau cyfathrebu rhwng partneriaid ar gyfer y digwyddiadau hynny yn Abertawe lle bo angen cau ffyrdd neu roi cyfyngiadau arnynt.  Byddai hyn yn helpu apwyntiadau a drefnir ymlaen llaw yn ogystal ag argyfyngau yn Ysbyty Singleton, gan gynnwys mynediad ar gyfer ambiwlansys.  O ganlyniad, byddai'r holl gyfathrebiad rhwng partneriaid yn cynnwys dolenni i dudalen digwyddiadau Abertawe er mwyn sicrhau bod partneriaid yn cael digon o rybudd cyn digwyddiadau perthnasol.

 

Cam Gweithredu: Partneriaid i sicrhau eu bod yn edrych ar dudalen digwyddiadau Abertawe yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.

4.

Amlygu Adroddiadau ar Lifoedd Gwaith yr Amcan Lles. (gan gynnwys cofnod o risgiau) pdf eicon PDF 495 KB

·                 Y Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe;

·                 Byw'n Dda, Henediddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe;

·                 Gweithio gyda Natur - Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru;

·                 Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygwyd y diweddaraf o'r adroddiad a darparwyd cofnodion risgiau'r canlynol:

 

·                 Y Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (diweddariad a ddarparwyd gan Joanne Abbott-Davies;)

 

Camau gweithredu:

 

1)    Nodi arweinydd ar gyfer Grŵp Llywio Strategaeth Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar yn dilyn ymddeoliad Andrew Davies;

2)    Darparu cefnogaeth strategol ar gyfer gweithlu'r BGC i hyrwyddo ymgyrch 'Dechrau Gorau';

3)    Trafod materion cyllideb staff iechyd gyda Jig-so, archwilio'r math o gefnogaeth y gall y BGC ei darparu i sicrhau bod y prosiect hwn yn parhau;

4)    Hyfforddiant arbenigol sy'n cefnogi'r sector i ddeall plant ag ADY o fewn y ddarpariaeth, i fynd i'r afael â hwy ac i'w cefnogi;

5)    Bod yn hyderus bod yr atgyfeiriadau i gefnogaeth arbenigol yn gallu gwrthsefyll cynnydd posib yn nifer y plant y nodwyd bod ganddynt ADY e.e. cyn tair oed.

 

·                 Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe;

 

            Camau gweithredu:

 

1)    Ydy'r BGC yn gallu ystyried symud Newid Diwylliant a Chyfranogaeth i thema drawsbynciol ar draws y 4 amcan?  Ar hyn o bryd mae'n sefyll o fewn amcan Byw'n Dda Heneiddio'n Dda ac argymhellwyd yn gryf gan bawb a oedd yn bresennol yn y gweithdy amcan Byw'n Dda Heneiddio'n Dda fod hwn yn amcan a fyddai'n amlwg ar hyd holl waith y BGC;

2)    Ydy'r BGC yn gallu archwilio sut olwg fyddai ar 'City for All' gan gymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau a sut byddai'r berthynas rhwng mentrau penodol megis Dinasoedd sy'n Gyfeillgar i Oed, Dinasoedd Chwareus, Dinas Noddfa, Dinasoedd Rhyngddiwylliannol, Dinas Diwylliant, Dinas Hawliau Dynoll, er enghraifft? Yn y gweithdy, soniwyd am y rhain yn aml fel negeseuon cymhleth ac anghyson i bartneriaid a dinasyddion. 

 

·                 Gweithio gyda Natur – Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y gwaith a wnaed, yn enwedig y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd y gellid ei defnyddio fel enghraifft o waith da y BGC yn y gorffennol.  Yn ogystal, plannwyd coed ym Mhen-lan fel canlyniad uniongyrchol i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn y BGC.

 

 Cynhaliwyd Cam 1 cynllun ar y cyd gyda CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir Penfro ar newid yn yr hinsawdd.  Byddai cyfle i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fod yn rhan o Gam 2.  Byddai manylion ychwanegol yn cael eu darparu maes o law.

 

            Camau gweithredu:

 

1)    Ymrwymiad ehangach gyda thema Gweithio gyda Natur;

2)    Martyn Evans i ddarparu ragor o wybodaeth am Gam 2 y cynllun Newid yn yr Hinsawdd maes o law.

 

·                 Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

            Camau gweithredu:

 

1)    Partneriaid y BGC i sicrhau presenoldeb priodol yn y cyfarfodydd, h.y. y rheini sy'n bresennol a chanddynt yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran eu sefydliadau perthnasol;

2)    Y BGC i sicrhau bod y rheini sy'n gyfrifol am y camau gweithredu'n ymrwymo i gyflwyno'r camau gweithredu cytunedig o fewn y cynllun.

 

Camau gweithredu eraill a godwyd:

 

1)        Awgrymwyd hefyd y dylai'r grŵp o 4 o swyddogion arweiniol gwrdd yn fwy rheolaidd.

2)        Joanne Abbott-Davies i roi gwybod i Steve Davies am enw cynrychiolydd GIG ar gyfer ffrwd waith Cymunedau Cryf.  Cynrychiolydd i fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y ffrwd waith ar 24 Medi.

3)        Eitem Dinasoedd Iach hefyd i'w chynnwys yn eitem 'Dinas i Bawb'.

 

Eglurwyd nad oes angen i'r arweinydd strategol ar gyfer y ffrwd waith fod yn aelod o'r BGC.  Byddai'r BGC yn pennu'r cyfeiriad strategol ac yn adrodd yn ôl i bob un o'r 4 o arweinwyr strategol.

 

Cydnabuwyd mai dyma'r tro cyntaf i bartneriaid gwblhau'r ffurflenni hyn ac roeddent yn dal i ddysgu am yr hyn y dylid ei gynnwys/eithrio.  Byddai enghraifft o ffurflen wedi'i chwblhau'n dda yn cael ei chylchredeg maes o law.

 

Tynnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sylw at y gwaith parhaus ac roedd yn awyddus i ddeall sut y byddai hyn yn bwydo i mewn i waith strategol y BGC a sut y gellid arwain y camau gweithredu wrth fynd ymlaen:

 

·                 Camau cynnar gyda'n gilydd - rôl gadarnhaol yn y gymuned;

·                 Gwaith Digwyddiadau Tyngedfennol - parhaus;

·                 Agenda Trosedd - Llywodraeth y DU wedi dyrannu £880,000 i'w ddefnyddio ar gyfer ymyrryd yn gynnar a buddion tymor hir.  Byddai strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 4 blwyddyn ar y cyd hefyd yn cael ei lansio;

·                 Rhaglen IRIS (hyfforddi staff meddygfeydd ynghylch trais);

·                 Prosiect Drive (Merthyr a Chaerdydd) - herio tramgwyddwyr.

 

Nododd Adam Hill, lle y bo'n berthnasol, y byddai'r ffrwd waith yn codi unrhyw gamau gweithredu perthnasol.  Fodd bynnag, os oedd rhywbeth penodol i'w drafod mewn mwy o fanylder, gellid ychwanegu'r eitem at yr agenda (gyda chymeradwyaeth gan y Cadeirydd) a chael adroddiad wedi'i ddrafftio gan y partner/cyfranogwr a wahoddwyd perthnasol.

 

Byddai'r Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol yn cael ei gynnal ar 19 Medi a bydd yn canolbwyntio ar y cynllun gweithredu.  Grŵp Tasg a Gorffen 1 flwyddyn yw hwn.  Byddai Adamk Hill yn darparu diweddariad yn y cyfarfod nesaf. 

 

Tynnwyd sylw hefyd at Stryd Fawr Abertawe, sydd wedi'i henwebu ar gyfer gwobr Stryd Fawr Orau Prydain.

5.

Camau Gweithredu'r Cydbwyllgor/Cofnod o Faterion pdf eicon PDF 281 KB

Cadeirydd

Cofnodion:

Cyflwynodd Adam Hill y cofnod Camau Gweithredu'r Cydbwyllgor/Cofnod o Faterion.

 

Tynnodd sylw at ID 01 mewn perthynas â'r camau gweithredu ar gyfer pob un o'r ffrydiau gwaith a fyddai'n datrys ei hun oherwydd y trefniadau llywodraethu diwygiedig.

 

Trafododd y pwyllgor sut y gallent wella canlyniadau drwy weithio gyda'i gilydd ar 'ataliaeth', i arbed arian ar gyfer partneriaid yn y dyfodol ac i geisio lleihau galw ar wasanaethau. 

 

Yn ogystal, roedd BGC Abertawe eisoes yn gweithio gyda CNPT i geisio lleihau'r baich gwaith a dyblygu drwy drefnu cyfarfodydd olynol fel bod yr holl bartneriaid yn yr un lleoliad ar gyfer sawl cyfarfod ar yr un dydd.  Byddai hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Bwrdd Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

Trafodwyd hefyd y defnydd o dechnoleg, e.e. Skype a fideo-gynadledda i gynorthwyo partneriaid er mwyn gwneud gwaith yn gynt ac i leihau pwysau amser dyddiaduron sydd eisoes yn llawn (gan gynnwys teithio).

6.

Cynllun Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y Dyfodol (Trafodaeth lafar)

·                 Cyllidebau wedi'u Cronni (Trafodaeth Lafar) - Adam Hill, Cyngor Abertawe

Cofnodion:

Adroddodd Adam Hill nad oedd y partneriaid mewn sefyllfa ar hyn o bryd i drafod cyllidebau cyfun nes bod eglurhad ynghylch camau gweithredu penodol.  Byddai hefyd angen iddynt ystyried rheoli'r arian a'r cyfrifoldeb dros gyflwyno'r camau gweithredu.

 

Camau gweithredu:

 

1)              Adam Hill i gyflwyno papur i gyfarfod y BGC yn y dyfodol ar gyllidebau cyfun.

7.

Cymru Ein Dyfodol - Cyfrannu at Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020. pdf eicon PDF 113 KB

Cadeirydd

Cofnodion:

Adroddodd Adam Hill fod gohebiaeth wedi'i chylchredeg i bartneriaid mewn perthynas â'r ymgynghoriad gan Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 'Cymru ein Dyfodol/Our Future Wales'.

 

Ceisir barn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Phwyllgorau Craffu'r BGC er mwyn ei fwydo i sgwrs a fyddai'n hysbysu Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020.

 

Cam Gweithredu:

 

1)              Partneriaid i gyflwyno eu sylwadau/barn i'r Swyddog Cefnogi BGC a byddai ymateb yn cael ei ddrafftio i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.

8.

Cynnal y Fforwm Partneriaeth - 8 Hydref 2019. (Llafar)

Cadeirydd

Cofnodion:

Gofynnodd Adam Hill i bartneriaid ystyried cynnal y Fforwm Partneriaeth cyntaf ar brynhawn 8 Hydref 2019.  Byddai angen i'r lleoliad allu lletya oddeutu 100 o bobl ac am nad oedd unrhyw gyllideb ar gyfer hurio ystafell, byddai angen ystafell sydd ar gael am ddim.

 

Awgrymodd Joanne Abbott-Davies Ganolfan Addysg Treforys, fodd bynnag byddai angen iddi wirio argaeledd/trefniadau parcio ceir.  Awgrymwyd lleoliadau eraill hefyd megis Caban y Sgowtiaid Brynmill, Prifysgol Abertawe.

 

Cam Gweithredu:  

 

1)              Partneriaid i ddarparu unrhyw opsiwn arall i'r Swyddog Cefnogi BGC.

9.

Eitemau agenda'r dyfodol.

Cofnodion:

Nododd Adam Hill y dylid cynnwys Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd ar bob agenda yn y dyfodol gan fod Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn agored i'r cyhoedd.

 

Cam Gweithredu:

 

1)              Ychwanegu Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd at agendâu Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn y dyfodol.