Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Amlygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes (Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyd-bwyllgor am gynnydd y gwahanol raglenni a
phrosiectau sy'n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Amlinellodd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r meysydd canlynol: ·
Isadeiledd
digidol ·
Prosiect
Morol Doc Penfro ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer ·
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel ·
Campysau
Gwyddor Bywyd a Lles ·
Pentre
Awel ·
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau ·
Sgiliau
a doniau · Yr Egin |
|
Archwilio Cymru - Archwiliad Allanol 2020/2021. PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jason Garcia (Archwilio Cymru) adroddiad a oedd yn cyflwyno cynllun arfaethedig
a chwmpas Archwiliad Allanol 2020-21 Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â
Datganiad o Gyfrifon Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo cynllun arfaethedig a chwmpas Archwiliad
Allanol 2020-21 Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â Datganiad o Gyfrifon
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Adborth o Ddigwyddiad Caffael Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (Ar lafar) Cofnodion: Cyflwynodd
Peter Austin (Swyddfa Ranbarthol Dinas-Ranbarth Bae Abertawe) adroddiad ar
lafar a oedd yn rhoi adborth o'r Digwyddiad Caffael a gynhaliwyd ar 24 Mawrth
2021. |