Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 300 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

24.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau canlynol:

 

a)             Cydymdeimladau - Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Huw Mowbray. Huw oedd Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol y cyngor. Roedd Huw yn ffrind ac yn gydweithiwr arbennig o dda i lawer ac fe'i parchwyd yn fawr gan Gynghorwyr a Swyddogion am ei ymroddiad a'i broffesiynoldeb.

 

Am nifer o flynyddoedd helpodd Huw i lywio'r gwaith o adfywio Canol y Ddinas ac fe'i parchwyd yn fawr iawn gan ein Partneriaid a'n Datblygwyr. Mae effaith Huw ar y ddinas i'w gweld heddiw yn y datblygiadau niferus sydd wedi helpu i drawsnewid Canol y Ddinas.

 

Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Huw.

 

b)             Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Elwen Evans, aelod cyfetholedig newydd arfaethedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Judith Hardisty, cyfetholedig newydd arfaethedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'r pwyllgor.  

25.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

26.

Aelodau Cyfetholedig Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. pdf eicon PDF 117 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Debbie Smith, Dirprwy Swyddog Monitro, i adolygu a chytuno ar aelodau cyfetholedig argymelledig y Cydbwyllgor.

 

Penderfynwyd bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo penodi:

 

1)             Yr Athro Elwen Evans fel yr Aelod Cyfetholedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant newydd;

2)             Judith Hardisty fel yr Aelod Cyfetholedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda newydd.

27.

Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2023-24. pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Matthew Holder, Pennaeth Archwilio Mewnol, adroddiad i ystyried a chymeradwyo'r Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2023-24.

28.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jason Blewitt, Archwilio Cymru, yr adroddiad archwilio cyfrifon (Safon Ryngwladol ar Archwilio 260) ar gyfer 2022/23 mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn archwiliad Archwilio Cymru o'r Adroddiad Datganiad o Gyfrifon 2022/2023 ar gyfer Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

29.

Datganiadau Ariannol 2022/23. pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ôl-archwiliad 2022/2023.

30.

Llythyr Sylwadau. pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Moore, Swyddog Adran 151, adroddiad "Er Gwybodaeth" er mwyn cael cydnabyddiaeth ffurfiol y Cyd-bwyllgor o Lythyr Sylwadau Swyddog Adran 151 Bargen Ddinesig Bae Abertawe i Archwilio Cymru.

 

Bydd y llythyr yn cael ei lofnodi gan y Swyddog Adran 151 a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn dilyn y cyfarfod.

31.

Y Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel - Cais am newid i gynnwys y Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero-net Genedlaethol. pdf eicon PDF 568 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Pearce, gyda chefnogaeth Lisa Willis a Jane Lewis, adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor ar gyfer cais am newid er mwyn i'r Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel (SILCG) ymgorffori'r Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol (NZSCoE) yn y prosiect Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch (AMPF) cymeradwy.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r Cais am Newid yn Atodiad A ar gyfer ymgorffori'r Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol yn y rhaglen SILCG fel y nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol yn Atodiad B.

32.

Monitro Ariannol Chwarterol Ch2 2023/24. pdf eicon PDF 802 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Darparodd Chris Moore, Swyddog Adran 151, ddiweddariad ar sefyllfa ariannol ddiweddaraf Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad diweddaru am fonitro ariannol.

33.

Monitro Portffolio Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA), adroddiad “Er Gwybodaeth” i hysbysu'r Cyd-bwyllgor o Adroddiad Monitro Chwarterol BDdBA ar gyfer portffolio BDdBA a'r rhaglenni/prosiectau sy'n rhan ohono.

34.

Diweddariad ar Werth Ychwanegol Gros ar gyfer Monitro a Gwerthuso Portffolio. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe adroddiad “Er Gwybodaeth” i ddweud wrth y Cyd-bwyllgor fod cadarnhad wedi’i dderbyn gan Lywodraethau nad yw’n ofynnol i bortffolio BDdBA olrhain na chysylltu'r Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) fel rhan o'i waith monitro ac adrodd rheolaidd.

 

Mae'r pwyllgor yn nodi:

 

1)             Y cadarnhad gan Lywodraethau nad yw'n ofynnol i'r portffolio fonitro a phriodoli GVA i ymyriadau rhaglenni a phrosiectau;

2)             Bydd Swyddfa Rheoli Portffolio BDdBA yn gweithio gyda rhaglenni a phrosiectau i ddatblygu metrigau economaidd CAMPUS amgen a phriodol ar gyfer monitro a gwerthuso.