Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddariadau ar yr 8 cam yng Nghynllun Gweithredu'r BGC 2024-2025. · Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe (Karen Stapleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) · Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol (Ness Young, Cyngor Abertawe) · Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur Abertawe (Hywel Manley/Jane Richmond, Cyfoeth Naturiol Cymru) · Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn ffyniannus (David Morgans, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) · Datblygu cynnig diwylliannol integredig Abertawe Mark Wade, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe, a chysylltu â hwy (Ness Young, Cyngor Abertawe) · Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe (Ness Young, Cyngor Abertawe) · Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Ness Young, Cyngor Abertawe) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd pob un
o’r partneriaid ddiweddariad ysgrifenedig a llafar ar yr 8 cam yng Nghynllun
Gweithredu BGC 2024/25: ·
Trawsnewid gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar ar draws Abertawe. (Karen Stapleton, BIPBA) · Adeiladu
ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol. (Ness Young, Cyngor Abertawe) · Gweithio
tuag at darged sero net Abertawe ac adfer natur. (Jane Richmond, Cyngor Abertawe) · Gwneud
Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy
ffyniannus (Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub CGC) · Datblygu
Cynnig Diwylliannol Integredig Abertawe (Mark Wade, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu
ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe a chysylltu â
hwy (Ness Young, Cyngor Abertawe) ·
Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe
(Ness Young, Cyngor Abertawe) · Datblygu
trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Ness Young, Cyngor Abertawe) Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) Yn nodi'r diweddariadau. |
|
Adolygiad Llywodraethu Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd. Cofnodion: Esboniodd Ness
Young o Gyngor Abertawe fod y Cadeirydd wedi ysgrifennu at gadeiryddion
partneriaethau eraill yn y rhanbarth er mwyn ceisio eu sylwadau ar adroddiad
o'r enw "Adolygiad Llywodraethu mewn Partneriaeth BGC Abertawe", a
oedd yn trafod sut mae partneriaethau amrywiol yn cydweithio ar draws rhanbarth
Bae Abertawe. Gwnaeth yr
adroddiad archwilio llywodraethu partneriaethau allweddol, gan gynnwys Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, y
Bwrdd Cynllunio Ardal a Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, gan nodi rolau
llywodraethu, cyfleoedd cydweithio a meysydd lle ceir dyblygiad neu fylchau, yn enwedig o ran iechyd, lles, diogelwch cymunedol
a chamddefnyddio sylweddau. Disgwylir atebion
yn fuan oddi wrth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Phartneriaeth Abertawe Mwy
Diogel, y disgwylir iddynt fod yn gadarnhaol mewn egwyddor. Penderfynwyd gweithredu'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad â'r partneriaethau eraill yn y rhanbarth yn destun cymeradwyaeth ffurfiol gan bob un o'r partneriaid. |
|
Cerdded yn ein Hesgidiau. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal y digwyddiad 'Cerdded yn ein 'sgidiau ni' nesaf. Awgrymodd Hywel Manley y caiff y digwyddiad ei drefnu ar gyfer rhywbryd ym mis Mai 2025 a fyddai'n yn canolbwyntio ar fonitro ansawdd dŵr yn y labordy yn Singleton, Abertawe, ynghyd â rheoli ystadau.
Byddai manylion ychwanegol yn cael eu rhannu maes o law. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2024/25. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Atgoffodd Ness
Young, Cyngor Abertawe, yr aelodau y disgwylir i'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer
2024/2025 gael ei ddrafftio. Mae'r adroddiad yn cynnwys y diweddariadau a ddarparwyd
yn y cyfarfod heddiw, ynghyd â mewnbwn pellach oddi wrth arweinwyr strategol.
Cynigiodd y cyflwynir drafft cychwynnol yng nghyfarfod anffurfiol y BGC ar 17
Mawrth ac yna yng nghyfarfod ffurfiol nesaf y BGC ar 10 Ebrill 2025. Gofynnodd i aelodau ystyried a ddylid creu fideo fel a wnaed ar gyfer adroddiad 2023/2024, yn ogystal ag ystyried ffyrdd o wella hygyrchedd yr adroddiad. |
|
Llythyr adborth gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu ac Ymateb. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r llythyr oddi wrth Gadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu at Gadeirydd y BGC yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor
Craffu ar 19 Tachwedd 2024 i'r BGC, ynghyd â chyngor ynghylch sut yr ymdriniwyd
â'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr. Penderfynwyd y canlynol: 1) Bydd Leanne Ahern yn anfon dyddiad cyfarfod
nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu â'r BGC at yr holl bartneriaid statudol; 2) Gwahodd aelodau Pwyllgor y Rhaglen Graffu i ddigwyddiadau'r BGC yn y dyfodol er mwyn hyrwyddo gweithio ar y cyd. |