Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cytunwyd y dylid
cymeradwyo a llofnodi cofnodion Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a
gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddariadau ar yr 8 cam yng Nghynllun Gweithredu'r BGC 2024-2025. · Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe (Karen Stapleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) · Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur Abertawe (Hywel Manley, Cyfoeth Naturiol Cymru) · Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn ffyniannus (David Morgans, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) · Datblygu cynnig diwylliannol integredig Abertawe Tracey McNulty, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe, a chysylltu â hwy (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd pob un
o’r partneriaid ddiweddariad ysgrifenedig a llafar ar yr 8 cam yng Nghynllun
Gweithredu BGC 2024/25: ·
Trawsnewid gwasanaethau'r
Blynyddoedd Cynnar ar draws Abertawe. (Karen Stapleton, BIPBA) · Adeiladu
ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol. (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gweithio
tuag at darged sero net Abertawe ac adfer natur. (Huwel Manley, CNC a Jane Richmond, Cyngor Abertawe) · Gwneud
Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy
ffyniannus (David Morgans, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) · Datblygu
Cynnig Diwylliannol Integredig Abertawe (Nerys Evans, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu
ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe a chysylltu â
hwy (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) ·
Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe
(Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Datblygu
trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) Yn nodi'r
diweddariadau. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023/24 a Fideo Ategol. Lawrlwythwch y
fideo o'r ddolen
hon neu ei wylio ar YouTube yma Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar gyfer 2023/24
"er gwybodaeth". Yn ogystal, gallai'r fideo gael ei lawrlwytho o'r ddolen hon neu gwyliwch ef ar YouTube yma. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariad ar y Rhaglen Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru "er
gwybodaeth". Cytunodd y cyfarfod y byddai'r Arweinwyr Strategol
yn cwrdd i drafod cyfranogaeth y BGC yn y rhaglen. |