Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion canlynol cyfarfod
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel cofnod cywir: 1)
14 Ionawr 2021. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gyhoeddiadau gan yr Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol. PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jo
Hendy (Archwilio Mewnol, Cyngor Sir Penfro) adroddiad a oedd yn ceisio
ystyriaeth a chymeradwyaeth ar gyfer Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol ar gyfer
2020/2021. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol 2020-2021. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr
Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad er gwybodaeth a
oedd yn amlinellu Adroddiad Monitro Chwarterol Portffolio Dinas-ranbarth Bae
Abertawe a'i raglenni / ddiweddariadau cyfansoddol. |
|
Gweithdrefn Rheoli Newid Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Rhanbarth Dinas Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad, a
oedd yn cynnig Gweithdrefn Rheoli Newid addas at y diben ar gyfer adrodd am a
chymeradwyo gofynion newid y rhaglenni a'r prosiectau cysylltiedig yn
Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
weithdrefn Rheoli Newid a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad mewn egwyddor. 2) Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Swyddfa Bortffolio/Swyddog Adran 151 wneud unrhyw newidiadau pellach i'r Weithdrefn. |
|
Gwerthusiad o sut y Llywodraethwyd Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr
Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad a oedd yn
amlinellu'r Gwaith Gwerthuso Llywodraethu ac yn cyflwyno argymhellion i'w
hystyried. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
adroddiad Gwella Llywodraethu sy’n atodedig i Atodiad
A yr adroddiad mewn egwyddor. 2)
Gwneud
gwaith pellach i roi'r argymhellion ar waith. |