Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

18.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

19.

Diweddariad ar gynllun Gweithredu BGC Ch3 2023/24 Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarterol y BGC. pdf eicon PDF 193 KB

·                Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe   
(Karen Stapleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)  

  

·                Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol   
(Adele Dunstan/Ness Young, Cyngor Abertawe)  

  

·                Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur Abertawe   
(Hywel Manley, Cyfoeth Naturiol Cymru)   

  

·                Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn ffyniannus   
(Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru)  

  

·                Datblygu cynnig diwylliannol integredig Abertawe   
(Mark Wade, Cyngor Abertawe)  

  

·                Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws rhanbarth Bae Abertawe, a chysylltu â hwy   
(Ness Young/Richard Rowlands, Cyngor Abertawe)  

  

·                Gwella ansawdd a hygyrchedd data ar draws rhanbarth Bae Abertawe   
(Ness Young/Richard Rowlands, Cyngor Abertawe)  

  

·                Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe   
(Ness Young/Richard Rowlands, Cyngor Abertawe)  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ness Young, Cyngor Abertawe adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r camau gweithredu a'r cerrig milltir cysylltiedig a gynhwysir yng Nghynllun Gweithredu Lles y BGC ar gyfer 2023/24 yn chwarter 3 2023/24 a amlinellwyd yn Atodiad A.

 

Rhoddodd yr Arweinwyr Strategol ddiweddariad llafar ar gyfer pob un o'r 8 cam.

 

Penderfynwyd bydd y Bwrdd yn nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod chwarter 3 2023-24 a chytunwyd i dderbyn adroddiad diweddaru ar y cynllun gweithredu a'i gynnydd fel eitem sefydlog yn ystod cyfarfodydd y BGC yn y dyfodol.

20.

Rhaglen Llunio Lleoedd yng Nghymru.

Jennifer Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Jennifer Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad llafar ar y Rhaglen Llunio Lleoedd ar gyfer Lles yng Nghymru.

 

Esboniodd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llwyddo i sicrhau tair blynedd o gyllid gan raglen grantiau Llunio Lleoedd y Sefydliad Iechyd mewn partneriaeth â Chyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u timau. Roedd Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar lywodraethau lleol a phartneriaid lleol yn cymryd camau gweithredu ar draws y system ar benderfynyddion iechyd ehangach a rhaglenni ac roedd eisoes wedi'i sefydlu yn Lloegr a'r Alban.

 

Dywedodd fod dau brif ofyniad ar hyn o bryd:

·               Cofrestru diddordeb mewn cymryd rhan (fel BGC) a derbyn y gefnogaeth a gynigir drwy'r rhaglen genedlaethol hon i ddatblygu ein galluoedd o ran arwain systemau i gefnogi lles ein poblogaeth;

·               Ystyried pa themâu/meysydd y byddem yn elwa fwyaf o weithio trwyddynt/datblygu gan ddefnyddio'r cymorth hwn i'r rhaglen – gallai'r rhain fod y rhai a nodir neu ddewisiadau amgen.

 

Penderfynwyd anfon rhagor o fanylion am y cynllun at bartneriaid drwy e-bost i'w hystyried ymhellach.

21.

Llythyr oddi wrth Bwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 141 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y llythyr diweddaraf gan Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu er gwybodaeth.

 

Nodwyd bod y llythyr yn llawer mwy cadarnhaol oherwydd y gwaith a wnaed gan y partneriaid ers i'r llythyr blaenorol gael ei dderbyn.  

22.

Rhaglen Waith y Dyfodol:

·      Adroddiad Blynyddol y Bwrdd

·      Cynllunio Ardal Diweddariad ar glystyrau Meddygon Teulu

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith ar gyfer y dyfodol yn amodol ar ddileu Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal gan fod hyn bellach yn dod o dan drefniadau llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.