Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo'r cofnodion
canlynol o gyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel cofnod cywir: 1)
7 Rhagfyr 2020. |
|
Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dyfarniad Cyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 y Cydbwyllgor (Chris Moore) adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer Llythyr Dyfarnu Cyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
a Thelerau ac Amodau cysylltiedig. Penderfynwyd cymeradwyo Llythyr Dyfarnu Cyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a Thelerau ac Amodau cysylltiedig fel y'u hatodir yn Atodiad A i'r adroddiad yn amodol ar gymeradwyaeth y pedwar awdurdod cyfansoddol. |
|
Cynllun Gweithredu Adolygiad y Swyddog Cyfrifyddu (ASC). PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar y Cynllun
Gweithredu mewn ymateb i Adolygiad y Swyddog Cyfrifyddu ac argymhellion
Adolygiad Porth 0. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Y diweddaraf am Raglen/Brosiect(au) Bargen Ddinesig Bae Abertawe. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd
Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) yr wybodaeth
ddiweddaraf am Raglenni/Brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe: Isadeiledd
digidol i)
Cyflwynwyd
Achos Busnes i'w gymeradwyo gan Weinidogion ar 18 Rhagfyr 2020 gyda'r holl
ddogfennau ategol. Rydym yn aros am adborth. ii)
Rydym
am recriwtio adnodd ar gyfer y Rhaglen Isadeiledd Digidol a gwasanaethau
proffesiynol ar gyfer rhai o'r ffrydiau gwaith. Cyflwynir ceisiadau am gyllid i
ategu/ ychwanegu at yr hyn sy'n cael ei gyflwyno. Sgiliau a
Doniau i)
Caiff
newidiadau i'r Achos Busnes yn dilyn adolygiadau allanol eu cyflwyno yng
nghyfarfod y Bwrdd Portffolio ar 26 Ionawr 2021. ii)
Cynhelir
gweithdy Gwersi a Ddysgwyd ym mis Ionawr 2021. iii)
Cynhaliwyd
cyfarfod gyda datblygwr sector preifat sy'n awyddus i adeiladu tai gyda'r model
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) i rannu canolfan wybodaeth HAPS. iv)
Dechreuir
recriwtio cymorth ar gyfer y Rheolwr Prosiect (PM) yn gynnar ym mis Chwefror
2021 Ardal Ddigidol
Dinas Abertawe a'r Glannau i)
Mae
gwaith adeiladu'r arena yn mynd rhagddo. ii)
Mae
cynigwyr wedi gofyn am estyniad i gyflwyno ymatebion i’r tendr adeiladu ar
gyfer 71/72 Ffordd y Brenin y disgwylir iddo gau yn ystod yr ychydig wythnosau
nesaf. Edrychir o hyd ar ddyddiad adrodd ym mis Mawrth 2021. iii)
Trafodaethau
parhaus ynghylch gosodiadau ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin. Cafwyd diddordeb
cadarnhaol gan fusnesau. Disgwylir i benderfyniad y Cabinet ym mis Mawrth 2021
symud y cynllun yn ei flaen. iv)
Mae'r
cais cynllunio ar gyfer Pentref Blychau'n mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei
gyflwyno ym mis Chwefror 2021. Pentre Awel i)
Cyflwynwyd
Achos Busnes i'w gymeradwyo gan Weinidogion ar 13 Tachwedd 2020. ii)
Rydym
yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru/y DU. iii)
Byddwn
yn cael rhywfaint o adborth cychwynnol yr wythnos nesaf fel y gallwn ddechrau
symud ymlaen i'r cam datblygu cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol. Prosiect Morol
Doc Penfro i)
Mae
trafodaethau'n parhau rhwng Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (MHPA) a Chyngor
Sir Penfro ynghylch y cytundeb ariannu a newidiadau i weithgarwch y prosiect
oherwydd oedi wrth gyflawni’r prosiect. ii)
Rydym
yn gobeithio am gytundeb/lofnodiad yn y dyddiau nesaf a'r bwriad yw y bydd
Cyngor Sir Penfro'n cymeradwyo'r allbynnau, y
canlyniadau a'r effeithiau'n lleol yn unol â'r cytundeb dyfarnu cyllid gan nad
oes unrhyw effaith andwyol ar fuddion y portffolio. Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel i)
Cyflwynwyd
Achos Busnes yn anffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio (PoMO)
ar gyfer sylwadau ym mis Rhagfyr 2020. Disgwylir ei gyflwyno’n ffurfiol i'w
adolygu ar 1 Chwefror 2021. ii)
Rydym
yn gweithio gydag economydd i adolygu'r Achos Economaidd yn unol â'r Llyfr
Gwyrdd diwygiedig. iii)
Disgwylir
mynd i gyfarfod y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) ym mis Chwefror 2021 i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd. Campysau
Gwyddorau Bywyd a Lles i)
Cyflwynwyd
Achos Busnes Amlinellol yn anffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio (PoMO) ym mis Rhagfyr 2020 er mwyn cael adborth arno. ii)
Parheir
i ymgysylltu â’r ymgynghorwyr a benodwyd (Grant Thornton) iii)
Cynhyrchwyd
cynnwys fideo er mwyn cefnogi ymgysylltu a chyfathrebu iv)
Disgwylir
i ni fynd i gyfarfod y Bwrdd Strategaeth Economaidd (BSE) ym mis Chwefror 2021. Yr Egin i)
Mae'r
gwaith i gwblhau’r cytundeb ariannu ar fin digwydd ar gyfer Cam 1. ii)
Bwriedir
dyfarnu’r dadansoddiad o'r sector creadigol yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18
Ionawr 2021 i lywio Cam 2. iii) Mae tîm y rhaglen yn ystyried addasrwydd y datrysiad a gynigiwyd ar gyfer cyflawni Cam 2 ac a yw'r ateb hwn yn darparu'r budd mwyaf posibl i fodloni'r gofynion presennol. Mae'n bosibl y bydd y datrysiad ar gyfer cyflawni'n newid, ond ni fydd y canlyniadau a'r buddion a amlygwyd yn yr achos busnes yn newid. |