Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw
ddatganiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd
y dylid
cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyd-bwyllgor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Abertawe a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2022 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf ar Gamau Gweithredu o'r Cyfarfod Blaenorol. Penderfyniad: Heb ei drafod. Cofnodion: Ni thrafodwyd yr
eitem. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n
rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau
Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddaraf am y Cynllun Lles Lleol. PDF 110 KB Suzy Richards, Cyngor Abertawe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Suzy Richards,
Cyngor Abertawe, ddiweddariad ar y Cynllun Lles Lleol i'w gyhoeddi gan Fwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) ym mis Mai 2023. Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod eu presenoldeb ym Mhwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022. |
|
Fframwaith Perfformiad/Adroddiadau Amlygu o'r 4 ffrwd waith. PDF 468 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Roger
Thomas ddiweddariad ar yr adroddiad amlygu Cymunedau Cryfach. Rhoddodd Hamish
Osborne ddiweddariad ar yr adroddiad amlygu Gweithio gyda Natur. Cofnodwyd yr adroddiadau amlygu eraill. |
|
Ymgysylltu. (Trafodaeth) Penderfyniad: Trafodwyd. Cofnodion: Dywedodd Suzy Richards,
Cyngor Abertawe, y byddai'r ymgynghoriad ffurfiol ar y Cynllun Lles Lleol yn
dod i ben ar 14 Chwefror 2023. Gwnaed
cais i'r ymgynghoriad fod ar gael mewn digwyddiadau yn y dyfodol a drefnwyd gan
bartneriaid gyda'u defnyddwyr gwasanaeth. Cam gweithredu: Leanne Ahern i e-bostio'r holl bartneriaid. |
|
Adnoddau a rennir - ymateb i Lywodraeth Cymru - 14 Hydref 2022. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth. |
|
Rhaglen Waith ar gyfer y dyfodol: ·
Y diweddaraf am y Cynllun Lles; ·
Adborth o'r Pwyllgor Craffu; ·
Adroddiad Blynyddol
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel; · Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynllunio Ardal. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Er gwybodaeth. |