Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd Chris Moore, Ray Selby, Wendy Walters, Steve Wilks ac Emma Woollett gysylltiad personol â Chofnod 103 "Pentre Awel (Cyflwyniad) a Chofnod 105 "Achos Busnes Pentre Awel - gydag Adborth y Bwrdd Strategaeth Economaidd".

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 309 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 fel cofnod cywir.

3.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

1)              Ynni’r Llanw ym Mae Abertawe

 

Mynegodd y Cadeirydd ei siom nad oedd Morlyn Llanw Bae Abertawe wedi mynd rhagddo; fodd bynnag, yn dilyn gwaith sylweddol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gobeithiai y byddai cyhoeddiad cadarnhaol yn cael ei wneud mewn perthynas ag Ynni’r Llanw ym Mae Abertawe maes o law.

 

2)              Glannau Digidol Abertawe

 

Dywedodd y Cadeirydd fod prosiect Glannau Digidol Abertawe yn mynd rhagddo'n dda a'i fod wedi'i enwi'n "Fae Copr". Trefnwyd y seremoni "gosod carreg gopa" yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

5.

Adroddiad Archwilio Mewnol. pdf eicon PDF 705 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Chris Moore) adroddiad a oedd yn rhoi gwybod am ganfyddiadau a chamau gweithredu adolygiad archwilio mewnol i Raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y dylid nodi canfyddiadau a chamau gweithredu'r adolygiad archwilio mewnol i Raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

6.

Cydbwllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dyddiadau yn y Dyfodol 2021-2022. pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Abertawe (Huw Evans) adroddiad a dynnodd sylw at 15 Ebrill 2021 fel y dyddiad olaf a drefnwyd ar gyfer Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Roedd yr adroddiad yn ceisio ymestyn y cyfarfodydd a drefnir hyd at 7 Ebrill 2022.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi dyddiadau'r Cyd-bwyllgor y cytunwyd arnynt yn flaenorol:

 

10 Rhagfyr 2020

11 Chwefror 2021

15 Ebrill 2021

14 Ionawr 2021

11 Mawrth 2021

-

 

2)              Cymeradwyo'r dyddiadau ar gyfer y dyfodol fel yr amlinellir isod:

 

13 Mai 2021

9 Medi 2021

13 Ionawr 2022

10 Mehefin 2021

14 Hydref 2021

10 Chwefror 2022

8 Gorffennaf 2021

11 Tachwedd 2021

10 Mawrth 2022

12 Awst 2021

9 Rhagfyr 2021

7 Ebrill 2022

Wythnos 1af Ebrill er mwyn osgoi'r Pasg

 

7.

Egwyddorion Caffael Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Ymgysylltu â Busnes Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Peter Austin) adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth o ddrafft terfynol yr Egwyddorion Caffael ar gyfer caffael Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r Egwyddorion Caffael ar gyfer Caffael Prosiect Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

8.

Strategaeth Rheoli Risgiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog Cymorth Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Amanda Burns) adroddiad a oedd yn ceisio Strategaeth Rheoli Risg a Chofrestr Risg gytunedig ar gyfer Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Risg a'r dull cytunedig i'w oruchwylio gan Fwrdd y Rhaglen fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)              Nodi'r Gofrestr Risg Portffolio ddiweddaraf a’r Asesiad Effaith COVID-19 fel y'u nodir yn Atodiadau B a C yr adroddiad.

9.

Cynllun Gweithredu'r Portffolio. pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Datblygu Portffolio Rhanbarth Dinas Bae Abertawe (Ian Williams) adroddiad a oedd yn ceisio cytuno bod y Cynllun Gweithredu yn ymateb i’r  Adolygiad Swyddog Cyfrifyddu (ASC) ac argymhellion Adolygiad Porth 0.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo Cynllun Gweithredu'r Portffolio fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb i’r ASC a’r argymhellion Adolygiad Porth 0 fel y nodir yn Atodiadau B a C yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo Cynllun Gweithredu'r Portffolio fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad fel templed ar gyfer adrodd ar flaenraglen waith Rheolwr y Portffolio yn y dyfodol.

10.

Adroddiad Monitro Chwarterol. pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe (Jonathan Burnes) adroddiad a oedd yn amlinellu Adroddiad Monitro Chwarterol Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe a'i brosiectau cyfansoddol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r adroddiad  Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio Dinas-ranbarth Bae Abertawe a'i brosiectau cyfansoddol.

11.

Pentre Awel. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Sharon Burford (Cyngor Sir Gâr) gyflwyniad ar brosiect Pentre Awel.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Y dylid nodi'r cyflwyniad.

12.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 282 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

13.

Achos Busnes Pentre Awel - gydag Adborth y Bwrdd Strategaeth Economaidd

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Prosiect (Sharon Burford) adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer Cynllun Busnes Prosiect Pentre Awel a chymeradwyaeth i gyflwyno'r model achos busnes pum achos yn ffurfiol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Gâr.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo cyflwyno model achos busnes pum achos Pentre Awel i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ffurfiol.

 

2)              Dirprwyir awdurdod i'r Uwch-swyddog Cyfrifol wneud unrhyw newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen i gael eu cymeradwyaeth.

 

3)              Dylid nodi'r datganiad sefyllfa a ddarperir yn yr adroddiad.