Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Andrea Lewis,
Cyngor Abertawe yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. Bu'r Cynghorydd Andrea Lewis (Cadeirydd) yn
llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol Roger Thomas, Gwasanaeth Tân
ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2023-2024. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023 fel cofnod cywir |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad ar Gynllun Gweithredu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. PDF 175 KB a. Cynllun terfynol b. Adroddiad Cynnydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r BGC ar ddatblygiad cynllun
gweithredu 2023-24 ac amlinellodd y cynnydd ar y camau gweithredu hyd yn hyn. Amlinellodd ers
cyfarfod diwethaf y BGC a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023, penderfynwyd ar gynllun
gweithredu ac atodwyd hwnnw i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn Atodiad A. Cyflwynodd Ness
Young, Nerissa Vaughan, Roger Thomas a Helen Gray yr wybodaeth ddiweddaraf ar
lafar i'r BGC ar y camau gweithredu amrywiol a gymerwyd, y canlyniadau dymunol
a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â'r dyddiadau cerrig milltir ar gyfer
cyflawni'r cynnydd gyda'r wyth maes a nodwyd yn y cynllun, yn bennaf ·
Cefnogi
trawsnewid Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn Abertawe i ddarparu cefnogaeth
well i blant er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt; ·
Adeiladu
ar ddatganiad Abertawe yn 2022 o fod yn Ddinas Hawliau Dynol; ·
Gweithio
tuag at darged sero net Abertawe ac adfer natur; ·
Gwneud
Abertawe'n fwy diogel, yn fwy cydlynol ac yn fwy ffyniannus; ·
Datblygu
Cynnig Diwylliannol Integredig Abertawe; (Bydd Ness Young yn darparu rhagor o
fanylion i'r BGC ynghylch cam gweithredu rhif dau ac yn esbonio a oedd y cam yn
GOCH mewn gwirionedd, ac os felly, pam?) ·
Dylanwadu
ar drefniadau llywodraethu eraill a'u cysylltu ar draws rhanbarth Bae Abertawe;
·
Gwella
ansawdd data a hygyrchedd ar draws rhanbarth Bae Abertawe; ·
Datblygu
trefniadau rheoli perfformiad BGC Abertawe sy'n mesur ac yn monitro cynnydd y
BGC Penderfynwyd y byddai'r Bwrdd yn gwneud y canlynol 1)
nodi'r
cynnydd a wnaed yn ystod chwarter 1 2023-24. 2)
cytuno
i dderbyn adroddiad diweddaru ar feysydd y cynllun gweithredu a'i gynnydd fel
eitem sefydlog yn ystod cyfarfodydd y BGC yn y dyfodol. |
|
Pwysau Iach, Cymru Iach (Iechyd Cyhoeddus Cymru). PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd Ness
Young y cylch gorchwyl diwygiedig a ddiweddarwyd a manylwyd arnynt ar gyfer y
BGC yn dilyn newidiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn eu
hadolygu a'u cymeradwyo. Nododd y byddai
angen diwygiadau bach pellach ar y diagram a gynhwysir o fewn yr atodiad. Penderfynwyd ar y canlynol 1)
cytuno
ar y cylch gorchwyl diwygiedig a'u mabwysiadu. 2)
rhoi'r
awdurdod dirprwyedig i Ness Young newid y diagram a gynhwysir o fewn yr
atodiad. |
|
Rhaglen Waith y Dyfodol. · Adroddiad Blynyddol y Bwrdd · Cynllunio Ardal Diweddariad ar glystyrau Meddygon Teulu Cofnodion: Nodwyd y
Blaenraglen Waith. |