Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

41.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid llofnodi a chymeradwyo cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

42.

Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. pdf eicon PDF 94 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd y cofnod gweithredu.

43.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau cyhoeddus.

44.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel 2022, 1 Ionawr 2022 - 31 Rhagfyr 2022. pdf eicon PDF 190 KB

Paul Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Paul Thomas, Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Gymunedol, ddatganiad blynyddol o waith Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn ystod 2022 fel rhan o'r trefniadau llywodraethu trosgynnol.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi Datganiad Blynyddol Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

45.

Pwysau Iach Cymru Iach. (Llafar)

Keith Reid

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, adroddiad ar y rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach.

 

Roedd y Rhaglen Ymagwedd Systemau Cyfan Pwysau Iach: Cymru Iach (YSC PICI) yn rhaglen gydweithredol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru,  Cyfarwyddwyr y Grŵp Arweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Byddai'r System Ymagwedd Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru yn edrych i'r tymor hir a byddai strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru yn sail iddi.

 

Roedd y rhaglen yn rhan o raglen genedlaethol ond byddai'r rôl ar lefel leol yn adeiladu ar berthnasoedd a phartneriaethau lleol a chysylltiadau gyda chymunedau lleol i roi newid ar waith a'i ysgogi. Byddai'r ymagwedd yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu ar asedau a chyfleoedd lleol a chryfhau cynghreiriau traws-sector.

 

Byddai'r gwaith yn cael ei wneud gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol, i ddeall y system a'r cyfleoedd am newid yn well. Roedd y broses yn ceisio datgelu'r strwythurau a'r nodau o fewn system benodol.

 

Roedd y Cyd-bwyllgor hefyd wedi darparu manylion am raglenni eraill a gynhaliwyd mewn cymunedau, y gallai canlyniadau'r rheini helpu tîm y rhaglen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Reid am ei gyflwyniad addysgiadol.

46.

Y diweddaraf am y Cynllun Lles Lleol. (Llafar)

Suzy Richards

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Suzy Richards, y Swyddog Polisi Cynaliadwy, ddiweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn mewn perthynas â datblygiad y Cynllun Lles Lleol.

 

Roedd y cynllun yn parhau i ddatblygu a byddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a byddai'r Cyd-bwyllgor yn derbyn yr ailadroddiad diweddaraf o'r cynllun yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

Er bod disgwyl i ychydig o bartneriaid gyflwyno ymatebion o hyd, rhoddwyd yr holl ymatebion ar waith cyn gynted ag yr oeddent wedi'u derbyn. Fodd bynnag, nodwyd bod ymatebion wedi bod yn siomedig o isel o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Trefnwyd gweithdy ar gyfer 15 Chwefror er mwyn i bartneriaid benderfynu ar y newidiadau/sylwadau/ychwanegiadau terfynol.

 

Cynhaliwyd tri gweithdy. Caiff yr arian rhanbarthol ei ddefnyddio i gyfieithu'r cynllun a fersiwn hawdd ei darllen, ynghyd â fideo digidol a fyddai hefyd yn cael ei gynhyrchu a byddai delweddau a theiposod yn cael eu diweddaru. Cytunwyd y gellir cytuno ar yr ymholiad ynghylch brandio gan yr holl bartneriaid drwy e-bost.

47.

Fframwaith Perfformiad/Adroddiadau Amlygu o'r 4 ffrwd waith. pdf eicon PDF 460 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd y Fframwaith Perfformiad/Adroddiadau Amlygu o'r 4 ffrwd waith.

48.

Cefnogaeth ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus 2023-2024 i 2025-2026. pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Er gwybodaeth. Fodd bynnag, gan fod angen penderfyniad o fewn yr ychydig wythnosau nesaf mewn ymateb i'r llythyr, nodwyd y cynhelir trafodaethau pellach yn ystod y gweithdy a drefnwyd ar gyfer 15 Chwefror.

49.

Rhaglen Waith ar gyfer y dyfodol:

·                    Cerdded yn ein ‘sgidiau ni

·                    Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol.