Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 8
Chwefror 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid
i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y
cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â
chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2023/2024. PDF 103 KB Ness Young, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyngor Abertawe adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad
drafft arfaethedig y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer 2023/24. Darparodd pob un
o'r partneriaid adroddiad cynnydd llafar hefyd ar chwarter 4 cynllun gweithredu
2023-24. Roedd fideo o'r
adroddiad blynyddol yn cael ei gynhyrchu ac awgrymwyd y dylid cynnwys rhywfaint
o gyd-destun neu gyflwyniad ar gyfer rhai o'r ffotograffau yn yr adroddiad. Penderfynwyd: 1)
Bod y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y BGC ar gyfer 2023/24 hyd
yma, yn amodol ar unrhyw sylwadau terfynol a dderbyniwyd gan aelodau ac yn
cytuno i dderbyn cynnwys ychwanegol drwy e-bost i gwblhau'r adroddiad. 2) Bydd copi o'r adroddiad terfynol yn cael
ei gyflwyno i'r BGC yn y dyfodol er gwybodaeth. |
|
Panel Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mai 2024. (Ar lafar) Ness Young, Cyngor Abertawe Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Atgoffodd Ness
Young, Cyngor Abertawe bartneriaid y byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd y BGC yn
mynd i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 14 Mai yn unol â'r gofyniad
statudol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cytunwyd y
byddai'r BGC yn rhannu Adroddiad Blynyddol drafft y BGC ar gyfer 2023/24 a
Chynllun Gweithredu drafft y BGC ar gyfer 2024/25 â Phwyllgor y Rhaglen Graffu. |
|
Cynllun Gweithredu Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2024/25. PDF 101 KB Ness Young, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyngor Abertawe adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer camau
gweithredu arfaethedig 2024/25 a nodir yn y Cynllun Gweithredu Drafft. Gofynnodd Chris Truscott,
Heddlu De Cymru i'r BGC ystyried gwaith ategol i gydleoli staff y Cyngor a
Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol yr Heddlu, sy'n cyd-fynd â Cham 4 Cynllun
Lles y BGC, Cymunedau cryf - "Adeiladu cymunedau cydlynol a chadarn
gydag ymdeimlad o falchder a pherthyn" Trafododd y Bwrdd rôl BGC ar y
cyd Abertawe a CNPT ac a oedd hynny'n fwy priodol ac er y cytunwyd bod hwn yn
ddyhead tymor hwy synhwyrol ar hyn o bryd, roedd y BGC yn fwy priodol oherwydd
i ddechrau, ffocws y gwaith fyddai sefydlu tîm wedi'i leoli ar y cyd yn
Abertawe (mae un sydd eisoes ar waith yn CNPT). Cytunodd y Bwrdd i adeiladu prosiect cydleoli'r
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o dan Gam 4, ar yr amod bod y manylion yn cael
eu datblygu, eu trafod a'u cytuno gydag Arweinydd Strategol Cam 4, Roger
Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Penderfynwyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus: 1) Yn cymeradwyo'r cynllun Gweithredu Drafft
ar gyfer 2024/25, yn amodol ar ychwanegu camau gweithredu dan gam 4 sy'n
ymwneud â chydleoli staff diogelwch cymunedol y Cyngor a'r Heddlu. 2) Yn cytuno i dderbyn adroddiadau diweddaru
chwarterol ar y cynllun gweithredu fel eitem sefydlog yng nghyfarfodydd y BGC
yn y dyfodol. |
|
Eitemau'r Agenda ar gyfer y Dyfodol. (Ar lafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd am eitemau agenda ar gyfer cyfarfodydd gan bartneriaid yn y
dyfodol. Awgrymwyd yr eitemau canlynol: ·
Adnewyddu Cylch Gorchwyl y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol; ·
Caiff cyflwyniad manylach gan un neu ddau o
arweinwyr y Camau ei ddarparu ym mhob un o'r cyfarfodydd chwarterol; ·
Cyflwyniad ar Glystyrau Meddygon Teulu. |
|
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - Newidiadau i Ymateb i alwadau Canfod Tân Awtomatig. Cofnodion: Eglurodd Peter
Greenslade, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod taflen
wedi'i llunio mewn perthynas â newidiadau sy'n cael eu gosod o 1 Gorffennaf
2024 mewn perthynas â'r ffordd y byddant yn ymateb i alwadau sy'n cael eu
derbyn o Ganolfannau Derbyn Larymau. Byddai'r daflen yn cael ei
chylchredeg i bartneriaid drwy e-bost ond gellid cael rhagor o fanylion drwy eu
gwefan neu drwy gysylltu â'r Prif Swyddog Tân neu ef ei hun. |
|
Rhaglen Llunio Lleoedd yng Nghymru. Cofnodion: Atgoffodd Karen Stapleton bartneriaid o'r cais yn y cyfarfod diwethaf mewn
perthynas â'r "Rhaglen Llunio Lleoedd yng Nghymru" ac i roi gwybod i
Jennifer Davies a oeddent am fwrw ymlaen â'r lleoedd sydd ar gael. |