Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2024-2025. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe. Cofnodion: Penderfynwyd: 1) y dylid ethol y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024-2025. |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2024-2025. Penderfyniad: Etholwyd Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cofnodion: Penderfynwyd: 1) y
dylid ethol Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024-2025. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddariadau ar yr 8 cam yng Nghynllun Gweithredu'r BGC 2024-2025. PDF 624 KB · Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe (Karen Stapleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) ·
Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur Abertawe (Hywel Manley, Cyfoeth Naturiol Cymru) · Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn ffyniannus (Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) ·
Datblygu cynnig diwylliannol integredig
Abertawe (Mark Wade, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe, a chysylltu â hwy (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd pob un
o’r partneriaid ddiweddariad ysgrifenedig a llafar ar yr 8 cam yng Nghynllun
Gweithredu BGC 2024/25: ·
Trawsnewid
gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar ar draws Abertawe (Karen Stapleton, BIPBA) · Adeiladu
ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) · Gweithio
tuag at darged sero net Abertawe ac adfer natur (Huwel Manley, CNC) ·
Gwneud
Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy ffyniannus (Roger Thomas/David Morgans, Gwasanaeth Tân ac Achub CGC) · Datblygu Cynnig Diwylliannol Integredig
Abertawe (Mark Wade/Tracey McNulty, Cyngor Abertawe) · Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill
ar draws rhanbarth Bae Abertawe a chysylltu â hwy (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) ·
Gwella
ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe
(Lee Wenham, Cyngor Abertawe) ·
Datblygu
trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe (Lee Wenham, Cyngor Abertawe) Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) Yn nodi'r diweddariadau. |
|
Adroddiad Arolwg Mapio Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur (Mawrth 2024). PDF 266 KB Jane Richmond / Helen Grey Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar restru’r camau gweithredu a awgrymwyd yn ôl blaenoriaeth. Cofnodion: Gofynnodd
Grŵp Llofnodwyr Gweithredu Dros Newid yn yr Hinsawdd a Natur Abertawe
(sy'n gweithredu fel grŵp cyflawni Amcanion Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer
Natur BGC Abertawe) am gymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Arolwg Mapio Newid yn
yr Hinsawdd ac Adfer Natur (Mawrth 2024). Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) yn cymeradwyo'r adroddiad, yn amodol ar ystyried y camau gweithredu a awgrymir ar dudalen 61 yn nhrefn blaenoriaeth. |
|
Model Llywodraethu Rhanbarthol ar gyfer Tlodi Plant. PDF 91 KB Lee Cambule Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi gynnig ar gyfer cais am gyllid rhanbarthol i
Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) yn cefnogi’r cais a amlinellir yn Atodiad A ac yn cefnogi gweithrediad y prosiect, os yw’n llwyddiannus. |
|
Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus 2024/25. PDF 121 KB Lee Wenham Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad i
amlinellu sut y byddai cymorth dyranedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei flaenoriaethu yn BGC Abertawe i wella eu
gallu strategol a’u gallu i gefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau lles. Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) yn nodi sut y byddai cymorth dyranedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei flaenoriaethu yn BGC Abertawe i wella eu gallu strategol a’u gallu i gefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau lles. |
|
Llythyr oddi wrth Bwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 150 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu i Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe “er gwybodaeth”. Roedd y llythyr yn cynnwys adborth ar berfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024. |
|
Sleidiau Cyflwyniad: Taith Ddysgu Caffael - Bwyd lleol ar y plât cyhoeddus. PDF 3 MB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Sleidiau Cyflwyniad: Darparwyd Taith Ddysgu Caffael - Bwyd Lleol ar y Plât Cyhoeddus “er gwybodaeth”. |