Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid llofnodi a chymeradwyo cofnodion
Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 9 Chwefror
2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim.. |
|
Cyflwyniadau - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Derick Walker Penderfyniad: Nodwyd.. Cofnodion: Cyflwynodd Derek Walker,
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei hun i'r Pwyllgor, gan amlinellu ei
gefndir, y cynnydd y mae wedi'i wneud ers ei benodiad, gofynion y rôl a sut yr
oedd yn bwriadu canolbwyntio ar ganlyniadau. Pwysleisiodd
themâu cyffredin o fewn cyrff cyhoeddus, gan rannu arfer da, sicrhau bod gan y
BGC ddulliau/fframweithiau cyson, cydweithredu effeithiol, dysgu ar y cyd a
chanolbwyntio'n ddyfnach ar lai o faterion. Nododd y byddai'n
cyhoeddi ei gynlluniau ym mis Hydref 2023. Croesawodd y
Pwyllgor yr her i'r sector cyhoeddus, eiriolaeth ac elfennau hwylusydd y rôl.
Amlygwyd cysondeb y BGC hefyd a dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod o
Gadeiryddion y BGC yn ddatblygiad buddiol. Diolchodd y
Cadeirydd i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am fynychu'r cyfarfod. |
|
Cynllun Lles Lleol ar gyfer Cymeradwyaeth Terfynol. PDF 6 MB Ness Young Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Corfforaethol, Gynllun Lles Lleol
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023-2028 i'w gymeradwyo. Amlygodd fod y
cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan yr holl bartneriaid statudol ac y byddai'n
cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis. Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Lles Lleol Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2023-2028. |
|
Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) Cynllun Gweithredu 2023-2024. PDF 235 KB Ness Young Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Ness
Young adroddiad a roddodd ddiweddariad i'r BGC ar ddatblygiad cynllun
gweithredu 2023-24 a chynigiodd y camau nesaf. Amlygodd Ness yr
8 cam a nodwyd a'r unigolion a oedd wedi gwirfoddoli i weithredu fel Arweinwyr
Strategol ar gyfer pob un ohonynt. Darparodd Atodiad A y camau gweithredu a
ddatblygwyd fel drafftiau cychwynnol gan yr Arweinwyr Strategol mewn
ymgynghoriad â phartneriaid statudol y BGC. Roedd y camau gweithredu'n ceisio
adlewyrchu cynnwys y Cynllun Lles a'r asesiad a oedd yn sail iddo. Cynigiwyd y
byddai Arweinwyr Strategol yn ymgysylltu ag aelodaeth ehangach y BGC i barhau i
weithio ar y camau gweithredu. Cynigiwyd hefyd
bod Swyddogion Arweiniol Strategol yn cyfarfod i sicrhau bod y camau
gweithredu'n cyd-fynd a sicrhau bod y cysylltiadau rhyngddynt yn cael eu mwyafu. Yn amodol ar gytundeb y BGC, byddai'r Swyddogion
Arweiniol Strategol yn anelu at gwblhau'r Cynllun Gweithredu erbyn diwedd mis
Mai er mwyn sicrhau y gellir dechrau ei weithredu o fewn chwarter cyntaf
2023-24. Nodwyd y
cynigiwyd bod Arweinwyr Strategol yn adrodd am gynnydd ar eu camau yn ystod pob
cyfarfod ffurfiol o'r BGC, unwaith y bydd y Cynllun Gweithredu wedi'i gwblhau.
Byddai trefniadau rheoli perfformiad manwl pellach yn cael eu datblygu o dan
Gam 8 ac fe'u cyflwynir i'r BGC yn hwyrach yn y
flwyddyn. Cyflwynir amserlen
a phroses arfaethedig ar gyfer datblygu camau gweithredu ar gyfer 2024-25 a thu
hwnt i'r BGC yn ystod cyfarfod y trydydd chwarter yn 2023-24. Gwnaeth y
Pwyllgor sylwadau ar y cynigion a phwysleisiwyd yr angen i osgoi dyblygu/unrhyw
fylchau. Penderfynwyd:- 1)
Nodi'r
sylwadau ar ddrafft cynllun gweithredu 2023-24 yn Atodiad A. 2)
Dylai
Arweinwyr Strategol ymgysylltu â holl gyfranogwyr y BGC ac aelodau'r Fforwm
Partneriaeth a wahoddir i weithio gyda nhw er mwyn cwblhau'r cynllun erbyn
diwedd mis Mai 2023. 3)
Cytuno
ar adroddiad diweddaru ar y cynllun gweithredu fel eitem sefydlog mewn
cyfarfodydd y BGC yn y dyfodol. |
|
Amlder y Cyfarfodydd/Cylch Gorchwyl. Ness Young Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Ness
Young ddiweddariad llafar ynghylch amlder cyfarfodydd a'r cylch gorchwyl. Ychwanegodd fod
angen adolygiad o'r cylch gorchwyl. Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol
yn chwarterol a thynnwyd sylw at yr angen i gynnal cyfarfodydd anffurfiol.
Trafodwyd diwygio'r teitl hefyd, yn enwedig gwaredu ar yr enw 'Cyd-bwyllgor'. Penderfynwyd:- 1)
Cynnal
cyfarfodydd chwarterol yn y dyfodol. 2)
Cynnal
cyfarfodydd anffurfiol rhwng cyfarfodydd chwarterol. 3)
Newid
y teitl i 'Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'. |
|
Fforwm Partneriaeth. Pawb Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Diweddarwyd y
pwyllgor ar y canlynol: - ·
Strategaeth
Iechyd y Boblogaeth Rhoddodd Keith
Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yr wybodaeth ddiweddaraf am
Strategaeth Iechyd y Boblogaeth (PHS), a gymeradwywyd gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2023. Amlinellodd y
gwahaniaethau y byddai'r Strategaeth yn eu gwneud i waith y Bwrdd Iechyd, yn enwedig
wrth ddangos ymrwymiad clir gan y Bwrdd i dargedu Egwyddorion Marmot. Amlygodd y 4 piler a nodwyd gan y Bwrdd i gefnogi'r
PHS fel a ganlyn: - 1)
Darparu
cynnig clinigol a buddion iechyd y boblogaeth. 2)
Gweithlu.
3)
Ymddygiad
fel endid corfforedig. 4)
Ymddygiad
o fewn partneriaethau. Ychwanegodd bod y
Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddatblygu'r Strategaeth, gan ganolbwyntio ar yr hyn
y gall ei wneud i'w boblogaeth a sut y gall weithio mewn partneriaeth â
sefydliadau eraill. ·
Cynllun
Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhannwyd y ddolen
ar gyfer Cynllun Corfforaethol CNC, a oedd wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar gan y
Pwyllgor. Diolchodd y
Cadeirydd i'r sefydliadau am eu diweddariadau. |
|
Rhaglen Waith y Dyfodol: Cerdded yn
ein 'sgidiau ni; Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal; Diweddariad ar Glystyrau Meddygon Teulu. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparwyd y
rhaglen waith ar gyfer y dyfodol er gwybodaeth. |
|
Dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol: 13.07.2023 12.10.2023 11.01.2024 25.04.2024 Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparwyd
dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol er gwybodaeth. |