Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU
ynglŷn â'r trefniadau ariannu carlam newydd ar gyfer y Fargen Ddinesig.
Bydd hyn yn caniatáu i arian gael ei dderbyn ar gyfer cynlluniau yn llawer gyflymach nag o'r blaen. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol - Swydd Rhagolwg Bargen Dinas Bae Abertawe. PDF 895 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Chris Moore (Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn
hysbysu'r Cyd-bwyllgor o'r sefyllfa alldro a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn
mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor a'r Gronfa Buddsoddi mewn Portffolio. Penderfynwyd y dylid derbyn
a chymeradwyo cyfrifon blynyddol y Cyd-bwyllgor a'r sefyllfa alldro a ragwelir
ar gyfer y Gronfa Buddsoddi mewn Portffolio. |
|
Adroddiad Amlygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes (Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth
Bae Abertawe) adroddiad "er gwybodaeth"
a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyd-bwyllgor am gynnydd y gwahanol
raglenni a phrosiectau sy'n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Amlinellodd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r meysydd canlynol: ·
Isadeiledd
digidol ·
Prosiect
Morol Doc Penfro ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer ·
Cefnogi
Arloesedd a Thwf Carbon Isel ·
Campysau
Gwyddor Bywyd a Lles ·
Pentre
Awel ·
Ardal
Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau ·
Sgiliau
a Doniau ·
Yr
Egin |
|
Recriwtio mewn Perygl. PDF 593 KB Cofnodion: .Cyflwynodd Chris Moore (Swyddog Adran 151
Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r
Cyd-bwyllgor mewn perthynas â'r risgiau o recriwtio staff ar gyfer rhaglenni
rhanbarthol, cyn cymeradwyo achosion busnes. Amlinellodd yr
opsiynau a'r cynigion ar gyfer rhannu'r risgiau ymysg y pedwar awdurdod. Penderfynwyd 1) adolygu a
nodi cynnwys yr adroddiad. 2) bod
argymhellion arfaethedig y swyddog o ran opsiwn 2 ac opsiwn B (yr adroddiad)
mewn perthynas â'r risgiau sy'n gysylltiedig â recriwtio timau rheoli rhaglenni
rhanbarthol cyn cymeradwyo achosion busnes yn cael eu cymeradwyo. |
|
Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Phil
Ryder (Rheolwr y Swyddfa Rheoli Portffolio)
ddiweddariad llafar i'r Cyd-bwyllgor a oedd yn amlinellu bod naratif yr
adroddiad wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau, Swyddogion a Phartneriaid er mwyn
iddynt wneud sylwadau erbyn 18 Mawrth 2021. Yn yr adroddiad mae adolygiad o'r
deuddeg mis diwethaf o weithgareddau, gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer y
deuddeng mis nesaf, adroddiadau cynnydd o bob un o'r prosiectau, diweddariad
i'r strwythur llywodraethu, crynodeb risg a gwybodaeth monitro a gwerthuso. Yn dilyn sylwadau ac adborth,
gellir cwblhau'r adroddiad a'i gynllunio'n broffesiynol cyn bwriadu ei ryddhau
ym mis Mai. |
|
Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 576 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Burnes (Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth
Bae Abertawe) ac Ian Williams (Rheolwr Datblygu
Portffolio) adroddiad a oedd yn darparu Achos Busnes Portffolio'r Fargen
Ddinesig wedi'i ddiweddaru i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried a'i gymeradwyo. Mae'n ofynnol
cyflwyno'r ddogfen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Amlinellwyd a
chyfeiriwyd at y meysydd canlynol a gynhwysir gyda'r ddogfen: ·
Diben yr adroddiad a'r model 5 achos; ·
Prif newidiadau; ·
Hyfywedd economaidd; ·
Crynodeb o'r Buddsoddiad a'r Effaith; ·
Fforddadwyedd; ·
Tebygolrwydd o gyflawni; ·
Llinell amser a chynnydd y prosiect; ·
Blaenoriaethau wrth symud ymlaen: Nodwyd y dylid
ystyried yr adroddiad ar y cyd ag eitem 12 yr agenda sy'n rhoi atodiadau
masnachol sensitif ychwanegol i'r Cyd-bwyllgor o ran fersiwn ddiweddaraf Achos
Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig. Penderfynwyd y dylid
cymeradwyo fersiwn ddiweddaraf Achos Busnes Portffolio BDBA a'i chyflwyno i
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 285 KB Cofnodion: Gofynnwyd
i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd
y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Ian
Williams (Rheolwr Datblygu Portffolio)
adroddiad "er gwybodaeth" a ystyriwyd ar y cyd ag eitem 10 ar yr
agenda. Roedd yr adroddiad yn rhoi atodiadau
masnachol sensitif ychwanegol i'r Cyd-bwyllgor o ran fersiwn ddiweddaraf Achos
Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig, y cytunwyd arni. |