Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 299 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

37.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

38.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

39.

Y diweddaraf am y Matrics Arloesi a'r Ardal Arloesi. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Walsh, Uwch-swyddog Cyfrifol Matrics Arloesedd a Geraint Flowers, Arweinydd Prosiect Matrics Arloesedd adroddiad "Er Gwybodaeth" i roi'r diweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ar gynnydd y Prosiect Matrics Arloesedd a chanlyniadau'r Adolygiad Gateway allanol diweddar.

40.

Blaengynllun Gwaith y Cydbwyllgor. pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burns, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD) adroddiad i roi gwybod i'r Cyd-bwyllgor am y Blaengynllun Gwaith diweddaraf.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cynigiodd y Cyd-bwyllgor y dylid cymeradwyo'r Blaengynllun Gwaith yn Atodiad A yn amodol ar drafodaethau pellach ynghylch cyfleoedd ariannu ar gyfer prosiectau.

41.

Monitro Ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023/24 - Sefyllfa Alldro Dros dro ar gyfer Chwarter 3 (Hydref - Rhagfyr 2023). pdf eicon PDF 805 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151 Bargen Ddinesig Bae Abertawe, adroddiad i'r cyd-bwyllgor i roi’r diweddaraf iddynt am sefyllfa ariannol ddiweddaraf dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo adroddiad Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n rhoi’r diweddaraf am fonitro ariannol.

42.

Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023/24. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burns, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad "er gwybodaeth" i hysbysu’r Cyd-bwyllgor o Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i raglenni/brosiectau cyfansoddol.