Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Abertawe, Gylch Gorchwyl
diweddaraf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i'w gymeradwyo. Gofynnwyd i’r
Bwrdd adolygu’r diwygiadau a wnaed a derbyn yr holl newidiadau a amlinellwyd yn
y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023. Penderfynwyd cymeradwyo'r cylch gorchwyl diweddaredig. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows. Questions must relate to items on the open part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddariadau ar yr 8 cam yng Nghynllun Gweithredu'r BGC 2023-24. PDF 175 KB ·
Trawsnewid gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws
Abertawe. ·
Adeiladu ar Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol. ·
Gweithio tuag at darged sero-net ac adferiad natur
Abertawe. ·
Gwneud Abertawe’n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy
ffyniannus. ·
Datblygu cynnig diwylliannol integredig Abertawe. ·
Dylanwadu ar drefniadau llywodraethu eraill ar draws
rhanbarth Bae Abertawe a chysylltu â hwy. ·
Gwella ansawdd data a hygyrchedd ar draws rhanbarth Bae
Abertawe. ·
Datblygu trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd ac Cymeradwywyd.. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariad ar ddatblygiad cynllun gweithredu 2023-24 a’r cynnydd ar y camau
hyd yma. Amlinellwyd, ers
cyfarfod diwethaf y Bwrdd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fod y camau yn y
cynllun gweithredu wedi’u symud ymlaen. Roedd adroddiad yr Arweinwyr Strategol
yn Atodiad A yn egluro'r cynnydd ar eu camau. Ychwanegwyd y
byddai'r eitem yn cael ei chyflwyno fel eitem safonol ym mhob cyfarfod ffurfiol
y bwrdd. Cyflwynir
amserlen a phroses arfaethedig ar gyfer datblygu camau gweithredu ar gyfer
2024-25 a thu hwnt i'r BGC yng nghyfarfod olaf y BGC ar gyfer 2023-24. Penderfynwyd: 1)
Nodi’r
cynnydd a wnaed yn chwarter 2 2023-24. 2) Bod adroddiad diweddaru ar y cynllun gweithredu a'i gynnydd yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol. |
|
Digwyddiad 'Cerdded yn ein 'sgidiau ni' ar 17 Hydref 2023. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Richard Felton, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (MWWFA),
ddiweddariad llafar ynghylch y digwyddiad ‘Cerdded yn ‘Sgidiau ni’ a drefnwyd
ar gyfer 17 Hydref 2023 yng Nghyfleuster Hyfforddi MWWFA Earlswood
yn Jersey Marine. |
|
Rhaglen Waith y Dyfodol: Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal Diweddariad ar glystyrau Meddygon Teulu Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd y rhaglen
waith ar gyfer y dyfodol. |